Steve Eaves a'i Driawd teuluol
- Cyhoeddwyd
Maen nhw'n deulu creadigol ac yn enwau cyfarwydd yn y byd cyhoeddus Cymraeg - y cerddor Steve Eaves a'i blant Lleuwen Steffan, Manon Steffan Ros ac Iwan Steffan.
Tra bod Steve yn parhau i gyfansoddi a denu cynulleidfaoedd i'w gigs, mae Lleuwen newydd gwblhau taith genedlaethol Tafod Arian (Emynau Coll Cymru), ac fe enillodd Manon Steffan Ros wobr Carnegie llynedd am ei chyfieithiad o'i nofel Llyfr Glas Nebo.
Nawr mae cyw'r nyth - y cyflwynydd Iwan Steffan, sydd bellach yn 34 ac yn byw yn Lerpwl a gyda bron i 200,000 o ddilynwyr ar TikTok - yn teithio o'r ddinas yn ôl i ogledd Cymru at ei deulu i drafod eu perthynas a'u magwraeth.
Dyma ddetholiad o'u sylwadau o raglen O Lerpwl i Riwlas ar Radio Cymru:
Iwan a Steve
Iwan: Oedda ni'n mynd ar deithiau am hir iawn pan o'n i'n hogyn bach... oedda ni'n dreifio i bob man, i'r de ag oedda chdi'n mynd a fi ar wyliau a dwi'n cofio chdi'n dŵad a fy hoff albym o dy waith di i gyd – Iawn. Mae bob trac ar hwnna Dad yn bangar! Ond cyn i ni gael CDs a streamio stwff oedda chdi'n cael y demos ar y tâp doeddat… a dwi'n cofio chdi'n dangos y trac yma i fi o'r enw Isel… a dwi'n cofio chdi'n deud gwranda ar hwn...
Steve: Y bas o'n i'n licio ar hwnna, y patrwm bas.
Iwan: (A'r gân) Iesu Grist ar y Trên o Gaer – dwi'n cofio chdi'n dangos hwnna i fi a deud "be' ti'n feddwl o'r gân yma?" roedd fy marn i yn bwysig amser maith yn ôl! Dwi'n cofio chwarae'r albym yna drosodd a drosodd.
Steve: Be' oedd yn ddiddorol am hwnna ydi bod Gwyn Maffia yn chwarae djembe... fatha drwm Affricanaidd - ac mae'r nodau mor ddyfn ar y djembe mae bron yn subsonic a pan oedda nhw'n trio mastro'r albym yn Sain roedd hynna yn andros o job anodd achos roedd y sŵn mor ddyfn i drio trosglwyddo hwnna i CD.
Dwi'n cofio nhw'n cwyno am hwnna dipyn bach. Dyna be' dwi'n cofio am Iesu Grist ar y trên o Gaer.
Iwan a Manon
Manon: 'Da ni 'di bod mor, mor lwcus o'n rhieni… mewn gwirionedd dyna ydi'r peth gorau ti'n gallu cael mewn bywyd ydi rhieni da a da'n ni wedi cael hynny ond nath Mam farw yn rhy ifanc yn enwedig i chdi achos roedda chdi mor ifanc, Iw, a dwi'n meddwl bod hynny wedi effeithio a dylanwadu arna ni i gyd ond ma'n parhau. Ma'n amser maith yn ôl rwan, ond mae o yn dal i effeithio arna ni.
Iwan: Dwi'n meddwl bod geno ni lwybr, neu dyna'r ffordd dwi 'di coelio, a dwi ddim yn teimlo ges i lot o amser i dyfu fel person pan o'n i'n ifanc achos o'n i'n trio cuddio fy hun... dim bod yn fi fy hun.
Manon: A dwi'n meddwl mai rhan o hynny ydi pan mae rhywun yn dy sefyllfa di – ti 'di cael dy fagu mewn lle mor wledig achos yn y pentref yn sicr doedda ni ddim yn nabod pobl hoyw nagoeddan? Felly doedd dim model yna i chdi ddilyn, mai dyna ydi'r ffordd i fi fod yn fi fy hun a bod yn agored.
Ac wedyn bod chdi wedi colli Mam pan oedda chdi'n dair ar ddeg. Ti yn mynnu gwynebu bob dim mewn ffordd positif iawn.
Iwan: Hynny ydi'r peth gwaetha sy'n gallu digwydd i rywun ond mae o wedi rhoi rhyw fath o armour i fi. Os mae rhywbeth yn digwydd rŵan a dwi ddim isho fo ddigwydd mewn bywyd dwi'n gwbod bod fi'n gallu delio efo fo achos da'n ni wedi neud o o'r blaen.
Dwi'n ddiolchgar iawn bod fi'n gallu bod yma a deud y gwir ac ella cael llais i'r bobl oedd ddim efo llais o'r blaen.
Iwan a Lleuwen
Iwan: Dwi'n gwrando ar dy gerddoriaeth yn aml... dwi'n licio lot o'r stwff hen a dwi yn licio herian chdi weithia yn dydw.
Ti 'di byw mewn amryw o lefydd, Llundain, ar draws Cymru... ac mae lot o lle ti'n byw wedi effeithio dy gelf di. Sut wyt ti'n meddwl bod byw yn Llydaw, achos ti 'di byw yno ers amser hir rŵan, sut ti'n meddwl bod hynny wdi effeithio steil y gerddoriaeth chdi?
Lleuwen: Draw fana maen nhw lot mwy parod i ganu yn rwla.
Yng Nghymru - 'da ni'n gantorion gwych, ac o'n i ddim hyd yn oed yn sylwi hynny pan o'n i'n byw yng Nghymru. Dydi pobl yn Llydaw er enghraifft methu canu mewn pedwar llais jest fel yna - mae hwnna'n rwbath gynhenid Cymreig - ond yn Llydaw maen nhw'n neud miwsig yn rwla.
'Dio ddim byd i neud efo cywirdeb - mae o'n fwy blêr. Dwi'n meddwl ella bod fy miwsig wedi mynd yn fwy gwerinol os rhywbeth ers pan o'n i'n byw yn y ddinas pan o'n i'n mynd mwy efo synnau mwy electronig.
Gallwch wrando ar O Lerpwl i Riwlas ar BBC Sounds
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mai 2024
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2023