Carcharu dyn am lofruddio dyn arall gydag un dwrn i'w ben
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Abertawe wedi ei ddedfrydu i oes o garchar am lofruddio dyn 64 oed gydag un dwrn i'w ben.
Cafwyd Christopher Cooper, 39, yn euog o ladd Kelvin Evans drwy ei daro y tu allan i Westy'r Orsaf ar Stryd Fawr Gorseinon ar 26 Mai y llynedd.
Cafodd Mr Evans, o Orseinon, ei gludo i'r ysbyty ar ôl yr ymosodiad, ble bu farw fis yn ddiweddarach.
Roedd Cooper wedi pledio'n euog i ddynladdiad ond roedd yn gwadu llofruddiaeth.
Ond penderfynodd rheithgor fis Tachwedd ei fod yn euog o lofruddio Mr Evans.
Bydd Cooper yn gorfod treulio o leiaf 16 mlynedd dan glo am yr ymosodiad.
Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y barnwr Geraint Walter wrth Cooper fod bywyd Mr Evans yn "wedi ei ddiffodd yn greulon ac yn ddisynnwyr".
Clywodd y llys fod Mr Evans wedi bod yn yfed yng Ngwesty'r Orsaf, oedd yn cael ei adnabod yn lleol fel "Y Gyp", gyda'i bartner Catherine Tracy Francis.
Fe wnaeth Cooper ddilyn Mr Evans wrth iddo adael i gwrdd â'i bartner mewn tafarn arall a'i daro unwaith yn ei ben o'r tu ôl.
Dywedodd y barnwr fod Cooper yn credu fod Mr Evans a'i bartner wedi "bychanu" Francis am iddyn nhw edrych ar ei gilydd tra bod Francis yn canu carioci.
Roedd Francis yn ymwybodol o'r ymosodiad ond ni ffoniodd yr heddlu.
Yn dilyn ymchwiliad o'i ffôn, fe ddaeth i'r amlwg ei bod wedi bod yn chwilio am westai yn fuan wedi'r digwyddiad.
Cafodd y pâr eu harestio'r diwrnod canlynol.
Fe wnaeth Francis, 54, bledio'n ddieuog i gynorthwyo troseddwr ond fe gafodd hithau ei chanfod yn euog a'i dedfrydu i ddwy flynedd o garchar.
Dywedodd Nia Sturgess o Wasanaeth Erlyn o Goron (CPS) fod y digwyddiad yma yn "dangos sgil effeithiau difrifol sy'n gallu deillio o un ergyd yn unig".
Brolio am yr ymosodiad
Dywedodd y barnwr Geraint Walter bod yr ymosodiad yn "hollol annisgwyl" ac yn "un, yn anochel, a fyddai'n arwain at anaf difrifol iawn pe bai'r pen yn taro wyneb caled".
Ychwanegodd mai'r cymhelliad oedd teimlad Cooper bod Francis "wedi cael ei bychanu gan Mr Evans a'i bartner yn edrych ar ei gilydd a dweud rhywbeth, yr oeddech chi wedi ei weld yn ymwneud â llais Tracy Francis wrth iddi ddefnyddio'r peiriant carioci".
Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn credu bod Cooper wedi aros i Mr Evans adael cyn iddo ei ddilyn allan ac y byddai wedi ei daro eto pe na bai ei ddioddefwr wedi disgyn i'r llawr.
Dywedodd ei fod yn "iasol" bod Cooper wedyn wedi brolio am yr ymosodiad, gan alw ei ddyrnau yn "bad boys".
Doedd Cooper heb ddangos unrhyw edifeirwch yn ystod yr achos chwaith, yn ôl y barnwr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2024