Mudiad Meithrin yn wynebu 'penderfyniadau anodd'
- Cyhoeddwyd
Mae Mudiad Meithrin wedi rhybuddio eu bod yn wynebu "penderfyniadau anodd" yn sgil "cynnydd mewn costau a lleihad mewn grantiau".
Maen nhw'n dweud na fydden nhw'n llenwi swyddi gwag er mwyn gwneud arbedion.
Bydd swyddi sy'n hollol hanfodol yn cael blaenoriaeth er mwyn gefnogi'r cylchoedd ar lawr gwlad, meddai'r mudiad.
Yn ogystal â'r swyddi, bydd eu presenoldeb yn Eisteddfodau'r Urdd a'r Genedlaethol tipyn yn llai eleni er mwyn arbed arian.
Mae'r mudiad hefyd yn cynllunio ar gyfer gwneud colled yn y flwyddyn ariannol nesaf, fydd o fewn ffiniau derbyniol i gyllidwyr a'r Comisiwn Elusennau.
Blwyddyn 'heriol'
Dywedodd Dr Gwenllian Lansdown Davies, prif weithredwr Mudiad Meithrin fod y "flwyddyn nesaf am fod yn un heriol i'r Mudiad".
Ychwanegodd mai eu blaenoriaeth "yw cynnal ein safonau a'n gwasanaethau ar lawr gwlad".
Mae datganiad Mudiad Meithrin hefyd yn nodi fod pob gwariant dan y chwyddwydr.
Ar hyn o bryd mae gan y mudiad dros 220 o staff cyflogedig a thros 1,500 o staff yn gweithio yn y cylchoedd meithrin.
Mae'r mudiad yn darparu dros 1,000 o ddarpariaethau blynyddoedd cynnar ledled Cymru.
Yn ogystal â rhewi swyddi newydd, bydd y Mudiad "lleihau ein presenoldeb yn y gwyliau cenedlaethol eleni" meddai Dr Catrin Edwards, cadeirydd bwrdd cyfarwyddwyr Mudiad Meithrin.
Ychwanegodd na fyddent yn "gallu cyfiawnhau mynd â pharc chwarae i Eisteddfod yr Urdd na'r Eisteddfod Genedlaethol", ac y bydd y stondin yn llai o faint.
Drwy wneud hyn, bydd y mudiad yn arbed "dros £20,000 yn ein costau, sydd gyfystyr â chost swydd", meddai.
Er yr her ariannol, ychwanegodd Gwenllian Lansdown Davies eu bod "wedi bod yn gweithio'n galed i ddenu grantiau o sawl ffynhonnell arall i wireddu prosiectau arbennig".
Dywedodd bod hyn yn cynnwys "grant o bron i £500,000 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol".
Wrth ymhaelaethu ar raglen Post Prynhawn, dywedodd y prif weithredwr eu bod yn "edrych ar oddeutu 5%" o doriadau wrth i chwyddiant gynyddu costau a chyflogau.
Y flaenoriaeth, meddai Gwenllian Lansdown Davies, yw cynnal Cylchoedd Ti a Fi, Cylchoedd Meithrin a meithrynfeydd dydd, ond "yn anfoddog mae'n rhaid i ni edrych ar bopeth arall".
Dywedodd: "Mae'n rhaid i ni edrych ar bob llinell yn ein gwariant er mwyn sicrhau bod ni yn torri ble mae o'n brifo ein aelodau ni leiaf."
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd26 Medi 2022
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2022
Mae gobaith, meddai, na fydd rhaid ystyried diswyddiadau gorfodol wrth rewi swyddi os yw aelod staff yn gadael neu'n ymddeol, gan gydnabod bod torri swyddi'n "siŵr! o amharu.
"Dydi hynny 'chwaith ddim yn hawdd oherwydd mae pob swydd yn bwysig, mae pob swydd yn cyfrannu at ein nodau ac amcanion," dywedodd gan fynegi gobaith na fydd angen diswyddiadau gwirfoddol 'chwaith.
Gan gyfeirio at y bwriad i wneud colled eleni, dywedodd fod "ein sefyllfa ariannol ehangach, ein cronfeydd wrth gefn... yn gry'," a'u bod yn "gweithredu'n ddarbodus rŵan" i geisio sefydlogi'r sefyllfa.
Ychwangodd mai "dyma'r tro cyntaf i ni fod yn edrych ar 'neud toriadau o'r math yma" yn y degawd ers iddi gael ei phenodi'n brif weithredwr, a bod trosiant y mudiad "wedi cynyddu'n sylweddol" er cefndir o lymder a thoriadau i gyllidebau cyrff cyhoeddus drwy'r cyfnod hwnnw.