'Pawb yn yr un cwch': Cyngor i fyfyrwyr newydd

Mae Elliw (ail o'r dde) yn edrych 'mlaen at ei hail flwyddyn yn Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Bydd miloedd o fyfyrwyr yn gadael eu cartrefi am golegau a phrifysgolion y penwythnos hwn.
Ond i nifer ohonyn nhw, dyma fydd y tro cyntaf iddyn nhw symud oddi cartref - profiad sy'n gallu ymddangos yn frawychus iddyn nhw a'u rhieni.
Dyma gyngor gan ambell fyfyriwr presennol ar sut i fwynhau'r wythnosau cyntaf, a gwneud y mwyaf o fod yn fyfyriwr.
'Rhoi wyneb dewr ymlaen'
Mae Elliw Mair o Ynys Môn newydd ddychwelyd i Aberystwyth yn barod i gychwyn ei hail flwyddyn yn astudio'r Gyfraith a'r Gymraeg.
Er ei bod wedi ysu at ddychwelyd i Aberystwyth yr haf hwn, dywedodd nad oedd hynny yr un mor wir yr amser yma llynedd, cyn iddi gychwyn yn y brifysgol.
Dywedodd: "Roedd o'n brofiad scary.
"Ro'n i rhwng dau feddwl o dropio allan cyn cychwyn, ro'n i mor ofnus.
"Ond drwy power through, dyna un o'r penderfyniadau gorau dwi 'di neud."
- Cyhoeddwyd12 Awst
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2024
Esboniodd ei bod yn 'nabod ambell un o'r criw cyn symud i Aberystwyth, ac roedd hynny wedi ysgafnhau'r baich ychydig, ond dywedodd fod digon o gyfle i greu ffrindiau newydd.
Mae bellach yn byw gydag wyth o ferched eraill ac yn annog glas fyfyrwyr i "roi wyneb dewr ymlaen, i wthio'ch hun allan o'ch comfort zone, achos dwi'n gaddo 'newch chi ddim difaru".

Mae Cynwal ap Myrddin yn annog myfyrwyr i gofio bod "pawb yn yr un cwch"
Gyda phobl ifanc yn teithio ar draws y wlad a thu hwnt, un fydd yn cadw trefn ar weithgarwch myfyrwyr Caerdydd yw Cynwal ap Myrddin, is-lywydd y Gymraeg yn Undeb y Myfyrwyr.
Dywedodd: "Ma' gennym ni lwyth o ddigwyddiadau ar draws Pythefnos y Glas, o bethau fel Ffeiriau'r Glas, digwyddiadau 'rhowch gynnig arni'.
"Y peth pwysicaf ydi cofio bod pawb yn yr un cwch â chi.
"Dyma'r tro cyntaf i'r mwyafrif ohonoch chi i symud o adref, ac mi fydd byw mewn neuadd, fflat neu dŷ efo pobl ddiarth ar hyn o bryd yn brofiad hollol newydd, sy'n medru bod yn eithaf brawychus.
"Cymerwch amser i ddod i arfer efo'ch system fyw newydd - fydd o ddim yn hawdd ar y dechrau mae'n debyg."
'Dim rhaid gwneud pob dim'
Er ei fod yn annog myfyrwyr i fynd i ddigwyddiadau, mae'n bwysig cymryd hoe weithiau, meddai Cynwal.
"Cofiwch bod dim rhaid gwneud pob dim.
"Ffoniwch adre, ewch am dro efo'ch ffrindiau newydd, pethau bach fel 'na i ddechrau dod yn gyfarwydd â system newydd o fyw."
Ag yntau wedi "gorffen y dair mlynedd ora' erioed", ei neges yw i fyfyrwyr "wneud y mwyaf o bob dim a jysd joio fo, achos mae o bendant yn mynd i fod yn brofiad fydd yn newid eich bywyd chi!"

Mae cwrs Grug wedi ei leoli ar gampws Abertawe, ac mae wedi treulio oriau lawer yng nghwmni Gym Gym Abertawe
Un arall sy'n dychwelyd i'w hail flwyddyn yw Grug Owen o Lanrwst, sy'n astudio Dylunio Graffeg ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Wrth edrych 'nôl i'r un cyfnod y llynedd, dywedodd: "Ro'n i'n andros o nerfus.
"O'n i ddim gymaint o social butterfly ag ydw i wan. Ma' prifysgol yn sicr wedi helpu fi i ddod allan o' nghragen.
"Dwi'n sicr yn berson mor wahanol i'r person ro'n i amser yma blwyddyn diwethaf.
"Yn yr wythnos gyntaf ro'n i'n andros o nervous, nes i prin gymryd rhan yn freshers week," meddai, ond dywedodd ei bod wedi cael cyfle yn ystod y flwyddyn i wneud ffrindiau.
"Dydi o ddim mor scary wedyn achos bod pobl er'ill yn yr un sefyllfa â ti."

Dywedodd Deio Owen fod cymorth ar gael i unrhyw fyfyrwyr sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi
Dywedodd Deio Owen, llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru fod gan undebau myfyrwyr lwyth o weithgareddau at ddant pawb.
"Un o'r profiadau gorau gewch chi wrth astudio mewn prifysgol yw cymryd rhan yn eich undeb myfyrwyr, boed mewn cymdeithas neu fel cynrychiolydd, mae yna gymaint o gyfleoedd ar gael tu allan i'ch darlithoedd," meddai.
Mae hefyd yn nodi bod cymorth priodol ar gael os yw myfyrwyr yn ei gweld hi'n anodd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.