Cael gwared ar gynlluniau i ail adeiladu pont syrthiodd mewn storm

Still hen bont Llannerch
Disgrifiad o’r llun,

Syrthiodd Pont Llannerch, rhwng pentrefi Tremeirchion a Threfnant, yn ystod Storm Christoph ym mis Ionawr 2021

  • Cyhoeddwyd

Mae cynnig wedi'i basio i gael gwared ar gynlluniau i adeiladu pont newydd yng ngogledd Cymru a gafodd ei dinistrio gan storm yn 2021.

Bu Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio ar gynlluniau i godi pont yn lle hen Bont Llannerch, a gwympodd i mewn i Afon Clwyd yn ystod Storm Christoph yn 2021.

Ond fe ddangosodd adroddiad dylunio y gallai'r gwaith adeiladu beri risg i gyflenwad dŵr 85,000 o gartrefi.

Roedd yr hen bont wedi ei lleoli uwchben dyfrhaen dŵr croyw a oedd yn cael ei ddefnyddio gan Dŵr Cymru i gyflenwi dŵr yfed i'r ardal.

Ond er mwyn adeiladu pont newydd, byddai'n rhaid i beirianwyr balu'n ddwfn a allai greu holltau a fyddai'n halogi'r llyn.

Mae £1.5m eisoes wedi'i wario ar y gwaith dylunio, ond mae Sir Ddinbych yn dweud na allen nhw warantu na fyddai'r gwaith yn peryglu iechyd y cyhoedd, yn dilyn pwyllgor craffu a oedd yn argymell fod angen oedi'r prosiect.

Byddai'r cynlluniau wedi costio rhwng £8m a £10m - yn seiliedig ar gyngor y pwyllgor.

'Heb ystyried pont dros dro'

Ond cymysg oedd y teimladau ymysg cynghorwyr yr ardal.

Wrth siarad wythnos cyn cyfarfod cabinet Sir Ddinbych, dywedodd Chris Evans, cynghorydd Tremeirchion, y byddai dileu'r cynlluniau yn anghywir.

"Nid yw Sir Ddinbych wedi ystyried pont dros dro, y gallwn edrych arno, a all fod yno am y ddegawd nesaf," meddai.

"Ni ddylai hyn fod yn benderfyniad i swyddogion, ac yn sicr ni ddylai fod yn benderfyniad i'r cabinet. Dylai cynghorwyr sir bleidleisio.

"Roeddem yn gwybod am y ddyfrhaen pan gychwynnon ni.

"Pam felly yr ydym wedi gwario dros filiwn o bunnoedd ar gynlluniau, cyfarfodydd ac i weld y bont yn cael ei gwneud?"

Ychwanegodd ei fod yn "llwybr pwysig, yn gyswllt pwysig, nid yn unig i'r pentref lleol ond i bobl sy'n mynd i'r A55".

Roedd cynghorydd Trefnant, James Elson, hefyd o'r farn y dylai'r cyngor ystyried pont dros dro.

"Dwi ddim yn hapus nad oes modd iddynt greu datrysiad peirianyddol," meddai.

"Dwi'n derbyn y ffaith bod eu datrysiad yn peryglu'r ddyfrhaen, ond mae angen iddyn nhw newid y datrysiad er mwyn cyd-fynd â'r meini prawf."