Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2024 i Lemfreck
![Lemfreck yng Nghasnewydd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/b4c4/live/71dc2260-85bd-11ef-9329-f30486eb2a33.jpg)
- Cyhoeddwyd
Lemfreck sydd wedi cipio'r Wobr Gerddoriaeth Gymreig ar gyfer 2024.
Mewn seremoni yng Nghanolfan y Mileniwm, fe gyhoeddwyd mai Lemfreck yw enillwyr y brif wobr eleni am eu halbwm, Blood, Sweat & Fears.
Roedd Lemfreck yn fuddugol o blith 15 o artistiaid oedd wedi cyrraedd y rhestr fer.
Mae'r wobr - sy'n cynnwys tlws a gwobr ariannol o £10,000 - yn agored i albymau o bob math ac mae enillwyr y gorffennol yn cynnwys Kelly Rogue Jones, Boy Azooga, Deyah, Gruff Rhys, a Gwenno.
Cyflwynydd BBC Radio 1, Sian Eleri, oedd yn arwain y seremoni a gafodd ei gynnal yng Nghanolfan y Mileniwm.
Cafodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig ei sefydlu yn 2011 gan y cyflwynydd Huw Stephens a'r ymgynghorwr cerddoriaeth John Rostron, gyda phanel o farnwyr arbenigol o'r diwydiant yn dewis yr enillydd.
Beirniaid y wobr eleni oedd; Caroline Cullen, CassKid, Jude Rogers, Molly Palmer, Owain Elidir Williams, Sofia Ilyas a Tom Morgan.
![Rhestr fer y wobr Gerddoriaeth Gymreig](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/3f89/live/58bc9400-857b-11ef-822c-a50726bfda2e.jpg)
Y rhestr fer yn llawn
Aleighcia Scott - Windrush Baby
Angharad - Motherland
Buzzard Buzzard Buzzard - Skinwalker
CHROMA - Ask for Angela
Cowbois Rhos Botwnnog - Mynd â'r tŷ am dro
Elkka - Prism of Pleasure
Georgia Ruth - Cool Head
Gruff Rhys - Sadness Sets Me Free
HMS Morris - Dollar Lizard Money Zombie
L E M F R E C K - BLOOD SWEAT & FEARS
Mellt - Dim Dwywaith
Pys Melyn - Bolmynydd
Skindred - Smile
Slate - Deathless
Ynys - Dosbarth Nos
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd2 Medi 2024
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2021