'Anodd cael cymorth iechyd meddwl yn y Gymraeg'

Elen Wyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elen Wyn Jones yn rhwystredig nad ydi hi wedi cael y dewis i gael cymorth yn y Gymraeg

  • Cyhoeddwyd

“Ddylai neb wynebu rhwystrau i dderbyn y cymorth iechyd meddwl sydd ei angen arnyn nhw.”

Dyna neges elusen iechyd meddwl, sy’n dweud ei fod yn hanfodol i bobl gael cymorth yn yr iaith maen nhw’n dymuno.

Mae cais rhyddid gwybodaeth gan raglen Newyddion S4C i'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru yn dangos mai 30 o gwnselwyr trwy'r wlad sy'n cynnig gwasanaeth yn y Gymraeg.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn hanfodol fod pobl yn cael gwasanaeth yn yr iaith maen nhw'n dymuno, a'u bod yn gweithio tuag at gryfhau gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

'Rhwystredig'

Mae Elen Wyn Jones o Ynys Môn wedi bod yn byw gyda phroblemau iechyd meddwl ers ei harddegau.

“Dwi wedi bod yn dioddef o broblemau iechyd meddwl, iselder ac ychydig o orbryder ers o’n i tua 16 oed," meddai.

“Pan o’n i’n 16, oedd profi’r teimladau 'ma yn eitha' confusing.

“Dwi wedi dechrau dysgu sut i ymdopi hefo’r peth. Ma' saith mlynedd yn lot o amser ond mae wedi rhoi lot o amser i fi allu deall fy nheimladau a be' sy’n helpu fi’n bersonol.”

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

30 o gwnselwyr trwy'r wlad sy'n cynnig gwasanaeth yn y Gymraeg

Mae siarad, ymarfer corff a meddyginiaeth yn rhai o’r pethau sydd wedi helpu Elen dros y blynyddoedd.

Er hyn, mae hi’n rhwystredig nad ydi hi wedi cael y dewis i gael cymorth yn y Gymraeg.

“Yn y brifysgol mi nes i drio sesiynau cymorth iechyd meddwl.

"Yn bennaf roeddwn i eisiau sesiynau yn y Gymraeg ond doedd y brifysgol ddim yn cynnig y cymorth yna.

"Roedd hynny wir yn rhwystredig i fi fel rhywun sy’n iaith gyntaf Cymraeg.”

Beth yw'r ffigyrau?

Mae cais rhyddid gwybodaeth i’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru yn dangos faint o gwnselwyr sydd yn cynnig gwasanaeth yn y Gymraeg, gyda’u sgiliau yn amrywio o fod yn sylfaenol i rugl.

Mae’r ffigyrau yn dangos mai dim ond un sydd ym mwrdd iechyd y gogledd, dau ym mwrdd iechyd Bae Abertawe a phedwar ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan.

Mae’r niferoedd ychydig yn uwch ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda, Powys a Chwm Taf Morgannwg a dim cwnselwyr o gwbl o ran y Gymraeg yng Nghaerdydd a’r Fro.

  • Aneurin Bevan - 4

  • Bae Abertawe - 2

  • Betsi Cadwaladr - 1

  • Caerdydd a’r Fro - 0

  • Cwm Taf Morgannwg - 7

  • Hywel Dda - 7

  • Powys - 8

Disgrifiad o’r llun,

"Dwi’n gweithio hefo cleientiaid ledled Cymru sydd yn stryglo i ffeindio cwnselwyr Cymraeg," meddai Sara Mai

Mae Sara Mai, seicotherapydd sydd wedi gweithio yn y maes ers 15 mlynedd, yn credu bod rhai pobl yn ei gweld hi‘n haws rhannu eu teimladau yn eu hiaith gyntaf.

“Dwi’n gweithio hefo cleientiaid ledled Cymru sydd yn stryglo i ffeindio cwnselwyr Cymraeg, ac wedi trio rhai Saesneg ond teimlo fel ‘dyn nhw methu bod yn vulnerable a rhannu be' fysan nhw’n licio yn eu hail iaith.”

Yn ddiweddar fe lansiodd elusen Mind Cymru ymgyrch newydd i dynnu sylw at y gefnogaeth maen nhw’n ei gynnig yn y Gymraeg.

O’r hanner miliwn o bobl aeth ati i chwilio am gymorth ar-lein ganddyn nhw y llynedd, roedd tua un o bob 10 yn chwilio am gymorth yn y Gymraeg.

Disgrifiad o’r llun,

Dylai neb wynebu rhwystrau i dderbyn y cymorth iechyd meddwl sydd ei angen arnyn nhw, yn ôl Mind Cymru

Yn ôl Nia Evans, rheolwr iechyd meddwl plant a phobl ifanc yr elusen: “Mae Mind Cymru yn awyddus iawn i gael mwy o ddarpariaeth ar draws Cymru gyfan ar gyfer siaradwyr Cymraeg.

"Mae’n gallu bod yn anodd beth bynnag i ddechrau siarad am deimladau, deall beth sy'n digwydd a phrosesu be ‘dach chi’n mynd trwyddo.

"Mae lot mwy i wneud yn siŵr bod y ddarpariaeth yna i unrhyw un sydd angen cymorth drwy’r Gymraeg."

Yn ôl yr elusen, ddylai neb wynebu rhwystrau i dderbyn y cymorth iechyd meddwl sydd ei angen arnyn nhw.

“Dydi nifer y cwnselwyr sydd ymhob bwrdd iechyd ddim digon da," meddai Ms Evans.

"Mae yna ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru o ran yr hyn maen nhw eisiau ei wneud ond ‘dan ni angen gweld hyn yn cael ei drosglwyddo o fod yn bolisïau a strategaethau i wasanaethau.”

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae unigolion ar eu mwyaf bregus pan maen nhw’n cael cymorth iechyd meddwl ac felly mae’n hanfodol iddynt allu siarad yn eu hiaith eu hunain bryd hynny.

Maen nhw’n dweud hefyd eu bod yn gweithio tuag at eu nod pum mlynedd o gryfhau gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol.