Tâl mamolaeth isel yn rhoi teuluoedd mewn sefyllfa 'amhosib'

Mae Maternity Action UK yn galw ar Lywodraeth y DU i ystyried effeithiau difrifol tâl mamolaeth statudol ar iechyd plant a menywod
- Cyhoeddwyd
Mae tâl mamolaeth statudol isel yn gwthio gormod o fenywod a phlant mewn i dlodi ac yn rhoi teuluoedd mewn sefyllfaoedd ariannol heriol, yn ôl arolwg newydd.
Fe wnaeth hanner y mamau wnaeth ymateb i arolwg elusen Maternity Action UK nodi eu bod yn prynu bwyd llai iach oherwydd y gost, tra bod bron i ddau o bob pump yn dweud eu bod yn bwyta llai neu'n mynd heb rai prydau.
Yn ôl yr elusen, yn 2012 roedd tâl mamolaeth statudol yn tua dwy ran o dair o'r cyflog byw cenedlaethol ac erbyn heddiw mae wedi gostwng i lai na hanner.
Felly mewn termau real mae tâl statudol mamolaeth tua £5 yr awr i gymharu â'r cyflog byw cenedlaethol o thua £12 yr awr.
Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn "deall yr heriau sy'n wynebu menywod beichiog a mamau newydd" a'u bod yn "benderfynol o ddarparu'r gefnogaeth sydd ei angen".

Mae Carys yn dweud bod sgil effeithiau bod ar gyfnod mamolaeth yn dal i achosi heriau i'r teulu
Mae Carys o Geredigion yn fam i ddau o blant, ac er ei bod hi nôl yn y gwaith erbyn hyn, mae'r sgil effeithiau o fod ar gyfnod mamolaeth yn dal i achosi straen.
"Mae'n gallu bod yn heriol iawn i ni a 'da ni'n deulu gyda dau incwm llawn amser," meddai.
"Mae fy nghalon i'n mynd mas i deuluoedd sy'n byw mewn tlodi. Os mae'n anodd i ni dwi'n gallu dychmygu bod pethau'n amhosib iddyn nhw."
Ar ôl dychwelyd i'r gwaith a dechrau meddwl am ddyfodol y teulu, dywedodd fod y sefyllfa bresennol yn golygu fod penderfyniadau anodd yn wynebu hi a theuluoedd eraill.
"Ma' nghalon i'n dweud hoffwn i gael plentyn arall," ychwanegodd.
"Yng Nghymru, ac yng Ngheredigion yn enwedig, mae poblogaeth sy'n heneiddio gyda ni ac mae angen mwy o blant a theuluoedd - ond y realiti yw sai'n credu dwi'n gallu neud e heb newidiadau."
Canlyniadau'r arolwg yn 'syfrdanol'
Mae Rhian Beynon yn gyfreithwraig cyflogaeth gydag elusen Maternity Action UK ac mae hi'n credu bod canlyniadau'r arolwg yn "bryderus".
"Mae'r canlyniadau'n syfrdanol, yn enwedig wrth ystyried ein bod ni yn 2025," meddai.
"Ar ben hyn, mae'r argyfwng costau byw wedi bod yn effeithio pobl dros nifer o flynyddoedd nawr ac yn enwedig y ffaith fod pris hanfodion cartref fel bwyd, egni, morgais a chyfraddau llog a rhent wedi bod yn codi tra bod tal mamolaeth wedi cael ei adael ar ôl.
"Fe wnaeth pris bwyd godi tua 3% ond fe wnaeth tal mamolaeth statudol godi tua 1.7%."
- Cyhoeddwyd24 Mai
- Cyhoeddwyd21 Mai
- Cyhoeddwyd8 Chwefror
Mae Maternity Action UK yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i fynd i'r afael â'r ffaith bod tâl mamolaeth statudol yn cael ei drin yn annheg ac i ystyried yr effeithiau difrifol ar iechyd plant a menywod.
I deuluoedd fel un Carys, y pryder yw bod sgil effeithiau tâl mamolaeth statudol isel yn gallu parhau am flynyddoedd.
"Os bod pethe'n aros fel maen nhw ar hyn o bryd dwi'n meddwl byddwn ni methu cael tri phlentyn achos dyw e ddim yn deg ar ein merch gyntaf ni os yw hi'n 10 oed a does dal dim arian sbâr da ni," meddai Carys.
"Ma' hi angen gallu neud pethe pryd ma' hi'n teenager ac os y' ni dal yn teimlo effaith childcare a maternity leave dyw e ddim yn deg arni hi."
'Deall yr heriau'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig: "Rydyn ni'n deall yr heriau sy'n wynebu menywod beichiog a mamau newydd ac rydyn ni'n benderfynol o ddarparu'r gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw a'u teuluoedd.
"Dyna pam rydyn ni wedi lansio adolygiad absenoldeb rhiant a thâl er mwyn deall sut yn union gallai'r system gefnogi teuluoedd fel rhan o'n cynllun ar gyfer newid.
"Mae hyn yn ychwanegol i'r cynnydd i gyfradd arferol tâl mamolaeth statudol a gafodd ei gyflwyno ym mis Ebrill i sicrhau ei fod yn cynnal ei werth o ystyried lefelau chwyddiant."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.