Ceisiadau prifysgol yn gostwng eto - ydy agweddau'n newid?

Tri bachgen a tair merch mewn gwisg ysgol gyda chrysau gwyn a teis gwyrdd yn eistedd ar y ddesg ac ar gadair mewn ystafell ddosbarth
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgyblion Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn ystyried y camau nesaf, gan gynnwys prifysgol

  • Cyhoeddwyd

Wrth i ddisgyblion baratoi i dderbyn canlyniadau arholiad dros yr wythnosau nesaf, fe fydd llawer â'u bryd ar barhau gyda'u hastudiaethau mewn prifysgol.

Er bod canran y bobl 18 oed o Gymru sydd wedi gwneud cais am brifysgol wedi gostwng eto eleni, mae'n parhau yn ddewis poblogaidd i chweched ddosbarth Ysgol Gymraeg Gwynllyw ger Pont-y-pŵl.

Serch hynny, mae'r disgyblion blwyddyn 12, fydd yn gadael yr ysgol haf nesaf, yn ystyried posibiliadau eraill hefyd.

"Dwi ddim mor sicr achos mae'n gostus iawn ac mae llawer o bobl nawr methu cael swyddi ar ôl prifysgol", meddai Amy, sy'n 17 ac o'r Fenni.

Yn ôl eu hathrawes Rhian James, mae'r toriadau mae rhai prifysgolion wedi gwneud yn sgil heriau ariannol "wedi rhoi ofn i ambell un".

Mae'r ysgol yn etholaeth seneddol Torfaen, ble aeth llai o bobl ifanc i brifysgol llynedd nag yn unrhyw rhan arall o Gymru, yn ôl ffigyrau gan y corff sy'n prosesu ceisiadau, UCAS.

Fe wnaeth 16.9% o bobl 18 oed yr ardal fynd i'r brifysgol yn 2024, o'i gymharu gyda 47.9% yng Ngogledd Caerdydd. Ar draws Llundain, y ffigwr yw 51.5%.

Mae gan Ieuan, sy'n 17 ac o Gwmbrân, ddiddordeb yn y gyfraith ond mae'n ystyried hyfforddi drwy brentisiaeth, er yn gweld manteision prifysgol hefyd.

"Bywyd ym mhrifysgol, symud mas o'r tŷ a dwi'n meddwl cymdeithasu gyda pobl newydd yn beth mawr", meddai.

"Ond yn ogystal mae'n rhaid cofio bod costau yn dod gyda hynna so dyna pam mae prentisiaethau yn apelio mwy i fi."

Ydy prifysgolion yn 'llai ffasiynol'?

Mae Aneira yn barod yn gwybod ei bod am astudio seicoleg a throseddeg yn y brifysgol.

"Dwi wastad wedi eisiau a mae fy chwaer a brawd hynaf wedi mynd hefyd a roedden nhw'n really hoffi fe.

"Hoffaf hefyd symud mas i gael annibynniaeth i fy hun oherwydd mae gen i deulu mawr ac mae'n gallu bod yn hectic yn teulu fi!"

Menyw gyda gwallt brown a sbectol yn gwsigo ffrog ddu gyda smotiau gwyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae pennaeth y chweched, Rhian James, wedi sylwi bod mwy o'r dysgwyr am fyw adref tra'n astudio

Roedd ffigyrau UCAS eleni yn dangos bod 32.5% o bobl 18 oed wedi gwneud cais i brifysgol erbyn diwedd mis Mehefin - sy'n is nag ar yr un pryd llynedd.

Y gyfradd ar gyfer Prydain gyfan yw 41.2%.

Mae'r data yn adlewyrchu "darlun cymysg" meddai Medr, y corff sy'n goruchwylio addysg a hyfforddiant ôl-16, gan gyfeirio at gynnydd yn nifer y ceisiadau o ardaloedd difreintiedig.

Dywedodd llefarydd bod "data pellach sydd angen ei ystyried cyn cyrraedd darlun mwy cyflawn o'r flwyddyn academaidd nesaf a deall y ffactorau sy'n effeithio ar ddewisiadau myfyrwyr a'i effaith posib".

Yn y gorffennol mae Prifysgolion Cymru wedi galw am "weithredu brys" i hybu nifer y bobl ifanc sy'n mynd ymlaen i addysg a hyfforddiant ar ôl 16.

Dywedodd llefarydd bod prifysgol "yn cynnig profiad trawsnewidiol sydd o fudd nid yn unig i unigolion ond hefyd yn cryfhau ein cymunedau a'n heconomi".

"Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i bwysleisio y potensial i newid bywydau y gall mynd i brifysgol ei gynnig."

Yn Ysgol Gwynllyw, maen nhw wedi gweld rhai newidiadau dros y blynyddoedd, ac mae staff yn synhwyro bod mynd i'r brifysgol efallai ychydig yn "llai ffasiynol".

"Mae pobl dal isie mynd i'r brifysgol, mae nhw dal isie gweld bo nhw'n cael gradd er mwyn y cam nesa' i gael swydd", meddai pennaeth y chweched, Rhian James.

"Fi'n credu hefyd mae prentisiaethau wedi mynd yn boblogaidd iawn a mae 'da ni nifer o bobl yn meddwl 'ble ni'n mynd nesa' – ydyn ni'n mynd i'r brifysgol neu ydyn ni'n mynd i fynd i'r byd gwaith neu prentisiaethau?'."

'Mwy yn aros adref'

"Beth fi wedi sylwi yw mae nifer o'n dysgwyr ni eisiau aros adre", meddai.

"Mae rhai ohonyn nhw falle yn mynd i'r prifysgolion lleol er mwyn falle bod nhw'n safio arian. Maen nhw'n gweld e'n rhywbeth drud."

Ond mae'n bwysig bod myfyrwyr yn cael cyfle i ehangu eu gorwelion, meddai Ms James.

"Y'n ni'n trio rhoi cymaint o flas i 'n dysgwyr ni o beth sydd ar gael iddyn nhw – mae nhw'n mynychu ffeiri gyda UCAS, maen nhw'n mynychu diwrnodau agored yn y brifysgol - cyfle iddyn nhw fynd i weld llefydd achos mae rhai ddim yn gadael eu milltir sgwar."

Abby Cripps
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r brifysgol yn gallu teimlo fel rhywbeth sydd allan o afael disgyblion, meddai Abby Cripps

Mae aelod arall o staff Gwynllyw, Abby Cripps yn gweld heriau mewn ardaloedd fel cymoedd Gwent.

"Dwi'n meddwl mae fe'n teimlo'n rhywbeth pell iawn iddyn nhw mewn ardal fan hyn.

"Falle bo nhw'n gweld bod mwy o bobl yn gweithio yn lle mynychu'r brifysgol", ychwanegodd.

"Cynnig cymaint o brofiad iddyn nhw pan y'n nhw yma yw'r peth sydd angen arnyn nhw, i weld dyw e ddim yn rhy bell, fi'n gallu gwneud hwn a mae lot o bobl arall ifanc yng Nghymru yn gwneud hwn hefyd."

Efeilliad yn sefyll ar bwys ei gilydd gyda gwallt coch a sbectol - y ddau mewn crys gwyn a thei gwyrdd ond yr un ar y dde yn gwisgo siwmper ddu
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r efeilliaid 17 oed, Efan a Dewi, yn gweld prifysgol fel "siawns i fynd i lefydd gwahanol ac i gwrdd â phobl newydd"

Dywedodd Dewi, sy'n ddisgybl 17 oed, bod "prifysgol arfer dod law yn llaw gyda swydd ar y diwedd ond s'mo hynna bellach yn guarantee".

"Fi'n clywed mwy a mwy o bobl yn mynd i'r brifysgol a ddim yn derbyn swydd a wedyn pobl yn dewis i fynd ffordd gwahanol a ddim efallai mynd i'r chweched neu'r prifysgol", meddai.

"Fi'n gweld bod toriadau cyllid yn cau adrannau ac mae bron a bod yn perswadio pobl i fynd ffyrdd arall.

"Ond eto mae prifysgol dal yn beth i wneud – er bod toriadau, mae pobl dal i fynd i brifysgol."

Er gwaetha'r pryderon mae prifysgol hefyd yn apelio i'w efaill, Efan, ond "naill ai cyn neu ar ôl prifysgol, fi'n sicr yn mynd i gymryd blwyddyn allan i sgïo fi'n meddwl".

Ac ateb Dewi, gyda gwen, i gwestiwn am y ddau yn astudio yn yr un lle?

"Gobeithio ddim!"

Pynciau cysylltiedig