Pum munud gyda Bardd y Mis: Meirion Jones
- Cyhoeddwyd
Meirion Jones yw Bardd y Mis ar BBC Radio Cymru ym mis Medi 2024. Cafodd Cymru Fyw sgwrs efo fo i ddod i'w adnabod mymryn yn well.
Pensaer ydych chi; dywedwch ychydig am eich gyrfa a’r hyn a’ch denodd at y maes.
Yn fachgen, roedd gennyf ddiddordeb mewn gwneud pethau allan o bren yng ngweithdy fy nhad oedd yn saer coed ac adeiladwr.
Yn yr ysgol roeddwn yn mwynhau arlunio a gwaith coed, tra fel teulu roeddem yn ymweld ag eglwysi’n go aml, a hyn oll sbardunodd ddiddordeb ynof mewn pensaernïaeth.
Mae pensaernïaeth yn cyfuno’r celfyddydau, hanes, a’r gwyddoniaethau, ac roedd hynny’n apelio.
Wedi astudio yn Ysgol Bensaernïaeth Cymru yng Nghaerdydd, dychwelais i Ddyffryn Teifi i weithio i Gymdeithas Tai yn addasu hen dai a dylunio rhai newydd cyn cymhwyso’n bensaer.
Wedi hynny bum yn gweithio i gwmni o benseiri cenedlaethol, ac wedyn fel partner o fewn cwmni pensaernïol bychan, a lle bum yn dylunio a rheoli prosiectau adeiladu amrywiol, o ysgolion i adeiladau i brifysgolion, tai preifat, ffatrïoedd ac ati.
Cyn i mi ymddeol eleni roeddwn yn gweithio fel pensaer, ac yn rheoli tîm o fewn Cyngor Sir Caerfyrddin ar amryw o brosiectau.
Roeddech chi yn y grŵp Treiglad Pherffaith. Sut ydych chi’n edrych yn ôl ar y cyfnod hwnnw?
Grŵp coleg oedd hwn, ac fe fwynheais yn fawr y cyfle i chwarae gitâr fas gyda phedwar o’m ffrindiau, cyfansoddi caneuon, creu recordiau a recordio ar gyfer rhaglenni teledu.
Cafwyd llawer o hwyl wrth deithio ledled Cymru i wahanol gigs, a dod i adnabod y wlad drwy ffenest bws mini a faniau amrywiol. Cyfnod cyffrous iawn oedd hwn.
Yn anffodus, nid yw’r gân Madog y Morwr yn dod a llawer o freindal y dyddiau hyn.
Pryd dechreuoch chi ysgrifennu’n greadigol?
Nid oeddwn wedi gwneud llawer o hyn yn yr ysgol, ond roedd ambell fardd gwlad yn arfer galw yn ein tŷ ni pan oeddwn yn blentyn, ac yn datgan cerddi, tra'r oedd adrodd mewn ambell ‘steddfod wedi cyflwyno prydferthwch geiriau, mydr ac odl ac ati i mi.
Mae’n rhaid fod hyn oll wedi treiddio i’r ymennydd.
Fe wnes unwaith dreulio penwythnos gyfan pan yn y coleg yn trio ysgrifennu englyn digri gan ddilyn y rheolau o’r hyn a gofiais o ddyddiau ysgol. Ni chaf fy nghofio am yr englyn hynny.
Gweld Mererid Hopwood yn ennill y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych yn 2001 oedd yr ysbrydoliaeth oedd angen arnaf i ddechrau o ddifri, ac fe ymunais ag Ysgol Farddol Caerfyrddin yn syth wedi hynny.
Hyd yn hyn, ag eithrio limrigau, caneuon, penillion telyn ac ati, yn y mesurau caeth rwyf wedi bod yn cyfansoddi, ond erbyn hyn ‘rwyf am ysgrifennu yn rhydd hefyd.
Beth sydd yn eich ysbrydoli chi i farddoni? Lle fyddwch chi’n cael eich syniadau?
Byddaf yn ysgrifennu ambell englyn ar gyfer achlysuron teuluol, tra hefyd yn ceisio ymateb i destunau ar gyfer eisteddfodau a thalyrnau.
Mae’r ysbrydoliaeth yn gallu dod mewn amrantiad, ond hefyd ar ôl cyfnod o fyfyrio.
Gan fy mod yn byw yn y wlad, mae byd natur yn naturiol yn ysbrydoliaeth, ac mae syniadau yn dod yn aml ar deithiau cerdded.
Mae gennyf flwch yn llawn syniadau am gerddi â ddeilliodd o rhyw fflach gefais ar hyd y blynyddoedd, ond hyd yn hyn nid wyf wedi cael cyfle i’w hystyried, cyn eu taflu mwy na thebyg!
Mae cerddi ysgafn gogleisiol yn apelio’n fawr ataf.
Petaech yn gallu bod yn fardd arall am ddiwrnod – byw neu hanesyddol – pwy fyddai o neu hi, a pham?
Hoffwn petawn yn gallu bod yn Dic Jones am ddiwrnod, a hynny oherwydd ei ddawn aruthrol i ysgrifennu mor naturiol, syml, ac uniongyrchol am gefn gwlad a’i phobl, ond hefyd ei ddawn i ddweud pethau oesol mewn modd naturiol, syml, ac uniongyrchol.
Roedd yn fardd dwys, athronyddol oedd hefyd yn meddu ar synnwyr digrifwch penigamp, gyda rhai o’i englynion digri gyda’r gorau erioed. Bardd ei filltir sgwâr oedd hefyd yn fardd cenedlaethol, a bydd rhai o’i gerddi yn fyw tra bydd y Gymraeg.
Pa ddarn o farddoniaeth fyddech chi wedi hoffi ei ysgrifennu, a pham?
Mae hyn yn gallu amrywio yn ôl fy hwyliau, amser y flwyddyn ac ati, ond gan fy mod wedi crybwyll Dic Jones uchod yna, y tro yma fe ddewisaf ei Hir a Thoddaid, Cyfaill.
Mewn chwech llinell degsill o gynghanedd, mae’r gerdd yn crisialu’n hollol beth yw gwir ystyr cyfaill, gan fynegi mewn modd syml ei fod ef y bardd a’i gyfaill yn rhannu popeth; eu gobeithion, eu dioddef, eu llwyddiannau, gan ddiweddu trwy ddweud eu bod yn rhannu pob llawenydd hefyd.
Fel mewn pob englyn neu Hir a Thoddaid da, ni ellir gweld unrhyw air llanw, gor-ddweud, neu straen, ac nid oes eisiau ychwnaegu’r un dim.
Beth sydd ar y gweill gennych ar hyn o bryd?
Ers tair wythnos, rwyf wedi bod yn gweithio bron yn ddyddiol ar ail-adeiladu patio yn yr ardd, ac yn mwynhau gwneud y gwaith corfforol ac adeiladol!
Rwyf hefyd wedi bod yn agor rhai o’r llyfrau fu’n gorwedd ar silffoedd ers blynyddoedd, ac wedi dechrau pori ynddynt.
Rwy’n parhau i ganu gyda Chôr Ar ôl Tri, mynd ar rai o deithiau cerdded Clwb Mynydda Cymru, a helpu i warchod dwy wyres fach brysur sy’n byw gerllaw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Awst
- Cyhoeddwyd7 Mehefin
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2023