'Rhaid trin cadarnleoedd y Gymraeg fel ardaloedd cadwraeth'

Cafodd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ei sefydlu yn 2022 i edrych ar feysydd fel tai, twristiaeth, yr economi, amaeth ac addysg
- Cyhoeddwyd
Mae comisiwn wedi argymell trin cadarnleoedd y Gymraeg mewn modd tebyg i ardaloedd cadwraeth pan ddaw at ystyried ceisiadau cynllunio.
Mae'r Comisiwn Cymunedau Cymraeg wedi gwneud 14 o argymhellion mewn adroddiad i Lywodraeth Cymru.
Un o'r rheiny ydy y dylid asesu effaith cais cynllunio ar y Gymraeg mewn ardaloedd sydd â chanran uwch o siaradwyr yr iaith, yn yr un modd ag y mae ceisiadau cynllunio yn cael eu hystyried mewn ardaloedd cadwraeth arbennig.
Dywedodd cadeirydd y comisiwn, Dr Simon Brooks, mai "gwella'r ystyriaeth a roddir i'r Gymraeg yn y system gynllunio yw un o'r pethau pwysicaf y gallwn ni ei wneud i sicrhau dyfodol ein hiaith fel iaith genedlaethol a chymunedol".
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yn ystyried yr adroddiad ac yn ymateb i'w ganfyddiadau.
'Angen edrych eto ar bolisïau'
Roedd tystiolaeth a gyflwynwyd i'r comisiwn yn dangos bod nifer o awdurdodau cynllunio a chyrff proffesiynol yn credu bod angen edrych eto ar bolisïau a chanllawiau yn y maes cynllunio mewn perthynas â'r Gymraeg.
Dywed yr adroddiad bod y comisiwn "yn gryf o'r farn fod angen fframwaith polisi clir sy'n egluro goblygiadau'r dynodiad o ardal o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch ar gyfer penderfyniadau cynllunio" a bod gwersi i'w dysgu o'r maes polisi amgylcheddol.

Dywedodd Simon Brooks bod y comisiwn wedi dod i'r casgliad y "dylid diwygio polisïau cynllunio gwlad a thref sy'n berthnasol i'r Gymraeg."
Meddai'r adroddiad: "Yn fwyaf problemus oll ym marn y comisiwn, ni osodir unrhyw safon yn nodyn cyngor technegol 20, nac yn unman arall, ar gyfer yr hyn y dylai mesurau lliniaru ei gyflawni yn y maes cynllunio o safbwynt y Gymraeg.
"Gellir cyferbynnu hyn â'r hyn sy'n ofynnol i liniaru niwed ecolegol mewn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) a warchodir gan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017.
"O dan y rheoliadau hyn, os yw cais cynllunio yn debygol o gael effaith arwyddocaol ar ACA, mae angen i'r datblygwr ddangos na fyddai effaith andwyol ar 'integredd' (integrity) yr ACA wedi i unrhyw fesurau lliniaru gael eu cymryd.
"Ym marn y comisiwn, gellir dysgu o'r rheoliadau hyn yn ymwneud ag ardaloedd o arwyddocâd ecolegol wrth ystyried polisïau cynllunio newydd ar gyfer ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch."
- Cyhoeddwyd8 Awst 2024
- Cyhoeddwyd4 Awst 2022
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2022
Term technegol yw 'dwysedd uwch' ar gyfer diffinio ardaloedd lle y ceir dwysedd uchel o siaradwyr fel canran o'r boblogaeth yn lleol.
Ond mae'r comisiwn yn pwysleisio "nid yw hyn yn golygu nad yw ardaloedd eraill o Gymru yn arwyddocaol o safbwynt y Gymraeg a chymunedau Cymraeg".
"Nid yw ychwaith yn golygu nad yw'n bosibl i gais gynllunio gael effeithiau andwyol arwyddocaol ar y Gymraeg y tu allan i ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch."
Mae'r comisiwn o'r farn "y dylai datblygwr ddarparu asesiad annibynnol o effeithiau cais cynllunio ar y Gymraeg os yw'r awdurdod cynllunio o'r farn wedi proses sgrinio ei bod yn debygol y bydd y cais yn cael effaith arwyddocaol ar y Gymraeg y tu allan i ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch".
Daeth tystiolaeth hefyd i law'r comisiwn "y gall fod prinder gwybodaeth a sgiliau priodol ymysg rhai ymarferwyr yn y maes cynllunio defnydd tir o ran egwyddorion cynllunio ieithyddol".
'Diwedd ein hardaloedd Cymraeg'
Mae Cylch yr Iaith wedi croesawu'r adroddiad a'r argymhellion.
Dywedodd Ieuan Wyn ar ran y mudiad: "Dyma faes allweddol i barhad a ffyniant y cymunedau Cymraeg gan fod cynllunio gwlad a thref yn effeithio'n uniongyrchol ar bob math o ddatblygiadau, gan gynnwys codi tai.
"Mae diwygio'r polisïau a chyflwyno polisïau newydd yn hanfodol os ydy'r Gymraeg i gael ei gwarchod fel iaith gymunedol."
Dywedodd prif weithredwr Dyfodol i'r Iaith, Dylan Bryn Roberts, eu bod yn "cefnogi'n llwyr y gyfres o argymhellion".
Meddai, "gan fod cynifer ohonynt yn gyfrifoldeb Llywodraeth a Senedd Cymru, mater o sicrhau ewyllys a chonsensws gwleidyddol yw hi bellach o ran bwrw ymlaen".
"Rydym felly yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos arweiniad a blaengaredd i sicrhau fod cyfundrefn gynllunio gwlad a thref genedlaethol, ranbarthol, sirol ac sy'n ymwneud â cheisiadau unigol yn gyson, drylwyr ac yn diogelu dyfodol y Gymraeg."
Ymatebodd ymgyrch Hawl i Fyw Adra eu bod yn "cefnogi sefydlu ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch".
Dywedodd Marged Tudur ar ran yr ymgyrch: "Mae'n rhaid dwysau'r ystyriaeth o'r Gymraeg yn y maes cynllunio mewn ardaloedd ymhle mae hi'n iaith bob dydd, yn iaith y stryd.
"Os na wneir hynny, byddwn yn wynebu diwedd ein hardaloedd Cymraeg."