Cyfyngu ar symud da byw o Loegr i Gymru oherwydd y tafod glas

Gwybedyn culicoides Ffynhonnell y llun, Sefydliad Pirbright
Disgrifiad o’r llun,

Gwybed man sy'n lledu clefyd y tafod glas, ac maen nhw'n medru heintio anifeiliaid fferm ag un brathiad

  • Cyhoeddwyd

Bydd cyfyngiadau yn cael eu cyflwyno ar symud da byw dros y ffin o Loegr i Gymru mewn ymateb i ledaeniad clefyd y tafod glas.

Bydd yn rhaid i wartheg, defaid a geifr brofi yn negyddol ar gyfer y feirws - sy'n gallu lladd anifeiliaid fferm - cyn iddyn nhw fedru cael eu cludo i Gymru.

Tra bod y tafod glas wedi lledu drwy rannau helaeth o Loegr erbyn hyn, does yr un achos wedi'i chofnodi yng Nghymru eleni ac mae'r llywodraeth yn dweud eu bod yn ceisio atal hynny "am mor hir a fedrwn ni".

Ond mae'r diwydiant amaeth wedi rhybuddio y gallai'r goblygiadau fod yn "gatastroffic" i fasnachu ar draws y ffin.

Milfeddyg yn brechu buwch yn ystod ymweliad a fferm yn Oosterzele,Gwlad Belg.Ffynhonnell y llun, Nicolas Maeterlinck
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru wedi caniatáu defnydd tri brechlyn newydd all leddfu symptomau'r tafod glas

Wedi'i wasgaru gan wybed mân, dyw'r feirws ddim yn fygythiad i ddiogelwch bwyd na iechyd pobl.

Ond gall gael oblygiadau difrifol ar anifeiliaid sy'n cnoi cil, fel defaid a gwartheg.

Mae diwydiant amaeth Cymru wedi'i ddominyddu gan ffermydd defaid a gwartheg.

Mae parth cyfyngedig yn Lloegr - sy'n rhwystro symudiad anifeiliaid - wedi parhau i ehangu yn ystod y misoedd diwethaf wrth i'r clefyd ledu.

Ond o 1 Gorffennaf, mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu dynodi Lloegr gyfan fel parth cyfyngedig.

Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y bydd y rhwystrau o ran symud anifeiliaid o fewn i Loegr yn diflannu, wrth i'r ffocws symud at annog ffermwyr i ddefnyddio brechlynnau newydd sy'n lleddfu symptomau'r clefyd.

'Cynyddu'r risg o ledaenu i Gymru'

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod penderfyniad Llywodraeth San Steffan yn un "anffodus", ond eu bod yn deall y rhesymau.

"Mae'r newid hwn yn cynyddu'r risg y gallai'r clefyd ledaenu i Gymru, naill ai trwy symud da byw heintiedig, neu wrth i wybed sy'n cario feirws y tafod glas ddod i mewn o'r tu hwnt i'r ffin," eglurodd y Dirprwy Brif-Weinidog Huw Irranca-Davies.

Mae Llywodraeth Cymru felly wedi gorfod cymryd "penderfyniad pwysig - gyda goblygiadau i'r sectorau da byw ac iechyd a lles anifeiliaid ledled Cymru," meddai.

Llun agos o dafod dafad sydd wedi troi'n las. Ffynhonnell y llun, Sefydliad Pirbright
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n orfodol i unrhyw un sy'n sylwi ar symptomau'r tafod glas i'w hadrodd nhw

Roedd arweinwyr y diwydiant amaeth wedi galw am gyd-fynd a'r drefn yn Lloegr, a pheidio â chyflwyno cyfyngiadau ar symud da byw dros y ffin - gan frandio hynny fel "ymdrech ofer ac anymarferol".

Dywedodd Mr Irranca-Davies, sydd hefyd â chyfrifoldeb dros faterion gwledig, ei fod yn gwerthfawrogi bod 'na deimladau cymysg a'i fod wedi gwrando ar farn ffermwyr a milfeddygon.

Ond yn y pendraw daeth i'r casgliad na allai "wahodd y tafod glas i Gymru ar 1 Gorffennaf trwy gyd-fynd â'r parth cyfyngedig yn Lloegr."

"Nid wyf yn fodlon peryglu effaith ansicr y clefyd mewn ardaloedd lle mae llawer o dda byw, fel y Gororau," meddai.

"Rwyf hefyd yn bryderus iawn am effeithiau ar yr economi ac ar les ffermwyr o ddelio ag anifeiliaid sâl, a cholledion o safbwynt ffrwythlondeb a chynhyrchiant da byw sy'n gysylltiedig â thafod glas difrifol, fel y gwelwyd mewn llawer o wledydd Ewropeaidd."

Byddai profi da byw sy'n dod i Gymru yn caniatáu amser i fonitro effeithiau'r tafod glas yn Lloegr a sicrhau bod mwy o ffermwyr Cymru yn medru brechu eu hanifeiliaid, ychwanegodd.

Wrth gydnabod y byddai rhai yn siomedig â'i gyhoeddiad ac y byddai yna "ofynion trwyddedu, costau profi da byw a phwysau masnachol eraill yn deillio o fy mhenderfyniad", dywedodd ei fod yn ymrwymo i adolygu'r polisi yn rheolaidd.

'Gofyn mawr iawn ar y diwydiant'

Dywedodd Elin Jenkins, swyddog polisi Undeb Amaethwyr Cymru, bod penderfyniad y llywodraeth yn "ofyn mawr iawn ar y diwydiant".

Mae'r gost o brofi a sicrhau trwydded i symud anifeiliaid "yn anferthol", meddai, gan ragweld sefyllfa "anodd iawn yn enwedig ar gyfer ein ffermwyr ni sydd ar y ffin â Chymru a Lloegr a hefyd ein marchnadoedd da byw".

Wrth siarad â rhaglen Farming Today y BBC yn gynharach yn yr wythnos dywedodd Chris Dodds, prif weithredwr y Livestock Auctioneers Association y byddai cyfyngu ar symudiadau anifeiliaid dros y ffin yn "gatastroffig".

Wrth gyfeirio at farchnad Henffordd, "wrth y ffin â Chymru", esboniodd bod oddeutu 100,000 o anifeiliaid wedi'u symud o'r farchnad honno i Gymru y llynedd.

"Mae'r awgrym y byddai'n rhaid profi popeth cyn symud i Gymru ar gost enfawr i'r ffermwr - ry'ch chi'n edrych ar ddegau o filiynau o bunnau o fewn i un farchnad er mwyn hwyluso'r masnachu yna - ac mae angen i'r anifeiliaid rheiny fynd i'r ffermwyr ar gyfer eu stoc bridio i'r dyfodol."

Mae'n orfodol i unrhyw un sy'n amau eu bod wedi gweld tystiolaeth o glefyd y tafod glas i gysylltu â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA)., dolen allanol