Inter-rail Cwpan y Byd i ddathlu pen-blwydd yn 80

Ann a Wyn
Disgrifiad o’r llun,

Pa ffordd well i Ann Williams a'i gŵr, Wyn, ddathlu ei phen-blwydd yn 80 na theithio o gwmpas Ffrainc yn dilyn y rygbi?

  • Cyhoeddwyd

Mae’n fath o antur sy’n cael ei chysylltu’n amlach gyda phobl ifanc ar eu gwyliau haf neu flwyddyn allan.

Ond mae un o gefnogwyr rygbi Cymru wedi penderfynu mai teithio inter-rail o gwmpas Ffrainc am fis yw’r ffordd berffaith o ddathlu ei phen-blwydd yn 80.

Mae Ann Williams o Gaerdydd a’i gŵr Wyn bellach wedi cyrraedd Nice ar gyfer rhan nesaf eu taith, wrth i Gymru wynebu Portiwgal ddydd Sadwrn.

“Ni’n dathlu 80, ac yn dathlu fel ‘se ni’n ifanc!” meddai.

Fel cwpl sydd wedi bod i sawl Cwpan y Byd a thripiau rygbi eraill, mae Ann a Wyn yn deithwyr profiadol yn barod.

Fe dreulion nhw fis yn y twrnamaint diwethaf yn Japan hefyd ac maen nhw wedi teithio o gwmpas Seland Newydd yn y gorffennol – gan ddangos nad yw oed yn rhwystr i’w hanturiaethau.

“Gaethon ni amser ffantastig bryd hynny, a 'naeth hynny hybu ni i ‘neud rhywbeth tebyg eto,” meddai Ann.

“Fi’n hapus a fi’n lwcus iawn bod ni’n cyrraedd yr oedran ‘na, ac yn medru ‘neud pethau fel hyn.”

Ffynhonnell y llun, Ann Williams
Disgrifiad o’r llun,

Bu Wyn ac Ann yn mwynhau'n Bordeaux a'r lleoliad nesaf yw Nice

Gyda mis yn Ffrainc ond yn £200 yr un am y pas trên, mae Wyn yn ei weld fel ffordd wych o weld y wlad.

“Mae’r rheilffordd yn Ffrainc mor rhwydd, mor dda, ac mae pobl mor gyfeillgar ac yn helpu chi,” meddai.

Mae’r cwpl yn amcangyfrif eu bod nhw wedi bod i tua dwsin o wledydd i wylio Cymru, ac wedi bod i dros 100 o gemau oddi cartref dros y blynyddoedd.

Cofio dysgu anthem Ffrainc i'r Ffrancwyr!

Yn wir, mae Ann yn cofio bod yn Parc des Princes yn yr 1980au pan doedd cefnogwyr Ffrainc prin yn canu eu hanthem – felly dyma hi a’i ffrind yn arwain y ffordd.

“Fi’n credu mai ni ddechreuodd y Ffrancwyr i ganu’r Marseilles!” meddai.

“O’dd Diane fy ffrind i wedi ‘neud taflenni ac wedi rhoi nhw allan.”

Mae Wyn yn cofio sefyllfa debyg yn Twickenham, pan oedd cefnogwyr Lloegr yn “mwmblan” canu Jerusalem y tu ôl iddyn nhw.

“Naeth Ann godi fyny a dweud ‘chi ddim yn gwybod y geiriau, dilynwch fi!’. Erbyn y diwedd oedden nhw’n canu Jerusalem yn dda iawn.”

Disgrifiad,

Cymry'n canu yn Bordeaux cyn y gêm yn erbyn Ffiji

Dyw canu yn amlwg ddim yn bell o’r meddwl pan mae’n dod at eu tripiau – roedd y ddau yn rhan o’r criw ddaeth at ei gilydd i berfformio rhai o’r alawon Cymreig mwyaf adnabyddus yng nghanol Bordeaux cyn y gêm yn erbyn Fiji ddydd Sul.

Esiamplau fel yna o agosatrwydd y cefnogwyr sy’n gwneud digwyddiadau fel Cwpan y Byd mor arbennig i Ann.

“Chi’n cwrdd â phobl o bobman yn y byd,” meddai.

“Naethon ni lot fawr o ffrindiau – maen nhw mor gyfeillgar, y bobl sy’n dilyn rygbi.”

Gyda’u merch a ffrindiau eraill yn ymuno â nhw yn nes ymlaen yn y trip, dyw Ann ddim yn difaru’r ffordd mae hi wedi dewis dathlu’r garreg filltir.

“O’n i’m isie ‘neud cruise na dim byd fel ‘na!” meddai.

'Prowd iawn'

Mae hi’n bositif am obeithion Cymru yn y twrnament eleni – ac mae cysylltiad personol hefyd, gyda’u mab Iestyn yn hyfforddwr ieuenctid yng Nghaerdydd sydd wedi gweithio gyda rhai o’r garfan.

“Mae sawl un ohonyn nhw sydd wedi mynd ‘mlaen i chwarae dros Gymru, gan gynnwys cwpl sy’n chwarae ddydd Sadwrn - Louis [Rees-Zammit] a Christ [Tshiunza],” meddai Ann.

“Felly ni’n browd iawn ohono fe.”

Ond nid y genhedlaeth o chwaraewyr dan Warren Gatland yw’r unig rai mae hi wedi mwynhau gwylio dros y blynyddoedd.

“Dwi’n ddigon hen i gofio’r 70au, felly dyw bod yn hen ddim yn ofnadwy – ni’n cofio’r goreuon yn chwarae.”