Cefnogaeth ariannol i fyfyrwyr 'ddim yn mynd digon pell'

Fflur James a Gwenno Davies gyda chyd-fyfyrwyrFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Fflur James (trydydd o'r chwith) a Gwenno Davies (pumed o'r chwith) yn ceisio gwneud y mwyaf o'u cyfnod yn y brifysgol, er gwaethaf pwysau ariannol cynyddol

  • Cyhoeddwyd

Mae ymchwil newydd gan Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru yn awgrymu bod 32% o fyfyrwyr yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd talu rhent.

Yn ôl yr undeb, dydy'r gefnogaeth ariannol i fyfyrwyr yng Nghymru ddim yn ddigonol ac mae sawl un yn gorfod addasu er mwyn ymdopi.

Mae 58% o fyfyrwyr Cymru yn mynd heb brydau bwyd, gydag un o bob 10 o'r rheini yn dibynnu ar fanciau bwyd, yn ôl yr ymchwil.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod y pwysau ychwanegol yn sgil costau byw a'u bod wedi cynyddu eu cymorth.

I nifer o fyfyrwyr mae gwneud ffrindiau a chymdeithasu yn rhan bwysig o fywyd prifysgol - ond gyda chostau cynyddol, mae'n rhaid iddyn nhw ddewis yn ofalus sut i wario'u harian.

Mae Fflur James a Gwenno Davies yn astudio yn eu hail flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn teimlo bod y sefyllfa wedi gwaethygu ers y llynedd.

"Mae 'leni yn waeth na'r arfer felly dwi ddim yn synnu fod cymaint o fyfyrwyr yn gorfod dal nôl o wneud pethau arferol," meddai Fflur.

"Fe gafon ni neges gan gwmnïau biliau nwy a thrydan fis diwetha' yn dweud bod biliau yn mynd lan, a hefyd gan y landlord yn dweud y bydd rhent blwyddyn nesa' yn mynd lan eto.

"Wrth gwrs mae'n rhaid talu biliau felly mae pobl yn blaenoriaethu hynny, ond yn colli mas wedyn ar bethau eitha' arferol fel myfyrwyr."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Fflur James yn teimlo bod y sefyllfa ariannol wedi gwaethygu eleni i fyfyrwyr

Ar ôl holi dros 700 o fyfyrwyr ar draws Cymru mae ymchwil newydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru yn dangos bod un o bob tri yn ei chael hi'n anodd talu rhent.

Mae'r mwyafrif o'r rheiny yn cael trafferth talu biliau hefyd, gyda 90% yn troi at eu rhieni neu gardiau credyd am gymorth.

Wrth i gostau rhent gynyddu felly, mae nifer yn gorfod gwneud dewisiadau wrth wario ar bethau sylfaenol.

Mae 58% o fyfyrwyr Cymru yn mynd heb brydau bwyd, gydag un o bob 10 o'r rheiny yn dibynnu ar fanciau bwyd, yn ôl yr ymchwil.

Dydy'r ffigyrau hyn ddim yn syndod i Gwenno a Fflur, a gyda ffioedd prifysgolion yn codi flwyddyn nesaf a dim arwydd o gostau'n gostwng, does dim dewis ond addasu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwenno Davies yn falch ei bod â swydd rhan amser i helpu gyda chostau byw

"Mae'n fwy o straen meddwl gorfod meddwl 'ydw i'n defnyddio mwy o ddŵr twym na rhywun arall?' neu 'ydw i'n bod yn hunanol gyda faint o drydan fi'n defnyddio?'" meddai Gwenno.

"Ma' 'da fi swydd rhan amser ar hyn o bryd.

"Os bydde dim swydd 'da fi sai'n credu bydde digon o arian 'da fi i joio a phrynu anrhegion Nadolig a gwneud pethau fi mo'yn 'neud adeg hyn o'r flwyddyn."

Ychwanegodd Fflur: "Mae'n amhosib i fyw bywyd fel myfyriwr llawn heb swydd neu arian wrth gefn oherwydd dydy arian rydyn ni'n derbyn ddim yn cyd-fynd gyda'r holl gostau sydd gan fyfyrwyr.

"Bendant o ran pethau cymdeithasol mae'n rhaid bod yn fwy synhwyrol, meddwl 'oes rhaid mynd i hwn a'r llall?' Blaenoriaethu ydy'r peth pennaf."

Disgrifiad o’r llun,

Dydy'r cymorth sydd ar gael ddim yn mynd yn ddigon pell, ym marn llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru Deio Owen

Gyda disgwyl i ffioedd prifysgolion godi i £9,535 o'r flwyddyn nesaf ymlaen, bydd hefyd 1.6% o gynnydd i gymorth cynhaliaeth myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr israddedig rhan-amser a llawn amser cymwys o Gymru.

Ond yn ôl llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, Deio Owen, dydy hynny ddim yn mynd ddigon pell.

"Ma' gan nifer o fyfyrwyr lai na £100 yn eu banc erbyn diwedd y mis," meddai.

"Pan ti'n meddwl am drio astudio, byw a chael bywyd cymdeithasol sylfaenol, dydy'r arian ddim yna.

"Mae angen mynd ymhellach yn y sefyllfa ariannol sydd ohoni ar hyn o bryd.

"Dydy'r cynnydd o 1.6% mewn arian cynhaliaeth ddim yn mynd yn bell iawn pan 'dach chi'n sbïo ar y mynydd o gostau sy'n wynebu myfyrwyr.

"Fyswn i'n hoffi gweld y cynnydd yn mynd yn agosach at y cyflog byw cenedlaethol a dwi'n meddwl bod hynny yn darged teg i gynyddu'r arian cynhaliaeth mewn gradd hefo hynny."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Cymru yn arwain y ffordd o ran ein system cyllid myfyrwyr unigryw a blaengar, a'r lefelau uchaf o gymorth grant nad oes angen ei ad-dalu ar gyfer y rhai sydd ei angen fwyaf.

"Rydyn ni'n cydnabod y pwysau ychwanegol yn sgil costau byw, ac wedi cynyddu ein cymorth cynhaliaeth ar gyfer myfyrwyr israddedig bob blwyddyn ers 2018.

"Mae gan bob prifysgol yng Nghymru gronfeydd caledi, ac maent yn cynnig cymorth ychwanegol ar gyfer costau byw, gan gynnwys grantiau argyfwng, bwyd am ddim neu rad, nwyddau mislif am ddim, a mynediad am ddim at gyfleusterau chwaraeon a gweithgareddau."