Oshi G: Y ffermwr ifanc sy'n seren dawnsio ar TikTok

Osian - Oshi G
  • Cyhoeddwyd

Does 'na ddim llawer o ffermwyr yng Nghymru sy'n cael eu hadnabod ar y stryd ac yn gwerthu nwyddau gyda'u henw arnyn nhw...

Ond dyna sefyllfa un hogyn 16 oed o'r gogledd wnaeth ddechrau creu fideos ohono'i hun yn dawnsio ar y fferm deuluol er mwyn diddanu ei hun, ond sydd bellach wedi eu gwylio filiynau o weithiau.

Osian ydi ei enw, ond bydd llawer mwy yn ei adnabod fel Oshi G.

Tan iddo gwblhau ei arholiadau TGAU fis Mehefin eleni, roedd yn ddisgybl yn Ysgol Brynrefail, Llanrug, ond yn aml yn mynd i helpu ar y fferm deuluol yn ardal Dyffryn Nantlle.

Un diwrnod ddwy flynedd yn ôl fe benderfynodd wneud fideo ohono'i hun wrth ei waith a'i roi ar gyfrif TikTok.

"Neshi ffilmio fy hun yn rhoi bwyd i'r ieir achos o'n i'n bored, a jest deud 'Hi and welcome to Ffarmio with Osian' - literally yn rhoi bwyd i'r ieir," meddai wrth Cymru Fyw.

"Ella oedd pobl yn licio fi achos o'n i'n mwydro. Dwi ddim yn self-conscious a 'rioed di bod yn shei."

Oshi G yn danwsio mewn fideos TikTokFfynhonnell y llun, TikTok
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Oshi G fwy na 100 o fideos ar TikTok, y rhan fwyaf ohono'n dawnsio i ganeuon poblogaidd

Fe gafodd dipyn o ymateb ac o fewn misoedd roedd ychydig o gannoedd yn ei ddilyn ar TikTok. Yna fe ddechreuodd wneud fideos ohono'i hun dawnsio ar y fferm: yn yr iard, yn y caeau ac yn defnyddio trelar fel llwyfan. Fe aeth y fideos rheiny yn 'feiral'.

Mae dau fideo ohono'n dawnsio wedi cael eu gwylio dros ddwy filiwn o weithiau yr un, a tua 200,000 o bobl wedi eu hoffi.

Adeg y Sioe Fawr llynedd roedd 5,000 o bobl yn ei ddilyn ar TikTok. Erbyn Y Sioe eleni mae ganddo 43,000 o ddilynwyr, ac mae Osian yn dal i bendroni pam bod y fideos mor boblogaidd:

"Os ti'n edrych ar rywun sydd ddim yn involved mewn ffarmio a gofyn be' ti'n feddwl am ffarmwrs ma' siwr bod nhw'n meddwl bod ffarmwrs yn hen ddynion boring sy' mond yn ffarmio ond ella bod nhw'n gweld hwn a meddwl ella bod nhw efo personoliaeth.

"Dwi ddim yn ymarfer dawnsio - jest improvisio.

"Dwi ddim yn cadw i schedule. Nai ffilmio lot mewn cwpwl o ddyddiau a releasio nhw pan dwi isho. Allai fynd am fis heb neud un fideo - dwi ddim isho fo deimlo fel job, dwisho enjoio fo."

Oshi G
Disgrifiad o’r llun,

Oshi G ar y fferm

Ond er ei fod yn dawnsio i ganeuon Saesneg sy'n boblogaidd ar TikTok, nid dyna'r math o gerddoriaeth mae o'n ei fwynhau.

Artistiaid fel Bwncath a Bryn Fôn ydi ei ffefrynnau, ond tydi'r fideos mae o wedi eu gwneud ohono'n dawnsio i gerddoriaeth Cymraeg heb wneud hanner cystal meddai.

Oshi G
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r nwyddau mae Osian wedi ei greu

Mae'r sylw ar TikTok wedi arwain at ambell i gynnig i wneud eitemau i'r cyfryngau Cymraeg, gan gynnwys yn ystod y Sioe Aeaf yn Llanelwedd llynedd a'r Sioe Frenhinol eleni.

Mae o hefyd wedi dechrau gwerthu nwyddau - neu merch Oshi G - ac mae o'n cael ei adnabod yn y stryd.

"Dau fis yn ôl neshi fynd am haircut. O'n i'n ista yna efo plant bach yn sterio arna fi ac wedyn roedda nhw i gyd yn gweiddi 'Oshi G'," meddai.

"Pan neshi ddechrau 'neud y fideos do'n i ddim yn disgwyl iddo fo fynd fel yma."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.