Pum munud gyda Bardd y Mis: Gwen Saunders Collins
- Cyhoeddwyd
Bardd y Mis mis Hydref 2024 yw Gwen Saunders Collins. Un o Ynys Môn yw hi, ac mae hi a'i theulu yn byw ym mhentref Llannerch-y-medd.
Mae wedi cyhoeddi ei cherddi mewn amryw gyhoeddiadau fel Barddas, a Dweud y Drefn Pan Nad Oes Trefn.
Mae'n rhedeg cyfrif Instagram 'Caffis a Babis' yn ei hamser sbâr.
Cafodd Cymru Fyw sgwrs sydyn gyda hi i ddod i'w hadnabod yn well.
Pryd dechreuoch chi ysgrifennu’n greadigol?
Mi wnes i ddechrau yn yr ysgol gynradd ym Moelfre, a chystadlu yng nghystadlaethau llên Eisteddfod Marian-glas, sef ein heisteddfod leol ni, ac yn Eisteddfod yr Urdd pan oeddwn yn yr ysgol uwchradd.
Ar ôl astudio’r Gymraeg ym Mangor a darfod fy Noethuriaeth, cyhoeddi erthyglau academaidd ac adolygiadau nes i, yn hytrach nag unrhyw gynnyrch creadigol. Ond mi wnes i ddilyn gwersi cynganeddu ar Twitter dipyn o flynyddoedd yn ôl, a chael blas mawr ar hynny.
Dyma ail-afael ynddi a chyhoeddi ambell i gerdd.
Dywedwch wrthon ni am ‘Caffis a Babis’ a’r hyn a’i ysbrydolodd.
Cyfrif Instagram nes i ei ddechrau pan oedd Elis tua 6 mis oed, ar ôl sylweddoli fy mod i’n crafu fy mhen am gaffis a oedd yn addas i bramiau.
Mi wnes i glywed criw o genod mewn grŵp babis yn dweud eu bod hwythau hefyd yn cael trafferth meddwl am lefydd addas, felly dyma ddechrau’r cyfrif, sydd wedi mynd o nerth i nerth ers 2019.
Mae cael cyfrif Cymraeg hefyd yn eithriadol o bwysig i mi, gan mai prin yw’r cyfrifon Cymraeg sy’n trafod babis a’r profiad o fod yn rhiant.
Lle fyddwch chi’n cael eich syniadau am gerddi a gwaith creadigol?
Mae syniad yn gallu codi o unrhyw le – er enghraifft, ar gyfer fy ngherdd gyntaf ar gyfer Bardd y Mis, roeddwn newydd fod ar wyliau i Bortiwgal efo’r teulu, ac mi ddeilliodd syniad o hynny.
Mae fy mhlant hefyd yn ffynhonnell dda, gan eu bod yn gweld pethau o bersbectif hollol wahanol.
Dwi hefyd yn hoff o wrando ar sgyrsiau pobl!
Petaech yn gallu bod yn fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fydden nhw a pham?
Alis ferch Gruffudd; hi oedd testun fy Noethuriaeth a fy llyfr.
’Swn i wrth fy modd yn cael gwybod union amgylchiadau cyfansoddi ei cherddi, pwy oedd yn eu clywed ac yn lle.
Maes annelwig iawn ydi barddoniaeth Gymraeg y Cyfnod Modern Cynnar, felly mi fasa cael bod yn hi am ddiwrnod yn ateb llawer o fy nghwestiynau!
Hefyd, Amanda Gorman – mi ydw i wrth fy modd efo hi a’i gwaith.
Mae hi wedi cyflawni gymaint a hithau dal yn ifanc. Mae hi’n gymeriad sy’n herio ac yn gwthio ffiniau. Mae hi hefyd wedi gwneud barddoniaeth yn hygyrch i gynulleidfa ehangach.
Pan fyddwch chi ddim yn ysgrifennu, be fyddwch chi’n hoffi’i wneud i ymlacio?
Mae amser ymlacio yn gallu bod yn brin efo teulu ifanc, ond mae o mor bwysig, ac mae fy ngŵr a finnau’n dda am neilltuo amser i’n gilydd i gael seibiant, gyda’r llall yn mynd â’r plant am dro.
Heblaw am fynd i hel fy mol mewn caffis, dwi’n hoffi mynd drwy fy rhestr wylio ar y teledu a dal i fyny gyda chyfresi realiti Americanaidd fel Selling Sunset, gwylio comedis fel C’mon Midffîld a The Office a rhaglenni fel y Llinell Las ac Ar Brawf.
Beth sydd ar y gweill gennych ar hyn o bryd?
Mi fydd gen i ddwy gerdd newydd yn cael eu cyhoeddi mewn cyfrolau gwahanol ac mi ydw i hefyd yn gweithio ar lyfr i blant ifanc.
Wrth ddarllen i’r plant, mi sylwais gymaint o addasiadau oedd allan yna a’r prinder mewn llyfrau Cymraeg gwreiddiol. Mi es i i Dŷ Newydd ar gwrs ‘Sut i Ysgrifennu i Blant' efo Casia Wiliam llynedd, ac mi oeddwn yn llawn syniadau yn dod oddi yno. Diwrnod arbennig mewn lle ysbrydoledig.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd18 Medi
- Cyhoeddwyd7 Mehefin
- Cyhoeddwyd1 Awst