Glanaethwy: Ennill Côr y Byd yn Llangollen yn 'freuddwyd'
- Cyhoeddwyd
Mae arweinwyr Côr Ysgol Glanaethwy yn dweud "nad ydyn nhw'n gallu coelio'n iawn" eu bod wedi ennill cystadleuaeth Côr y Byd yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.
Dyma'r tro cyntaf i'r côr o Fangor ennill y teitl, sydd hefyd yn cynnwys gwobr o £3,000.
Ers ei gyflwyno yn 1987, Côr y Byd ydi un o brif uchafbwyntiau'r ŵyl, gan ddenu cantorion o bedwar ban byd i gystadlu am Dlws Pavarotti mewn cyngerdd i gloi'r eisteddfod.
Ond gydag ansicrwydd am ddyfodol yr ŵyl, dywedodd yr arweinydd, Cefin Roberts, bod "isio i ni gefnogi'r Eisteddfod yn fwy neu mae'n beryg y gwnawn ni ei cholli hi, a'n bai ni fydd o os 'nawn ni ei cholli hi."
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fore Llun, dywedodd arweinwyr y côr, Cefin a Rhian Roberts fod ennill y wobr yn "golygu lot i ni fel ysgol".
"'Da ni dal ddim yn coelio'n iawn. Ma'n dipyn bach o freuddwyd a 'da ni 'di mopio," meddai Rhian.
"'Da ni'n amrywio o 12 oed i bron i 70 oed wedyn mae o'n her i ni gyflwyno'r gerddoriaeth a'r symudiadau a'r gwisgoedd a phob peth felly... fel sioe weledol 'swn i'n disgrifio fo fwya'."
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd15 Awst 2023
Cafodd tlws Côr y Byd ei gyflwyno i'r Eisteddfod yn 2005 gan y tenor adnabyddus, Luciano Pavarotti er cof am ei dad Fernando Pavarotti a ganodd yn Llangollen gyda’i gôr o Modena yn yr Eidal yn 1955.
Cafodd y côr buddugol ei ddewis o enillwyr pum prif gategori corawl yr Eisteddfod, sef cymysg, benywaidd, meibion, siambr ac agored.
Ar ôl ennill y categori côr agored fe frwydrodd Côr Glanaethwy yn erbyn Cantamus Camerata o Brifysgol Talaith Oklahoma yn UDA, Tegalaw o’r Bala, Corws Meantime o Lundain a'r GC Ensemble o Ynysoedd y Philipinau.
'Teulu bach ar y llwyfan'
Fe gyflwynodd Glanaethwy bedwar darn yn cyflwyno'r Mabinogion a Shakespeare, wrth i'r tylwyth teg wahodd Llangollen i daith theatrig ac arbrofol.
Mae Cefin yn meddwl "mai'r cyfuniad o gyflwyno theatr drwy gerdd a'r briodas yn goreograffyddol â'r theatr" ydi un o'r rhesymau eu bod nhw wedi ennill.
Fel côr agored mae Cefin yn egluro mai "cymuned yr ysgol ydi hwn - yn rieni, yn gyfeillion, pawb yn dod at ei gilydd".
"Hwn oedd yr egin gôr naethon ni fynd i Britain's Got Talent flynyddoedd yn ôl. Dyna lle nathon ni ddechrau cyfuno'r cantorion a dwi'n meddwl bellach ma' pawb yn gwerthfawrogi bo' ni'n dysgu 'wbath o'n gilydd yn cyfuno'r oedrannau 'ma.
"Mae'r plant yn dysgu gan yr oedolion ac mae'r oedolion yn sicr yn deud gymaint maen nhw wedi ddysgu gan y plant.
"Dwi'n meddwl bod hwnna wedi bod yn rhan o'r llwyddiant nos Sadwrn - bod 'na gymuned ar y llwyfan a bod pobl wedi anwylo tuag atan ni yn gweld teulu bach ar y llwyfan."
Gydag ansicrwydd am ddyfodol Eisteddfod Llangollen oherwydd trafferthion ariannol, mae Cefin a Rhian am weld rhagor yn cael ei wneud er mwyn diogelu ei dyfodol.
Mae Cefin yn teimlo "y medran ni yng Nghymru fod yn gwneud mwy i gefnogi'r Eisteddfod".
"Dan ni'n dueddol o gadw draw a dwi'n meddwl hefyd bod o'n bechod na chafodd Cymru gyfle i weld y cystadlu ar ein sianel ni'n fwy cyson.
"Ma' isio i ni gefnogi'r Eisteddfod yn fwy neu mae'n beryg y gwnawn ni ei cholli hi, a'n bai ni fydd o os nawn ni ei cholli hi."
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran S4C: “Mae amserlen S4C yn newid yn flynyddol i adlewyrchu'r cyfoeth o ddigwyddiadau byw sydd gennym ni yng Nghymru dros fisoedd yr haf.
"Rydyn ni’n falch bod Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn parhau yn rhan o’r arlwy hynny, ac yn ein rhaglen arbennig nos Sadwrn cafwyd uchafbwyntiau’r wythnos yn ogystal â darlledu cystadleuaeth Côr y Byd yn fyw yn ei chyfanrwydd.
"Eleni hefyd roedd ein rhaglen gylchgrawn Heno yn dod a blas o’r Ŵyl i gynulleidfa ehangach.
"Hoffem longyfarch Côr Glanaethwy yn wresog am ddod i’r brig mewn cystadleuaeth mor safonol.”
'Ma wastad rhyw brosiect ar y gweill'
Mae Glanaethwy wedi cystadlu yn Llangollen ers 1992 a "'da ni 'di cystadlu 100 o weithiau i gyd," meddai Rhian Roberts.
"Dan ni wrth ein boddau yn mynd yna a gweld y diwylliannau i gyd a'r gwisgoedd gwahanol a ma' pawb mor gyfeillgar. Dan ni'n gobeithio gweld yr Eisteddfod yn mynd o nerth i nerth."
Roedd Glanaethwy yn brysur yn Llangollen eleni hefyd, gan gystadlu gyda'r côr plant, y côr alaw werin i blant yn ogystal â'r côr agored.
Glanaethwy ddaeth i'r brig yng nghategori'r corau cymysg yng nghystadleuaeth Côr Cymru eleni.
Ond fydd 'na ddim seibiant wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer eu cyngerdd blynyddol yn Theatr Seilo, Caernarfon ar y 15ed o Orffennaf, a chystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni.
"Ma' wastad rhyw brosiect arall ar y gweill a felna da ni di bod ers blynyddoedd," meddai Rhian Roberts.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd24 Mai 2015
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2017