Apêl i gadw rhieni o Lanelli gyda'u babi yn Tenerife

Alis, Cai a GeorgeFfynhonnell y llun, Cai Daniels
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhieni yn edrych ymlaen at ddod â George adref ac i "bopeth fod yn arferol"

  • Cyhoeddwyd

Mae cwpl ifanc o Sir Gâr yn codi arian i gael aros yn Tenerife ar ôl i'w babi gael ei eni yn annisgwyl tra'r oedden nhw ar wyliau yno.

Cafodd George ei eni dri mis yn gynnar.

Mae mab Cai Daniels ac Alis Lloyd, 26 a 20 o Lanelli, bellach mewn cyflwr sefydlog.

Mae'r rhieni newydd wedi cael gwybod y bydd angen iddyn nhw aros ar yr ynys am wyth wythnos.

Ond nid oes modd iddyn nhw dalu am eu llety a'u costau byw yno gyda'u hyswiriant.

Mae BBC Cymru wedi gofyn i'r cwmni yswiriant am sylw.

Ffynhonnell y llun, Cai Daniels
Disgrifiad o’r llun,

Mae George bellach mewn cyflwr sefydlog, ond mae'n cael ei fwydo gyda thiwb

Aeth Mr Daniels a Ms Lloyd i Tenerife yr wythnos ddiwethaf er mwyn ymlacio cyn bod disgwyl i'w babi gael ei eni ym mis Hydref.

Ond rhoddodd Ms Lloyd enedigaeth yn annisgwyl yn ysbyty Nuestra Señora de Candelaria.

Roedd Mr Daniels wedi trefnu chwarae golff pan ddechreuodd Ms Lloyd gael poenau.

Cafodd George ei eni am 21:40 ar 19 Gorffennaf, yn pwyso 3 phwys. Mae'r babi bellach yn anadlu ar ei ben ei hun, ond mae'n bwydo trwy diwb.

'Sai'n gwybod unrhyw beth'

Dywedodd y rhieni newydd fod rhoi genedigaeth dramor yn brofiad "anodd iawn".

"Achos o'dd dim llawer o bobl yn gallu siarad Saesneg o'dd e'n really anodd siarad, gofyn cwestiynau," medd Ms Lloyd, "sut mae'r babi, ble mae'r babi, ble mae Cai?"

Ni chafodd Mr Daniels fynd gyda Ms Lloyd ar gyfer yr enedigaeth.

"O fi just yn aros mewn coridor am awr heb signal ar ffôn fi a’r batri’n marw hefyd, just yn iste 'na am awr," medd y tad newydd.

Ffynhonnell y llun, Cai Daniels
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yn rhaid i Cai ac Alis aros bum niwrnod cyn cael dal George

Ychwanegodd Ms Lloyd: "O'dd pawb adre’n becso hefyd, just ffonio Cai drwy’r amser – sy'n naturiol - ond o'dd Cai fel 'sai’n gwybod unrhyw beth'."

Cafodd Mr Daniels wybod fod George wedi'i eni trwy weld dehorydd (incubator) yn mynd heibio - gyda'i fab y tu fewn iddo.

"Mae’n brofiad ti byth yn meddwl ti’n mynd i gael," meddai, "pan ti’n clywed e ti fel, ma hwnna’n mental."

Roedd yn rhaid i'r rhieni aros am bum diwrnod cyn cael dal George, oedd yn deimlad "anhygoel" yn ôl Ms Lloyd.

"O'dd e fel pwysau’n cael ei gymryd off ni," medd Mr Daniels.

'Arian yn boen ti ddim ishe'

Gan fod George wedi'i eni'n gynnar, mae'r cwpl o Lanelli wedi cael gwybod y gall fod yn wyth wythnos cyn bod caniatâd iddyn nhw ddod â George yn ôl i Gymru.

Does dim modd iddynt ddefnyddio'u hyswiriant i dalu ar gyfer eu llety na'u costau byw.

Mae gwesty'r cwpl awr i ffwrdd o'r ysbyty. Maen nhw'n gobeithio symud yn agosach at yr ysbyty pan fydd Ms Lloyd wedi cryfhau yn dilyn yr enedigaeth.

Ar hyn o bryd, mae'n costio 200 ewro i'r cwpl deithio i'r ysbyty a 'nôl. Maen nhw'n amcangyfrif y bydd eu llety a'u costau byw yn dod i ryw £6,000.

Fe wnaeth Mr Daniels ystyried gadael Tenerife i weithio er mwyn talu'r costau ychwanegol.

"Ma hwnna’n boen ti ddim ishe ar ben becso am Alis a becso am George – y last thing fi ishe yw becso am arian a mynd adre'."

Ffynhonnell y llun, Cai Daniels
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd George ei eni dri mis yn gynnar yn Tenerife

Ddydd Iau, fe wnaeth ffrind Cai greu tudalen i godi arian i'r teulu newydd fedru aros gyda'i gilydd yn Tenerife.

Maen nhw wedi casglu £3,000 mewn llai na 24 awr.

Roedd y cwpl yn "anghyfforddus" gyda'r dudalen i ddechrau.

"O’n i byth yn meddwl bydde angen rhywbeth fel hyn arnom ni," esbonia Ms Lloyd.

Ond mae'r gefnogaeth wedi bod yn "wych," meddai.

"Ni methu credu’r holl bobl sydd wedi rhoi neu hyd yn oed just anfon neges... ma' fe mor, mor lyfli faint o gefnogaeth ni 'di cael."

"Ni ffili aros dod adre' a gweld pawb a dweud diolch."

Pynciau cysylltiedig