Pum munud gyda Bardd y Mis: Aron Pritchard

  • Cyhoeddwyd

Aron Pritchard o Gynwyl Elfed yw Bardd Mis Rhagfyr Radio Cymru. Bellach yn byw yng ngogledd Caerdydd mae'n talyrna gyda thîm Aberhafren ac yn ymrysona gyda thîm Morgannwg.

Cyhoeddodd gasgliad o gerddi sef Adenydd a Chadwyni, ar y cyd â’i fam yn 2018 ac fe gyhoeddodd Egin, ei gasgliad unigol cyntaf eleni.

Dyma gyfle i ddod i'w adnabod.

Ffynhonnell y llun, Aron Pritchard
Disgrifiad o’r llun,

Aron yn Nulyn yn 2024

Rydych chi’n fab i’r bardd Ruth Pritchard. Ydy barddoni yn eich gwaed a sut dechreuoch chi farddoni?

Ydy, mae barddoni'n bendant yn y gwaed, ac i Mam mae'r diolch pennaf am fy annog, ers yn grwt, i wireddu'r potensial hwnnw. Ry'n ni eisoes wedi cyhoeddi cyfrol o gerddi ar y cyd (Adenydd a Chadwyni, Gwasg Carreg Gwalch, 2018)!

At hynny, mae arna i ddyled oes i Tudur Dylan ac Ysgol Farddol Caerfyrddin am ddyfalbarhau gyda fi pan oeddwn i'n brentis o gynganeddwr!

Yn ei hanfod, fydden i'n dweud fy mod i'n fardd wrth reddf, sy'n gyson yn teimlo cymhelliant i ymateb i'r byd o'm cwmpas, a cheisio gwneud synnwyr ohono.

Er fy mod i'n gresynu, weithie, bod gyda ni ddiwylliant barddol mor gystadleuol yng Nghymru, yn ddiamheuol, mae Eisteddfodau, y Talwrn, ac ati, yn anhepgor o ran anelu at safon, a mireinio'r grefft.

Ffynhonnell y llun, Tudur Dylan Jones
Disgrifiad o’r llun,

Darllen cerdd ar raglen Y Talwrn, Radio Cymru

Rydych yn cynnal dosbarth cynganeddu yng Nghaerdydd. Beth yw eich cyngor i unrhyw un sydd eisiau dysgu’r grefft?

Un o'r pethe cynta wnaeth fy nharo wrth ddechrau cynnal dosbarthiade ar gyfer Menter Caerdydd yw gallu'r gynghanedd i ddenu cymysgedd rhyfeddol o gefndiroedd!

Yn y dosbarth, mae gyda fi bobol rhifau, y rheini sy'n gweithio gyda data a mathemateg (ac yn llawn chwilfrydedd am bosibiliadau algorithmig y gynghanedd, dybiwn i), ynghyd â phobol sy'n gweithio ym meysydd iaith a chreadigrwydd.

Prin iawn yw'r cyngor fydden i'n ei roi i unrhyw un sy eisoes wedi'u swyno gan y cyfrwng barddol syfrdanol hwn – cofleidio hynny fydda i.

Fodd bynnag, os yw'n rhaid wrth gyngor, y ddau beth allweddol fydden i'n dweud sy angen er mwyn datblygu fel cynganeddwr yw ymarfer yn gyson, a darllen cerddi caeth yn gyson.

Fel un sy’n gweithio i wasanaeth Cyfieithu a Chofnodi’r Senedd, ydy eich sgiliau fel bardd yn dod yn ddefnyddiol?

Credwch neu beidio, gradd yn y Gyfraith sy gyda fi, a'm maes arbenigol yn y Senedd yw cyfieithu deddfwriaethol!

Yn fynych, y bobl mwya creadigol ar y tîm sy'n tueddu tuag at waith deddfwriaethol ond mae gyda fi ddamcaniaeth ynghylch hynny: Rwy'n berson geiriau, ac mae cydberthynas geiriau â'i gilydd yn fy nghyfareddu.

Mae natur deddfwriaeth bron fel strwythur cywydd – mae yna reolau sownd o ran gosodiad y darn, ac mae rhywun yn gorfod pendroni ynghylch yr union eiriad, ar sail cynseiliau, ac ati.

Am beth fyddwch yn barddoni?

Wel, rwy'n greadur empathig iawn (i raddau gormodol, ar brydie), felly mae cyflwr y byd sy ohono, gyda'i anghyfiawnderau a'i ryfeloedd, yn golygu bod llunio cerdd gathartig yn fater o raid. Sori, ma hwnnw'n ateb digalon!

Yn gyffredinol, bydd anian synhwyrus bardd yn sbarduno'r angen i greu cerdd sy, gyda gobaith, yn creu argraff ar y sawl sy'n ei darllen. Gall rhywbeth mor elfennol â phentwr o ddail crin mewn cwter fy ysbrydoli.

Beth arall fyddwch chi’n hoff o’i wneud yn eich amser sbâr?

Wrth reswm, mae sgrifennu'n hawlio talp nid ansylweddol o'm hamser sbâr! Fodd bynnag, yn y byd go iawn, mae cerddoriaeth yn gydymaith cyson. Rhyw fath o indie kid o'r nawdegau ydw i yn y bôn (er mai cerddoriaeth electronig yw'r cariad cynta), ac yn hoffi grwpiau ac artistiaid mor amrywiol â Bloc Party ac Everything but the Girl, HMS Morris ac Ani Glass.

At hynny, mae canu gyda Chôrdydd wedi fy nghyflwyno i gyfoeth o ddarnau clasurol, fe fydd canu O magnum mysterium liw nos, wrth ymarfer yn festri capel Salem yn fy nghyffwrdd bob tro.

Rwy'n deithiwr brwd, ac yn mwynhau crwydro llefydd sy'n rhychwantu Ucheldir yr Alban, a Downtown Manhattan. Fe fydda i'n mwynhau darllen, er taw'r radio yw fy hoff gyfrwng.

Rwy'n dipyn o nerd snwcer, a hefyd yn meddu ar deyrngarwch teuluol i glwb pêl-droed Caerdydd. Dyw hynny ddim yn hawdd, ar hyn o bryd!

Ffynhonnell y llun, Aron Pritchard
Disgrifiad o’r llun,

Aron yn West 40th Street, Manhattan

Beth yw eich hoff linell o gynghanedd?

Yn nhywyllwch canhwyllau

Llinell gan Emyr Lewis, ac enghraifft o athrylith y gynghanedd. Dyw 'yng ngoleuni canhwyllau' ddim yn cynganeddu, ond mae 'yn nhywyllwch canhwyllau' gymaint yn fwy effeithiol.

Fel bardd mis Rhagfyr, pa fardd, byw neu farw fyddech chi’n gwahodd am ginio Nadolig a pham?

Iwan Llwyd. Ro'n i'n deall Iwan Llwyd. Ro'dd ganddo ddeallusrwydd emosiynol acíwt, ac fe fyddai'n gallu troi hynny i mewn i'r cerddi mwya cyffroadol:

Pan fo angylion yn hedfan heibio,

a sŵn eu dyfod fel dail yn gwlitho,

neu dwrw barrug ar ffenestri bro...

At hynny, rwy'n rhannu'r chwilfrydedd dwfn a oedd ganddo am America. Fydden i'n dweud ei fod e'n arloeswr, yn hynny o beth, gyda'i fod wedi gwau agweddau ar y diwylliant Americanaidd i'n traddodiad barddol.

Yn yr hydref y llynedd, fe fues i'n crwydro ychydig o ogledd ddwyrain yr Unol Daleithiau, a sylwi mai Far Rockaway oedd y gyrchfan ar un o begynau eithaf yr A Train ar y Subway. Ro'dd yn rhaid mynd yno, wrth gwrs, ac ro'dd y lle'n ddrych-ddelwedd o gerdd Iwan, "lle mae cwr y ne yn golchi'i thraed ym mudreddi'r traeth". Fe sgrifennais i englyn tra ro'n i yno:

Wel, Iwan, mae hi'n glawio yma'n drwm,

ond er hyn, rwy'n teimlo

ar y brics, rhwng cleber bro,

yr awen na all freuo.

Disgrifiad o’r llun,

Far Rockaway, Hydref 2023 - cymdogaeth yn Efrog Newydd a ysbrydolodd un o gerddi Iwan Llwyd