Gwobrau newydd i ddathlu artistiaid du Cymru

"Y gwahanaieth mae'r gwobrau 'ma yn mynd i neud yw i hyder pobl," meddai Dom James
- Cyhoeddwyd
Mae cyfres newydd o wobrau yn cael eu lansio i gydnabod gwaith artistiaid du o Gymru.
Dywedodd trefnwyr y Gwobrau Cerddoriaeth Du Cymreig bod hi'n "hen bryd" sefydlu gwobrau.
Y nod, medden nhw, yw dod yn "MOBOs Cymreig" – Music of Black Origin – a dyrchafu artistiaid afrobeats, grime, reggae a mwy.
Mae yna hefyd gategori ar gyfer y gân iaith Gymraeg orau.
'Creu hanes'
Mae'r cyflwynydd a cherddor Dom James wedi croesawu'r gwobrau, gan ddweud fod artistiaid du o Gymru "braidd yn overlooked".
"Fi'n meddwl y gwahaniaeth mae'r gwobrau 'ma yn mynd i 'neud yw i hyder pobl," meddai.
"Yr hyder i ddangos mae 'na le yma i ni, mae 'na le yma i bobl ifanc oedd byth yn meddwl bod 'na bosibilrwydd o 'neud cerddoriaeth, pobl sy'n edrych fel fi."

Mae gan Dom James sioe wythnosol ar BBC Radio Cymru 2
Dywedodd yr Athro Uzo Iwobi CBE, cyd-sylfaenydd y gwobrau newydd, eu bod yn "fenter hirddisgwyliedig".
"Roedden ni'n meddwl y byddai MOBO yn treiddio i lawr i Gymru ar ffurf digwyddiadau ymylol, amlygu a chodi artistiaid Cymreig," meddai.
"Nid yw hynny wedi digwydd mewn gwirionedd. Felly rydym yn tyfu rhai organig ein hunain.
"Mae ein cerddorion MOBO o Gymru yn creu hanes ac rydym yn gwahodd pawb i fod yn rhan ohono."
- Cyhoeddwyd21 Mawrth
- Cyhoeddwyd3 Mawrth
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2024
Mae'r gwobrau'n cael eu trefnu gan dîm o wirfoddolwyr ac maen nhw ar hyn o bryd yn ceisio am nawdd a chyllid.
Dywedodd y gantores Molara Awen, sy'n serennu yn Gogglebocs Cymru ar S4C, fod y gwobrau'n "fenter bwysig iawn" i'r diwydiant cerddoriaeth du yng Nghymru.
"Clywn lawer am seiloffonau, telynau a feiolinau, ond ychydig iawn o'r offerynnau a ddaw canrifoedd yn gynt," meddai.

Mae'n bwysig fod pobl ifanc yn cael eu gweld, meddai Molara Awen
Ychwanegodd: "Mae'n bwysig fod pobl ifanc yn teimlo'n seen.
"Mae'n bwysig iawn i wrando ar bob llais - os mae'n rap, R&B neu reggae mae lot o gerddoriaeth yn dod o bobl ddu.
"Yn y gorffennol, fel Sam Smith yn y MOBO Awards yn 2014, 'da ni'n dathlu pobl gwyn sy'n gwneud cerddoriaeth du.
"Ond mae'n bwysig iawn i ddweud wrth bobl gyda chroen brown bod ni'n gweld chi, 'da ni'n clywed chi, 'da ni'n moyn cael ti'n fwy hyderus, ti'n teimlo mae'r drysau ar agor ddim ar gau achos lliw dy groen."
Bydd y gwobrau yn cael eu cynnal fis Hydref, gydag enwebiadau bellach ar agor.