Agor cylch meithrin yn wirfoddol yn 'dorcalonnus o galed'

Lowri Real, Cyn-Ysgrifennydd Cylch Meithrin Cilfynydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lowri Real na fyddai'n "hybu unrhywun i fynd ati i agor cylch"

  • Cyhoeddwyd

Does "dim hudlath all newid pethau dros nos", meddai'r Mudiad Meithrin, yn dilyn pryderon diweddar bod gormod o bwysau ar wirfoddolwyr.

Gwirfoddolwyr sy'n gwasanaethu ar bwyllgorau cylchoedd meithrin a nhw sy'n gyfrifol am faterion ariannol, diogelu plant a chyflogi staff.

Mae 'na reolau llym yn y sector gofal plant ac mae nifer o wirfoddolwyr yn dweud nad yw'r drefn bresennol yn addas.

Mae rhai'n poeni y gallai cylchoedd orfod cau os na allan nhw ddenu pobl i wneud y gwaith.

'System ddim yn gweithio'

Fe agorodd Cylch Meithrin Cilfynydd, Rhondda Cynon Taf, yn dilyn ymdrech rhieni lleol oedd yn poeni am effaith cau Ysgol Pont Sion Norton gan symud addysg Gymraeg o'r pentref.

Ond o fewn ychydig flynyddoedd roedd y cylch wedi cau.

"Tri o wirfoddolwyr oedden ni, heb arbenigedd o fewn y maes gofal plant," meddai Lowri Real, cyn-ysgrifennydd y cylch.

"Roedd cael adeilad yn un her, staffio yn her anferth a cheisio gwneud yn siŵr fod y busnes yn gynaliadwy, ond yn anffodus gyda chostau staff a chostau ariannu adeilad oedd e just yn amhosib i wneud elw.

"Roedd tair ohonom ni yn y bon yn rhedeg busnes ar ewyllys da."

Roedden nhw'n cael eu hannog gan y Mudiad Meithrin i geisio am arian cynllun Dechrau'n Deg, sy'n cynnig rhagor o gefnogaeth, ond fe fyddai hynny wedi golygu cynnig mwy o oriau o ofal ac felly mwy o waith gweinyddol.

"Roedd hynny tu hwnt i'n gallu ni fel pwyllgor bach," meddai.

Mae hi'n rhwystredig nad oedd modd iddyn nhw barhau i gynnig yr hyn oedd yn gweithio iddyn nhw.

"Heb ail edrych ar y system dwi yn poeni am gymunedau bach fel hyn sy'n mynd i golli'r iaith.

"Mae angen dod rownd y bwrdd ac edrych ar hwn achos dyw'r system ddim yn gynaliadwy a dyw e ddim yn gweithio.

"Fysen i ddim yn hybu unrhyw un i fynd ati i drio agor cylch meithrin achos pa mor torcalonnus o galed mae e wedi bod."

staff a phlant cylch meithrin Pontrhydfendigaid
Disgrifiad o’r llun,

Cylch Meithrin Pontrhydfendigaid ar ôl ennill Cylch y Flwyddyn 2023

Dwy flynedd yn ôl fe dalodd gwaith caled Cylch Meithrin Pontrhydfendigaid ar ei ganfed wrth iddyn nhw gipio gwobr Cylch Meithrin y Flwyddyn yng ngwobrau blynyddol y Mudiad Meithrin.

Mae cynnal y safon yn anodd, meddai Gwawr Evans, sy'n fam i bedwar ac yn rhedeg busnes. Mae hi wedi bod yn gadeirydd ers rhyw bum mlynedd.

"Mae e'n lot fwy o waith nag o'n i'n feddwl. Mae e 'di bod yn agoriad llygad i weld faint maer pwyllgor yn ei wneud dros y cylch."

Gwawr Evans, Cadeirydd Cylch Meithrin Pontrhydfendigaid
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwawr Evans yn galw am fwy o gymorth i bwyllgorau

Mae'r cylch wedi llwyddo i sicrhau arian i dalu person i wneud rhywfaint o'r gwaith papur iddyn nhw. Mae Gwawr yn dweud y byddai hi'n hoffi cael mwy o help ymarferol gan y Mudiad Meithrin.

"Mae'r mudiad yn gwneud gwaith gwych, ond 'wi yn meddwl bydde fe'n well tasen nhw'n gallu cynnig mwy o gymorth i'r pwyllgorau o ran helpu gydag adroddiadau ac asesiadau staff."

Mae hi'n poeni na fydd pobl newydd eisiau gwirfoddoli.

"Fi'n credu bydde fe'n job i gael rhywun i gymeryd drosodd rôl cadeirydd, trysorydd, ysgrifennydd.

"Does neb isie neud e achos maen nhw'n gweld faint o waith yw e. Mae gan bobl gymaint o bethau eraill ymlaen gyda phlant bach, gwaith, rhedeg tŷ, mae e'n lot o waith.

"Dwi'n becso am ddyfodol y cylchoedd os nad oes pobl yn dod trwyddo, pa fath o ddyfodol bydd gan gylchoedd a sut byddan nhw'n cael eu rhedeg?"

'Colli plant o'r sector Gymraeg'

Mae Prif Weithredwr y Mudiad Meithrin, Dr Gwenllian Lansdown Davies yn dweud ei bod hi'n ymwybodol o'r pwysau sydd ar bwyllgorau gwirfoddol gan fod safonau mor uchel gan y sector gofal plant.

Fel elusennau mae'n rhaid iddyn nhw gael strwythur cyfreithiol penodol.

Bydd y Mudiad Meithrin yn cynnal adolygiad o'r model i weld a oes yna fodelau eraill allai weithio, meddai.

Dywedodd: "Cryfder model gwirfoddol yw bod y cylch yn perthyn i'r gymuned ond wrth gwrs wrth i ofynion gofal plant fynd hyd yn oed yn fwy cymhleth mae'r gofynion ar y pwyllgorau hefyd yn dwyshau felly mae'n ddyletswydd arnom ni fel mudiad i gymeryd stoc o hynny a meddwl beth fedrwn ni wneud yn wahanol gan dderbyn does gynnon ni ddim hudlath all newid pethau dros nos."

Dr Gwenllian Lansdown Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na berygl o golli plant o'r system addysg Gymraeg, meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies

Yn ôl y Mudiad Meithrin maen nhw wastad yn trio adnabod ffyrdd o dynnu pwysau oddi ar bwyllgorau rheoli gwirfoddol.

Tra'n derbyn nad yw hi'n ymarferol i bob cylch fod yn rhan o gynllun Dechrau'n Deg mae'r mudiad yn dweud ei bod hi'n anorfod bod pobl yn edrych am ofal drwy'r dydd erbyn hyn yn hytrach nag ambell fore yr wythnos.

Mae nifer y cylchoedd meithrin sy'n darparu Dechrau'n Deg wedi mwy na dyblu i 44% dros y tair blynedd diwethaf.

"Mae cymunedau a rhieni ar y cyfan isie mwy o ddarpariaeth gofal plant nid llai a'r peryg oni bai ei fod e'n cael ei ddarparu yn y Gymraeg yw y byddwn ni'n colli plant o'r sector cyfrwng Cymraeg i'r sector cyfrwng Saesneg", meddai Dr Davies.

Ychwanegodd y bydd y mudiad yn edrych ar fodelau eraill posibl ac yn eu trafod gydag aelodau pwyllgorau gwirfoddol, ond dywedodd bod dim tystiolaeth hyd yn hyn fod pryderon am y gwaith yn atal pobl rhag ymuno â phwyllgorau neu sefydlu cylchoedd meithrin newydd.

"Mae mwy o unigolion yn gwirfoddoli ar bwyllgorau rheoli gwirfoddol eleni na llynedd ond dydy hynny ddim yn dweud bod ni ddim yn effro i'r pwysau sydd ar bwyllgorau.

"Beth sy'n bwysig yw ein bod ni'n gweithio mewn partneriaeth gyda'r 1,200 o wirfoddolwyr i ddweud, os oes yna rywbeth fedrwn ni wneud yn wahanol neu'n well gadewch i ni wneud o hefo'n gilydd."