Penodi Catrin Edwards yn brif weithredwr newydd Mudiad Meithrin

Roedd Dr Catrin Edwards yn gadeirydd ar y sefydliad am gyfnod
- Cyhoeddwyd
Mae Mudiad Meithrin wedi penodi Dr Catrin Edwards o Gaerdydd yn brif weithredwr newydd.
Bydd hi'n olynu Dr Gwenllian Lansdown Davies sydd wedi bod yn brif weithredwr ers mis Medi 2014.
Rhwng 2021 ac Awst eleni, roedd Dr Edwards, sy'n fam i dri o blant, yn gadeirydd ar y mudiad. Bydd hi'n cychwyn ar ei swydd newydd fis Rhagfyr.
Sefydliad gwirfoddol yw Mudiad Meithrin, sy'n gofalu am addysg Gymraeg a gofal plant gyda dros 1,000 o gylchoedd chwarae a grwpiau i rieni ar hyd a lled y wlad.
'Y Gymraeg yn rhan naturiol o'r dechrau'
"Braint ac anrhydedd yw cael fy mhenodi i'r swydd hon, gan ymuno â mudiad sy'n allweddol i fywyd Cymru ac yn ganolog i groesawu plant a theuluoedd at y Gymraeg", meddai Dr Edwards.
"Dwi'n gyffrous i gydweithio i sicrhau bod y Gymraeg yn bresennol ym mhob lle mae plant bach – yn rhan naturiol o'u bywydau, o'r dechrau un."
Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr Mudiad Meithrin, Dr Rhodri Llwyd Morgan, ei fod yn "falch iawn" o gyhoeddi'r penodiad.
"Mae ganddi adnabyddiaeth dda o waith y mudiad ar ôl gwasanaethu fel cadeirydd, ac mae ei phrofiad sylweddol a'i harbenigedd yn y meysydd gofal yn ogystal â chynllunio ieithyddol yn gweddu'n wych i fedru arwain gwaith a chenhadaeth y mudiad i'r dyfodol."
Agor cylch meithrin yn wirfoddol yn 'dorcalonnus o galed'
- Cyhoeddwyd28 Mai
Mudiad Meithrin yn wynebu 'penderfyniadau anodd'
- Cyhoeddwyd13 Mai 2024
'Miliwn o siaradwyr Cymraeg yn her'
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2020
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.