Hen Neuadd Farchnad Llanidloes yn 400 oed

  • Cyhoeddwyd
Llanidloes
Disgrifiad o’r llun,

Dr John Glyn Hughes ger Hen Neuadd Farchnad Llanidloes

Os ydych wedi bod i Lanidloes o'r blaen mae'n debyg y byddwch yn gwybod am yr adeilad hynafol yng nghanol y dref; mae'r lleoliad a'r dyluniad yn denu sylw.

Cafodd Hen Neuadd y Farchnad ei adeiladu rhwng 1612 ac 1622, ac mae'n debyg mai dyma'r adeilad hynaf o'i fath yng Nghymru.

Rhywun sy'n byw yn nhref Llanidloes ers blynyddoedd yw'r hanesydd Dr John Glyn Hughes. Yma, mae Dr Hughes yn olrhain hanes y strwythur, a sut mae wedi goroesi dros y canrifoedd.

Nid yw'r union ddyddiad yr adeiladwyd yr Hen Neuadd Farchnad gyntaf yn hysbys gyda sicrwydd. Efallai ei fod wedi'i godi mor gynnar â 1574, pan gynhaliwyd y sesiynau mawr yn Llanidloes, ond mae tystiolaeth arall yn cyfeirio at ddyddiad sy'n agosach at 1600.

Pan oedd Jenkin Lloyd o Berthlwyd yn Siryf yn 1605-6 cynhaliwyd yr Assizes yn Llanidloes ac o bosibl yn Yr Hen Neuadd Farchnad, naill ai'r adeilad presennol neu fersiwn cynharach.

Sonnir am Neuadd Booth yn Llanidloes mewn adroddiad gan Gomisiwn Llys y Trysorlys ar gyfer 1608 a chynhaliwyd yr Assizes yn Llanidloes eto yn 1629. Mae'n rhesymol tybio bod yr adeilad presennol yn bodoli erbyn dechrau'r 1620au ac felly mae wedi bod yn ei leoliad presennol ers pedwar can mlynedd.

Rhan o ystâd Berthlwyd

Drwy gydol yr ail ganrif ar bymtheg roedd Yr Hen Neuadd Farchnad yn rhan o ystâd Berthlwyd ac fe'i trosglwyddwyd yn llinell uniongyrchol teulu'r Lloyd. Yn 1696 trosglwyddodd yr ystâd i ferch a briododd Clun o Glandulas Canol, Llanidloes, ac yna i'w merch, a briododd John Lloyd o Halkin, y Fflint.

Roedd y teulu hwn nad oedd yn gysylltiedig â Lloydiaid cynharach Berthlwyd, yn dal yr ystâd am tua chant o flynyddoedd.

Yn 1831 bu i un o'r teulu gael ei greu yn Farwn Mostyn, a mab yr ail Farwn Mostyn werthodd ystâd Berthlwyd. Prynwyd Yr Hen Neuadd Farchnad gan Edward Jenkins o Lanidloes, gwneuthurwr gwlanen, ac yna fe'i trosglwyddwyd i'w fab John Jenkins, Penygreen ac ar ôl hynny i Colonel John Davies-Jenkins, Penygreen. Gwerthodd y Colonel yr Hen Farchnad ym mis Mawrth 1918, am £400 i Faer a Chorfforaeth Llanidloes.

Dros y 400 mlynedd diwethaf mae'r Hen Neuadd Farchnad wedi cael ei defnyddio ar gyfer bron popeth gan gynnwys cyfarfodydd anghydffurfiol o bron pob enwad wrth i'w haelodaeth ddod yn rhy fawr i'w lletya mewn tai preifat.

Carreg John Welsey

Mae Llyfr Cofnodion y Crynwyr ar gyfer 1701 yn cofnodi cais i symud eu cyfarfodydd o ysgubor Robert Evan i Neuadd y Dref. Yn 1748, pregethodd John Wesley yno ac hefyd yn 1764 a 1769. Mae'r garreg yr oedd yn sefyll arni yn cael ei chadw'n ddiogel ger y neuadd.

Fe'i defnyddiwyd gan y Wesleaid tan 1802 pan adeiladon nhw eu capel a gwrandawodd y Bedyddwyr a'r Annibynwyr ar eu gweinidogion yn pregethu o dan y neuadd.

Disgrifiad o’r llun,

Y garreg ger yr adeilad ar yr ochr dde yw ble roedd John Wesley yn sefyll wrth annerch y dorf

Post chwipio a stociau

Roedd post chwipio'r dref, y stociau a'r pwmp dŵr wedi'u lleoli yn mhen gogleddol yr Hen Neuadd. Defnyddiwyd y post chwipio am y tro olaf tua 1810, a cafodd y stociau eu "dinistrio'n dreisgar gan hwliganiaid" yn 1838 a chynhaliwyd cyfarfod arbennig o Gyngor y Dref i ystyried canlyniad difrifol y weithred hon.

Fodd bynnag, ychydig iawn o ddefnydd oedd ar y stociau newydd a adeiladwyd yn 1841. Goroesodd yr hen bwmp pren tan 1862 pan gafodd ei ddisodli gan bwmp haearn a gostyngodd pwysigrwydd y pwmp gydag adeiladu'r gronfa ddŵr yn Nant y Geifr.

Roedd y clo, a adwaenir fel y Crib, yn y gornel de-ddwyrain ac yn ddi-os fe'i defnyddiwyd yn dda nes iddo gael ei ddisodli fel carchar yn 1839 gan y Tŷ Crwn dros y Bont Fer.

Nid tan tua 1838 y dirywiodd pwysigrwydd Yr Hen Neuadd Farchnad ym mywyd y dref, gyda mwy o ddefnydd yn cael ei wneud o'r tafarnau ac adeiladu'r gwahanol gapeli. Erbyn canol y 19eg ganrif roedd wedi dod yn siop ac yn fan busnes ac yn 1853, cynigiodd y maer, yr enwog T E Marsh £53.15s.8d tuag at ei brynu a'i symud.

'Dan fygythiad'

Daeth yr hen adeilad dan fygythiad o gael ei ddymchwel yn 1871, 1877 ac eto yn 1897.

Ond yn ddiweddarach yn 1897 dychwelodd i ddefnydd y cyhoedd fel Sefydliad a Llyfrgell y Gweithwyr a pharhau felly tan 1908 pan adeiladwyd Neuadd y Dref a'r llyfrgell newydd. Unwaith eto, daeth ei fodolaeth o dan fygythiad, ond goroesodd yr ymosodiad dim ond am fod y perchnogion wedi gwrthod ei gwerthu.

Yn 1910 penderfynwyd fod y neuadd fel adeilad yn "arbennig o deilwng o gadwraeth". Ar ôl iddo gael ei brynu yn 1918 gan y dref parhaodd fel man busnes tan 1933, pan gafodd ei droi'n Amgueddfa Hanes a Diwydiant Lleol, gyda'r seremoni agoriadol a berfformiwyd gan Cyril Fox, Cyfarwyddwr Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Y ffordd osgoi

Mae Hen Neuadd y Farchnad wedi goroesi sawl ymgais i'w dymchwel, neu ei symud i leoliad arall pan oedd yr A470 yn rhedeg drwy ganol y dref gan fynd drwy'r naill ochr a'r llall iddi. Parhaodd y bygythiad yma nes i'r ffordd osgoi gael ei hadeiladu yn yr 1980au.

Mae'r Hen Neuadd yn dal i ddioddef ambell i drawiad nerthol gan lorïau mawr o dro i dro, ond mae'n parhau ac yn cael ei hatgyweirio pob tro.

Gellir dweud un peth yn ddiogel am Yr Hen Neuadd Farchnad yn Llanidloes sydd wedi gweld cymaint o newidiadau dros y 400 mlynedd diwethaf; mae yma o hyd, a gobeithio y bydd yn parhau am 400 mlynedd arall.

Hefyd o ddiddordeb: