Clefyd y tafod glas: Y Sioe Fawr yn gwahardd da byw o Loegr a'r Alban

Sioe FawrFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Ni fydd arddangoswyr da byw o Loegr a'r Alban yn cael cystadlu yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd eleni oherwydd clefyd y tafod glas.

Mae trefnwyr y sioe wedi penderfynu na chaiff defaid, gwartheg na geifr deithio drwy unrhyw barth tafod glas i gyrraedd Llanelwedd.

O 1 Gorffennaf fe fydd Lloegr gyfan yn cael ei dynodi fel ardal o dan waharddiad gan adran amaeth San Steffan.

Mae rhannau o'r wlad o dan gyfyngiadau yn barod.

Dywedodd trefnwyr y Sioe Frenhinol na fu'n "benderfyniad hawdd", ond eu bod wedi ei wneud er mwyn "diogelu ein harddangoswyr a'r digwyddiad."

Mewn datganiad ddydd Llun dywedodd y trefnwyr: "Mae'r Sioe yn cyflwyno risgiau unigryw - mae'n gasgliad mawr o anifeiliaid sy'n agored i niwed fydd yn rhannu'r un aer dros gyfnod o bum i chwe diwrnod, ac mae'n digwydd yn ystod tymor brig y fectorau.

"Mae hyn yn wahanol iawn i farchnadoedd da byw undydd neu symudiadau uniongyrchol fferm-i-fferm.

"Yn seiliedig ar y cyngor milfeddygol proffesiynol rydyn wedi'i dderbyn, mae'r risg o drosglwyddo clefyd Clwy'r Tafod Glas (BTV) yn uwch yn sylweddol o dan yr amodau hyn.

"Am y rheswm hwn, rydym wedi mabwysiadu dull rhagofalus ac ni fyddwn yn derbyn ceisiadau da byw gan unrhyw arddangoswyr sydd wedi'u lleoli mewn Parth Cyfyngiad BTV (RZ), nac oddi wrth rai a fyddai angen teithio drwy RZ i gyrraedd y Sioe.

"Mae hyn yn cynnwys pob cofrestriad o Loegr a'r Alban."

'Cadw'r polisi dan adolygiad parhaus'

Er na fu unrhyw achosion o'r tafod glas yng Nghymru hyd yma eleni, mae yna achosion wedi eu canfod yn Lloegr.

"Nid yw hwn wedi bod yn benderfyniad hawdd i ni. Rydym wedi archwilio pob opsiwn posibl," meddai'r trefnwyr.

"Rydym yn cadw'r polisi hwn dan adolygiad parhaus, ac os bydd y sefyllfa gyda'r clefyd yn newid, bydd angen i ni ail-asesu ein dull yn unol â hynny."

Pynciau cysylltiedig