Gorbryder: Cymorth ar-lein ar gael yn y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru (GIG) wedi lansio rhaglen therapi ar-lein ar gyfer gorbryder yn y Gymraeg.
Dyma'r drydedd raglen therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) i'r GIG ei chyfieithu i'r Gymraeg, gan roi cyfle i bobl gael cymorth yn ddienw ar-lein.
"Mae'n gallu bod yn anodd bod yn agored a rhannu eich meddyliau a'ch teimladau, ac mae'n anoddach fyth os oes rhaid i chi wneud hyn yn eich ail iaith," medd Fionnuala Clayton o'r GIG.
"Mae'n hanfodol ein bod yn chwalu'r rhwystr hwnnw ac yn rhoi'r gofod a'r cyfle i bobl ddefnyddio'r Gymraeg wrth lywio ein cynnwys therapiwtig."
Mae'r rhaglen 12 wythnos ar gael i bobl dros 16 oed sydd â symptomau ysgafn i gymedrol o orbryder.
- Cyhoeddwyd27 Mawrth
- Cyhoeddwyd12 Ionawr
- Cyhoeddwyd29 Mai 2023
Mae gofyn i ddefnyddwyr rhaglen 'Gofod o Orbryder' ymrwymo i o leiaf 15 munud y dydd, tair neu bedair gwaith yr wythnos.
Does dim rhaid gweld meddyg teulu nac ymuno â rhestr aros i gael mynediad at y gwasanaeth, sy'n dysgu "sgiliau ymdopi ymarferol" i ddefnyddwyr.
Mae'n rhaglen CBT, sef math o therapi sy'n canolbwyntio ar sut mae ein meddyliau ac agweddau yn medru effeithio ar ein teimladau, er mwyn dysgu sut i ymdopi â phroblemau.
Mae cynnydd yn cael ei fonitro gan ymarferwyr cymwys, medd y GIG, sy'n darparu adborth bob pythefnos.
Maen nhw hefyd yn gallu cyfeirio achosion mwy difrifol am gymorth pellach.
Mae'r gwasanaeth yn un o ystod eang o raglenni iechyd meddwl ar-lein y mae'r GIG yn eu cynnig.
Mae 30,000 o bobl wedi defnyddio'r rhaglenni ers eu treialu ym Mhowys yn 2018 a'u cyflwyno i weddill Cymru yn 2020.
Dywed un o'r tîm sy'n monitro'r gwasanaethau hyn, Leah Williams, ei bod hi wedi cael trafferth rhannu ei theimladau yn y gorffennol pan nad oedd modd gwneud hynny drwy'r Gymraeg.
"Roedd fy ymarferwyr iechyd meddwl a'm cwnselwyr yn ddi-Gymraeg. Roedd hi'n anodd i mi fod yn agored a thrafod materion personol," medd Ms Williams, Cydlynydd Ar-lein GIG Cymru.
"Mae methu sgwrsio yn eich iaith gyntaf yn gallu bod yn ofidus, yn enwedig wrth siarad am bwnc sydd yn barod yn emosiynol.
"Pan roeddwn i’n siarad â chwnselydd Cymraeg, roedd cysylltiad therapiwtig yno’n syth gan ein bod ni’n rhannu hunaniaeth a dealltwriaeth ddyfnach o fy mhroblemau a'm hanghenion."