Gwobr yn India i feddyg sy'n hyrwyddo tosturi mewn ysbytai

Dr Neelam SinghFfynhonnell y llun, Mrs India International Queen
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Dr Neelam Singh yn ail yng nghystadleuaeth Mrs India International Queen 2024

  • Cyhoeddwyd

Mae meddyg o ogledd Cymru yn dathlu wedi iddi ddod o fewn trwch blewyn i gipio gwobr “brenhines ryngwladol” yn India.

Daw merched o dras Indiaidd o bedwar ban byd i gystadlu yn Mrs India International Queen, ac eleni, fe ddaeth Dr Neelam Singh yn ail yn y gystadleuaeth a gynhaliwyd yn ninas Delhi.

Ac roedd gwaith y meddyg, sy'n byw yn y Gaerwen, Ynys Môn, i geisio cael mwy o dosturi mewn ysbytai yn ganolog i'w llwyddiant.

Dywed Dr Singh, 51, sydd yn ymgynghorydd obstetreg a gynaecoleg yn Ysbyty Gwynedd, Bangor: “Tydi hyn ddim y math o beth y byddwn i fyth wedi ystyried ei wneud, felly fe roedd yn gryn dipyn o her.

“Roeddwn i’n cario 'mlaen i feddwl ‘pam ydw i’n gwneud hyn’ ond rydw i’n ofnadwy o falch rŵan i mi ei wneud o.”

Nod y gystadleuaeth yw hyrwyddo gwragedd sy’n cyfrannu’n sylweddol i gymdeithas a grymuso eraill i wneud yr un peth.

Ffynhonnell y llun, Mrs India International Queen
Disgrifiad o’r llun,

Dr Neelam Singh yn cael ei choroni gan seren Bollywood, Mahima Chaudhry; a gyda Mahima Chaudhry a threfnydd y gystadleuaeth, Ankita Saroha

Roedd 48 o wragedd yn Delhi fis Mehefin i gystadlu mewn un o ddau gategori, un i’r rhai o dan 40 oed, a’r llall - a elwid yn 'classic' - i’r rhai 40 a throsodd. Yn yr ail gategori yma roedd Dr Singh yn cystadlu.

Daeth y cystadleuwyr o wledydd fel Awstralia, UDA, Qatar, Sweden, Saudi Arabia, y DU ac India.

Bu’n rhaid iddynt fynd drwy dridiau o wahanol rowndiau heriol a llosgi’r gannwyll y ddau ben gan aros i fyny tan dri y bore a chodi eto am chwech o’r gloch.

Ond doedd y diffyg cwsg ddim yn broblem i Dr Singh gan ei bod wedi hen arfer gweithio shifftiau nos yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, ac yn Ysbyty Gwynedd.

Dywedodd: “Rŵan ‘mod i’n ymgynghorydd, ychydig o waith nos rydw i’n wneud ar y cyfan, ond bob tro roeddwn i’n dechrau blino, roeddwn i’n meddwl am y rhesymau pam fy mod i’n gwneud hyn - i godi ymwybyddiaeth o’r gwaith rydw i’n wneud rŵan i helpu pobl fod y fersiwn gorau ohonyn nhw ei hunain yn y gwasanaeth iechyd.”

'Edrychiad ddim yn bwysig yn y gystadleuaeth'

Daeth Dr Singh o India i Brydain yn 2002 ac wedi cyfnod yn gweithio fel meddyg iau yn Ysbyty Glan Clwyd, cafodd swydd fel ymgynghorydd mewn ysbyty yn Blackpool.

Ond roedd y teithio a byw mor bell o’i chartref ar Ynys Môn yn ormod ac fe ddaeth yn ôl i Gymru.

Mae ei gŵr, Bipin Chawla, yn ffigwr amlwg yn ninas Bangor gan redeg siop bapur newydd ym Mangor Uchaf, a busnesau eraill, ers degawdau. Mae gan y cwpwl ferch 13 oed, Rhea.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dr Singh gyda'i gŵr, Bipin Chawla, a'u merch, Rhea

Dywed Dr Singh nad pasiant harddwch arferol yw Mrs India International Queen, ond yn hytrach ei fod yn ceisio hyrwyddo merched llwyddiannus er mwyn grymuso merched eraill i gredu y gallant hwythau wireddu eu breuddwydion.

Dywedodd: “Tydi cael edrychiad penodol ddim yn bwysig yn y gystadleuaeth yma. Dydi’r beirniaid ddim yn poeni am eich taldra na’ch pwysau a phethau fel yna.

“Yn hytrach maen nhw’n edrych ar sut rydych chi’n cynnal a chyflwyno eich hun dros dridiau pan rydych o dan bwysau dwys.”

Ac roedd ei gwaith i rymuso pobl i wella eu hunain yn rhan bwysig o'i llwyddiant.

Ffynhonnell y llun, Mrs India International Queen
Disgrifiad o’r llun,

Dr Neelam Singh (ail o'r chwith) gyda'i chyd-fuddugwyr a threfnydd y gystadleuaeth, Ankita Saroha

Gwella sgiliau cyfathrebu cyd-weithwyr

Bellach, dridiau'r wythnos mae hi’n gweithio mewn obstetreg a gynaecoleg. Am y deuddydd arall mae’n gweithio i ddysgu sgiliau cyfathrebu i’w chyd-weithwyr yn y gwasanaeth iechyd.

Gall hyn gynnwys hyfforddiant am sut i dorri newyddion drwg, arweinyddiaeth dosturiol, a helpu gweithwyr meddygol i “greu'r fersiwn orau ohonyn nhw eu hunain” trwy ofalu am eu lles.

Drwy wneud hyn, dywed Dr Singh y gallant ddelio â'u cleifion gyda chymaint mwy o dosturi, empathi a pharch at fywyd dynol - sy'n gallu ymddangos yn brin ar adegau.

“Fe ddechreuodd hyn pan gafodd fy nhad ei gymryd yn wael yn India,” meddai.

“Rydw i wastad wedi meddwl am sut rydym ni yn y gwasanaeth iechyd yn delio gyda chleifion, ac roedd y driniaeth gawsom ni fel teulu, a’m tad, yn yr ysbyty yn India yn anghredadwy o wael.

“Allwn i ddim coelio nad oedd y staff yno yn malio dim am y ffordd roedden nhw’n siarad hefo ni a pa mor ddigywilydd oedden nhw. Fe aethon ni drwy amser caled iawn.”

'Pwysigrwydd tosturi, empathi a pharch at fywyd dynol'

Yn anffodus fe fu farw tad Dr Singh a phan ddaeth hi yn ôl i Gymru, dechreuodd feddwl am sut allai wella pethau.

“Fe es i ar gyrsiau a chael fy hyfforddi mewn sut i gyfathrebu â phobl mewn sefyllfaoedd anodd a bellach rydw i’n creu rhaglenni hyfforddi a mynd o amgylch nifer o fyrddau iechyd yn hyfforddi doctoriaid, nyrsys ac unrhyw staff clinigol.

“Rydw i’n ei dysgu nhw sut i edrych ar ôl eu hunain yn gyntaf sy’n golygu eu bod nhw’n fwy tosturiol efo pawb o’u hamgylch. Eu grymuso i weld y pŵer sydd ynddyn nhw fel unigolion a bod ganddyn nhw'r potensial i wneud unrhywbeth maen nhw eisiau. Unrhywbeth o gwbl.

“Rydym yn cael ein geni gyda photensial a grym aruthrol, ond ddywedodd neb hyn wrtha’i pan oeddwn i’n blentyn ac mae o mor, mor, bwysig.

“Rydw i'n gweithio i greu ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr meddygol am bwysigrwydd tosturi, empathi a pharch at fywyd dynol.

“Effaith hyn fyddai bod pobl sy'n mynd â'u hanwyliaid i ysbytai yn cael y gofal gorau posibl.

“Fe wnes i gymryd rhan yn y gystadleuaeth achos fy mod i’n chwilio am blatfform i’r neges yna, ac roedd Mrs India International Queen yn llwyfan sylweddol.

“Mae wedi rhoi cyfle i fy llais estyn allan at feddygon a nyrsys ac yn bwysicaf oll, at y rhai sydd wedi colli rhywun annwyl yn yr ysbyty.

“Er cof am fy nhad rydw i’n gwneud hyn, ac yn falch iawn fy mod i wedi cymryd y cam yma.”

Pynciau Cysylltiedig