Galw am ystyried yr iaith Gymraeg wrth osod tai rhent Gwynedd

- Cyhoeddwyd
Mae galwadau yng Ngwynedd am sefydlu polisi gosod tai cymdeithasol "fydd yn rhoi blaenoriaeth resymol i wireddu gweledigaeth Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru".
Daw'r alwad ar ôl i 17 o gynghorau lleol gysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg yn gofyn am ei dealltwriaeth hi o'r sefyllfa gyfreithiol o ran yr iaith wrth i gynghorau a chymdeithasau tai osod tai i'w rhentu, a lleoli tenantiaid.
Dywedodd llefarydd ar ran y comisiynydd ei bod wedi derbyn barn gyfreithiol am Ddeddf Tai 1996, a'i dealltwriaeth yw "y gellir ystyried sgiliau Cymraeg wrth osod".
Ychwanegodd: "Rhaid, serch hynny, bod y polisi yn dal i roi blaenoriaeth resymol i'r bobl a restrir yn yr adran berthnasol o'r Ddeddf."
Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod yn derbyn cyngor cyfreithiol ynghylch y mater.
'Iaith yn gwanhau yma bob dydd'
Mae ymateb y comisiynydd wedi cael croeso gan y cynghorau sy'n aelodau o brosiect Perthyn - un o gynlluniau Llywodraeth Cymru i warchod cymunedau Cymraeg sydd â nifer uchel o ail gartrefi.
Dywed gweinyddwr y prosiect, Sian Parri: "Mae hwn wedi deillio o astudiaeth leol yn edrych ar y sefyllfa ieithyddol yn Llangwnnadl.
"Mae yr iaith yn gwanhau yma bob dydd."
Ychwanegodd: "Mae'r newyddion i'w groesawu yn arw bod yr hawl yna, a mae'r cynghorau cymuned yn gofyn am sefydlu polisi gosod lleol ymhob un o'r cymunedau yna fydd yn gwarchod y Gymraeg o hyn ymlaen."
Galwodd ar Gyngor Gwynedd i barhau i "gydweithio a chyd-drafod" wrth symud ymlaen.

Sian Parri ydy gweinyddwr prosiect Perthyn
Cynhaliwyd arolwg yn 2024, ac roedd y data'n dangos er bod aelwydydd Cymraeg yn dal i fodoli, mae eu canran fel rhan o'r gymuned ehangach yn lleihau.
Symudodd yr awdures Margiad Roberts i'r ardal 40 mlynedd yn ôl ac mae wedi sylwi ar yr iaith yn newid yno.
Dywedodd bod "dirywiad amlwg wedi'i weld yn nifer y Cymry Cymraeg".
"Gobeithio y bydd gweithredu buan ar sail be' mae'r comisiynydd yn ei ddweud," meddai.
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd27 Chwefror
- Cyhoeddwyd19 Chwefror
Wrth esbonio'r farn gyfreithiol, dywedodd llefarydd y comisiynydd fod angen ystyried y syniad "yng nghyd-destun dealltwriaeth lawn o sut mae polisïau tai presennol yn effeithio ar yr iaith mewn ardaloedd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg".
Cadarnhaodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd fod Comisiynydd y Gymraeg wedi cysylltu â nhw, ac ychwanegodd bod y cyngor "eisoes yn y broses o dderbyn cyngor cyfreithiol ein hunain ynglŷn â'r mater o osod meini prawf ieithyddol ar osodiadau tai".
Mae'r comisiynydd hefyd wedi cysylltu â chymdeithas dai Adra, a dywedodd llefarydd ar eu rhan eu bod "yn dilyn Polisi Gosod Tai Cyffredinol Cyngor Gwynedd, ac yn gweithredu bob gosodiad trwy'r sir yn unol â'r polisi hwn".
'Angen rhagor o ymchwil'
Mae'r polisi gosod a gwerthu lleol yn cael ei sefydlu drwy gytundeb rhwng y Cynghorau Cymuned a'r cymdeithasau tai gyda chefnogaeth Cyngor Gwynedd.
Wrth edrych i'r dyfodol , dywedodd Anna Fon o Gymdeithas Pen-y-Graig, gafodd ei sefydlu yn 2012 er mwyn gweithredu peilot o gynllun Croeso Cymraeg yn Llangwnnadl, bod angen diwygio'r polisi gosod lleol ar draws Cymru "er mwyn rhoi ystyriaeth i'r Gymraeg".
"Mae isio gweithredu a 'neud yn siŵr bod pobl leol yn dod yn uchel ar y rhestrau 'ma gan y cynghorau o ran pwy sy'n cael tŷ yn yr ardal."
Dywedodd bod derbyn pobl o du allan i gymunedau gwledig fel sydd ym Mhen Llŷn yn gallu "chwalu y gymdeithas yn yr ardal yna", gyda sefyllfaoedd tebyg ar draws y wlad, meddai.
Ond yn ôl Comisiynydd y Gymraeg, mae angen mwy o ymchwil er mwyn deall beth fyddai canlyniadau'r farn gyfreithiol yn ymarferol, "er mwyn asesu'r posibilrwydd o ddiwygio polisïau gosod tai cymdeithasol".
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai "awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am ddyrannu tai yng Nghymru, ac yn y sefyllfa orau i ddeall ac ymateb i'r angen am dai yn eu cymunedau".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Chwefror
- Cyhoeddwyd22 Ionawr