Iwan Steffan: 'Gwerthfawrogi pobl' ar ôl colli Mam pan yn ifanc

Iwan SteffanFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Iwan Steffan yn creu cynnwys ar TikTok, lle mae ganddo dros 200,000 o ddilynwyr

  • Cyhoeddwyd

Mae'r cyflwynydd Iwan Steffan wedi dweud bod colli ei fam pan oedd o'n 13 oed wedi gwneud iddo werthfawrogi'r bobl sydd yn ei fywyd.

Er ei fod wedi bod drwy sawl cyfnod gwahanol o alaru, mae o bellach yn ceisio cael agwedd mwy positif tuag at y profiad "erchyll" a bod yn hapus er parch i'w fam.

Wrth siarad ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru dywedodd: "Mae'n rhaid i ni weld yr harddwch yn bob dim ac wrth gwrs ar y pryd roedd mynd trwy hynny - does 'na ddim geiriau i ddeud am hynny.

"Ond er bod o'n erchyll mynd trwy hynny'n 13 oed, rŵan fel oedolyn dwi wir yn gallu delio efo unrhyw beth.

"Felly os mae 'na golled rŵan - achos 'da ni'n mynd trwy colledion trwy'n bywyd ni i gyd - dwi'n gallu delio efo fo achos dwi wedi mynd trwy rywbeth gwaeth.

"Er wnaeth [colli Mam] gymryd i ffwrdd gymaint, roedd o'n rhyw fath o rodd hefyd achos mae o wedi 'neud i fi werthfawrogi pobl yn fy mywyd ac mae o wedi 'neud fi allu delio efo unrhwybeth achos bydd dim byd yn gallu bod mor ddrwg â hynny."

'Parchu Mam a bod yn hapus'

Bellach yn byw yn Lerpwl, fe gafodd y cyflwynydd a llysgennad TikTok ei fagu yn Rhiwlas, ger Bangor.

Roedd hynny gyda'i chwiorydd hŷn - yr awdur Manon Steffan Ros a'r cerddor Lleuwen Steffan.

Bu farw eu mam, Siân Eaves o waeledd yn 2003 pan oedd Iwan yn ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Ogwen.

Meddai: "Diwrnod cynta' nôl yn yr ysgol roedd rhywun wedi dweud 'ha ha mae dy fam wedi marw' ac roedd hynny wedi brifo fi'n fawr.

"Mae plant yn gallu bod yn gas, yn enwedig pobl mor sensitif fel fi - dwi'n feddal ofnadwy a dwi yn fregus."

Iwan Steffan a'r gyflwynwraig Beti George
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Iwan Steffan yn siarad gyda'r gyflwynwraig Beti George

Ac yntau nawr yn 35 oed, eglurodd bod ei ffordd o ddelio gyda'i alar a'i agwedd at fywyd yn gyffredinol wedi newid dros y blynyddoedd.

Meddai: "Nath [Mam] ddod a fi fewn i'r byd yma i fyw ac i fod yn hapus a dwi'n meddwl mai'r ffordd hawsa' i barchu Mam ydi byw a bod yn hapus ac edrych ar ôl fy hun - dyna ydi'r ffordd barchus.

"Dwi ddim yn meddwl fasa hi isio fi gerdded o gwmpas 'o dwi wedi bod trwy gymaint', achos dwi wedi bod drwy'r stage yna a dio ddim yn iach. Mae o'n tyfu arna chdi fel rhyw fath o diwmor.

"Ond dwi yn ddiolchgar bod fi wedi cael gwers mor erchyll yn ifanc achos dwi'n gwybod yn union sut i drin pobl rŵan a sut i werthfawrogi pethau yn iawn."

'Dwi ddim yn cofio llais Mam'

Ond mae tristwch yn dal i godi ar adegau, meddai.

Pan roedd o'n cael ei fagu roedd cymaint llai o dynnu lluniau a fideos na sy'n digwydd erbyn heddiw, ac oherwydd hynny dim ond ychydig iawn o luniau sydd ganddo o'i fam.

"Yr unig beth dwi yn mynd yn drist am ydi dwi ddim yn cofio lot felly dwi ddim yn cofio llais Mam ac mae hynny'n brifo dipyn bach.

"Ond dwi'n teimlo hi bob tro dwi'n mynd nôl i Riwlas a pan dwi'n edrych ar y mynydd neu mae'r haul yn hardd - dwi'n ei theimlo hi a dwi'n teimlo mod i mewn lle heddychlon efo hynny rwan.

"Dwi byth yn ypsetio mwy a dwi'n gwenu yn lle ac mae'n neis."

Pynciau cysylltiedig