Plygain-iadur Ionawr 2025
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o wasanaethau Plygain wedi cael eu cynnal yn ystod mis Rhagfyr, ond peidiwch â phoeni, dydi'r tymor ddim wedi dod i ben. Mae'n arferol i'r gwasanaethau hyn gael eu cynnal hyd ddiwedd mis Ionawr.
Ar un adeg, roedd y gwasanaethau plygain hanesyddol yn cael eu cynnal ar hyd a lled y wlad. Daeth nifer o'r rheiny i ben, ond cafodd y traddodiad ei gynnal yn ddi-dor mewn ardaloedd fel Sir Drefaldwyn a de Sir Ddinbych. Erbyn heddiw, rydym ni'n gweld adfywiad cenedlaethol, fel mae'r rhestr isod yn ei brofi.
- Cyhoeddwyd25 Rhagfyr 2019
Plygeiniau mis Ionawr...
Nos Iau 02/01/2025
Llanrwst, Eglwys Sant Grwst 19:00
Nos Wener 03/01/2025
Llanfair Caereinion, Capel Moreia 19:00
Nos Sul 05/01/2025
Trecynon, Aberdâr, Eglwys St Ffagan 17:00
Caerdydd, Y Tabernacl, 81 Heol Merthyr, Yr Eglwys Newydd 17:00
Llwynhendy, Tabernacl 18:00
Llaniestyn, Eglwys Sant Iestyn 18:00
Licswm, Sir Fflint, Capel y Berthen 18:00
Llanerfyl, Eglwys Sant Erfyl 18:30
Nantgaredig, Capel MC 18:30
Nos Lun 06/01/2025
Dinas Mawddwy, Capel Ebeneser 19:00
Nos Fercher 08/01/2025
Abergynolwyn, Eglwys Dewi Sant 19:00
Nos Iau 09/01/2025
Darowen, Eglwys Sant Tudur 19:00
Pentyrch, Eglwys Sant Catwg 19:00
Dydd Sul 12/01/2025
Melbourne, Awstralia, Capel Cymraeg 14:00 (amser Awstralia)
Caerdydd, Eglwys St Teilo, Amgueddfa Werin Sain Ffagan (Plygain Eglwys Minny Street) 14:00
Llundain, Capel y Boro, 90 Southark Bridge Rd 16:00
Gwaelod-y-Garth, Tŷ Cwrdd Bethlehem 17:00
Llanddarog, Eglwys St Twrog 17:00
Y Fenni, Eglwys y Drindod Sanctaidd, Stryd Baker (NP7 7BA) 18:00
Yr Wyddgrug, Capel Bethesda 18:00
Llannor, Eglwys y Groes Sanctaidd (LL53 8LJ) 18:00
Llanfihangel yng Ngwynfa, Neuadd y Pentre 18:30
Llanwnda, Eglwys Gwyndaf Sant 19:00
Blaenannerch, Aberteifi 19:00
Nos Lun 13/01/2025
Mallwyd, Eglwys Sant Tydecho 19:00
Nos Iau 16/01/2025
Llanegryn, Eglwys 18:30
Nos Wener 17/01/2025
Trefaldwyn, Eglwys Sant Nicolas 18:30
Nos Sul 19/01/2025
Myddfai, Eglwys Sant Mihangel 17:00
Llanuwchllyn, Capel Ainon 19:00 (oherwydd fod llefydd parcio yn brin, rhaid ymgasglu ymlaen llaw mewn bws mini ger y neuadd bentref)
Nos Fercher 22/01/2025
Llanfair, Harlech, Eglwys y Santes Fair 19:00
Nos Iau 23/01/2025
Aberdaugleddau, Eglwys Dewi Sant, Hubberston 18:30
Nos Wener 24/01/2025
Llanelwy, Cadeirlan 18:00
Nos Sul 26/01/2025
Llandeilo, Eglwys St. Teilo 18:00
Nos Lun 27/01/2025
Lledrod, Capel Rhydlwyd 18:30
Cadw trefn
Mae grŵp o bobl yn gweithio'n ddiwyd yn ceisio rhoi trefn ar yr holl ddigwyddiadau, ac wedi creu adnodd lle allwch chi fynd i ddysgu mwy am y traddodiad arbennig hwn.
Ceris Gruffudd, Ffion Mair, Roy Griffiths, Rhian Davies, Gareth Williams ac Arfon Gwilym yw'r rhai y tu ôl i plygain.org, dolen allanol (dolen allanol). Ewch draw yno am fwy o wybodaeth!
Sain unigryw y Plygain
Mae sain traddodiadol y Plygain yn un trawiadol. Dyma flas o'r hyn allwch chi ei glywed mewn gwasanaeth o'r fath, wedi ei recordio yn Llanfyllin yn 2019.
Os hoffech chi ychwanegu gwasanaeth Plygain i'n digwyddiadur e-bostiwch cymrufyw@bbc.co.uk
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2012