Carchar y Parc: 'Fy mrawd heb ei oruwchwylio'n gywir'

Naomi a Justin LewisFfynhonnell y llun, Naomi Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Justin Lewis yng Ngharchar y Parc ym mis Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Ni chafodd carcharor oedd â hanes o hunan-niweidio ei oruwchwylio'n gywir cyn iddo gael ei ddarganfod yn farw yn ei gell, yn ôl ei chwaer.

Bu farw Justin Lewis, 29, yng Ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont ym mis Mawrth.

Mae ei chwaer Naomi Lewis, 31, yn honni ei fod wedi ei adael ar ben ei hun am oriau cyn iddo farw, er gwaetha'r ffaith fod peryg mawr ei fod am wneud niwed i'w hun.

Dywedodd Carchar y Parc fod marwolaeth Mr Lewis yn destun ymchwiliad gan yr Ombwdsmon Carchardai.

Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, sy'n gyfrifol am ofal iechyd yn y carchar, wedi annog teulu Mr Lewis i gysylltu â nhw os oes ganddyn nhw unrhyw gwestiynau am ei ofal.

Mae Justin Lewis yn un o'r naw o garcharorion fu farw yng Ngharchar y Parc mewn ychydig dros ddeg wythnos.

Y gred yw bod pedwar o'r marwolaethau hynny yn ymwneud â chyffuriau.

Rhybudd: Gallai'r cynnwys isod beri gofid i rai

Roedd Mr Lewis, oedd yn artist graffiti, wedi bod yng Ngharchar y Parc ers dwy flynedd ar ôl iddo gael ei alw'n ôl am achosi difrod troseddol. Roedd disgwyl iddo gael ei ryddhau ar 3 Mai.

Clywodd cwest blaenorol fod Mr Lewis wedi cael ei ddarganfod yn ei gell gan swyddogion y carchar ar 16 Mawrth.

Dywedodd Ms Lewis ei bod hi'n agos iawn gyda'i brawd, a'i bod yn siarad â fo yn ddyddiol bron, ond ei bod hi wedi methu ei alwad ar ddiwrnod ei farwolaeth gan ei bod yn yr ardd ar y pryd.

"Nes i geisio cael gafael arno fo, ond doeddwn i methu, ac yna roedd 'na gnoc ar y drws y noson honno gan staff y carchar," meddai.

"Roeddwn i mewn sioc ac yn sgrechian, yn dweud 'plîs allech chi ddweud wrtha' i ei fod o yn yr ysbyty'.

"Ond fe ddywedon nhw fod Justin wedi marw. Fy ateb i oedd 'sut allech chi fod wedi gadael iddo wneud hyn?'"

Ffynhonnell y llun, Naomi Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Roedd disgwyl y byddai Justin Lewis yn cael ei ryddhau o'r carchar ar 3 Mai

Dywedodd Ms Lewis bod ei brawd wedi cael ei gludo i'r ysbyty ar ôl hunan-niweidio yn yr wythnosau cyn ei farwolaeth.

Honnodd fod G4S - y cwmni preifat sy'n gyfrifol am y carchar - wedi methu â chyflawni eu dyletswydd gofal.

"Dyle fod nhw wedi bod yn mynd i'w weld bob awr. Mae'n ofnadwy," meddai.

Ychwanegodd mai marwolaeth ei brawd yw'r peth "mwyaf poenus" y mae hi erioed wedi gorfod delio ag ef.

'Dwi methu deall y peth'

Clywodd cwest ym mis Mawrth fod swyddogion y carchar wedi dod o hyd i gorff Mr Lewis ar ôl mynd i'w gell i roi meddyginiaeth iddo.

Dywedodd Ms Lewis ei bod hi bellach yn bwriadu cymryd camau cyfreithiol ar y cyd â theuluoedd eraill sydd wedi colli annwyliaid.

"Yn ôl Justin, y carcharorion oedd yn rheoli'r carchar, ac roedd cyffuriau yn rhemp yno. Roedd spice ymhobman hefyd," meddai.

"Roedd o mor hapus y tro diwethaf i ni siarad gan nad oedd yn mynd i orfod aros yn hir cyn iddo gael ei ryddhau, dwi methu deall y peth.

"Efallai ei fod o eisiau i'r swyddogion ei ddarganfod ynghynt fel eu bod nhw'n ei symud yn ôl i ysbyty'r carchar. 'Sa fo ddim eisiau brifo fi fel hyn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Carchar y Parc yn un o'r rhai mwyaf yn y Deyrnas Unedig

Ym mis Mawrth, dywedodd yr heddlu eu bod yn credu fod pedwar o'r marwolaethau diweddar yn y carchar yn ymwneud â chyffuriau, a bod dau ddim yn cael eu trin fel rhai "amheus" - gan gynnwys marwolaeth Mr Lewis.

Mae pryderon wedi eu codi yn y Senedd ac yn Nhŷ’r Cyffredin yn ystod yr wythnosau diwethaf am nifer y marwolaethau yn y carchar categori B.

Cwmni diogelwch G4S sydd wedi bod yn rheoli'r carchar ers iddo agor yn 1997, ac yn 2022 fe gafod y cwmni gytundeb 10 mlynedd i barhau â'r gwaith.

Dywedodd Gweinidog Cyfiawnder Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Edward Argar, wrth aelodau Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan fod y carchar "yn cael ei reoli yn dda", er gwaetha'r galwadau i wladoli'r safle.

Yn ystod archwiliad yn 2022 roedd Carchar y Parc yn dal 1,623 o garcharorion, sy'n golygu ei fod yn un o'r mwyaf yn y DU.

Carchar 'diogel'

Dywedodd yr Arolygiaeth Carchardai fod gan Garchar y Parc enw da am fod yn "garchar diogel", ond maen nhw wedi mynegi pryder am nifer yr achosion o hunan-niweidio.

Dywedodd llefarydd ar ran y carchar: "Mae'n meddyliau yn parhau gyda theulu a ffrindiau Justin Lewis. Fel pob marwolaeth mewn carchar, fe fydd yr Ombwdsmon yn ymchwilio i'r mater".

Yn ôl G4S, fel rhan o'r cytundeb diweddaraf, y bwrdd iechyd lleol sy'n darparu gwasanaethau iechyd ac iechyd meddwl yn y carchar.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: "Fel bwrdd iechyd, ry'n ni'n gyfrifol am ddarpariaeth gofal iechyd yng Ngharchar y Parc, ac yn gweithio gyda'n cyd-weithiwyr yn y carchar, sy'n arwain y gwaith o reoli'r safle.

"Ry'n ni'n cydymdeimlo yn arw â theulu Mr Lewis, ac yn eu hannog i gysylltu â ni os oes ganddyn nhw unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r gofal iechyd wnaeth o dderbyn yn ystod ei gyfnod yn y carchar."

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.