'Lladron wyau yn dwyn fy mhres poced'

Mae Celt yn siomedig eu bod wedi rhoi'r gorau i'w stondin wyau oherwydd lladron
- Cyhoeddwyd
Mae Celt, 10 oed, o Nebo ger Dyffryn Conwy wedi gorfod stopio gwerthu wyau ger ei gartref oherwydd lladron.
Un o bleserau bychain byw yng nghefn gwlad ydy gallu mynd am dro a phrynu wyau ffres drwy roi arian mewn bocs gonestrwydd.
Ond mae Celt a'i fam, Dwynwen Williams, wedi cael llond bol ar weld y bocs gonestrwydd yn wag o arian a'r wyau wedi mynd.
Mae Colin Jones o Landderfel a Huw Mackinnon o Lanrug hefyd wedi cael digon.
Yn ôl y gwerthwyr wyau yma yng ngogledd Cymru, mae peryg y bydd bocsys gonestrwydd ger ffermydd yn diflannu os nad yw ymddygiad yn newid.
'Jâr wag yn siomi'r plant' yn Nyffryn Conwy
Fe ddechreuodd Dwynwen a Paul, rhieni Celt, werthu wyau ger buarth eu fferm pan ganwyd eu mab hynaf, Brenig.
Ac atgofion melys o allu prynu wyau heb orfod mynd i'r siop tra'n tyfu i fyny yn Ysbyty Ifan a chredu y byddai'n "rhywbeth braf i'w wneud gyda'r plant" oedd ysgogiad Dwynwen.
Meddai: "Roedd yna wastad pobl yn gwerthu wyau dop ffordd pan o'n i'n tyfu i fyny.
"'Dan ni'n bwyta dipyn o wyau ein hunain felly dyna pam fod gen i ieir ond mae yna wastad wyau dros ben felly mi ddechreuon ninnau eu rhoi nhw dop ffordd."

Dros y blynyddoedd mae ei thri o blant, Brenig, Briallen a Celt wedi cael pleser o werthu wyau i gymdogion a phobl sy'n mynd am dro.
Ac i'w phlant, roedd y stondin wyau'n ffordd o gynilo pres poced a dysgu sut i redeg busnes bach:
"Mae Brenig yn 15 'wan felly dydi o heb 'neud efo nhw ers tro ond i Celt sy'n 10 roedd y cyffro o fynd i weld faint o focsys wyau oedd wedi mynd a chyfri'r pres dal yno. Roedd yna siom fawr pan oedd y jâr yn wag a'r wyau wedi diflannu."

Y stondin wyau a arferai fod ger buarth Cae-Haidd
Yn ddiweddar roedd wyau'n mynd heb daliad yn digwydd yn amlach ac fe gafodd Dwynwen wared â'r stondin:
"Dwi'n cyfri fy hun reit lwcus o gymharu efo faint dwi'n glywed gan bobl eraill yn yr ardal. Dwi'n clywed fod o'n digwydd o hyd, boed o i bobl sy'n gwerthu wyau neu jamiau neu datws.
"Mae o wedi digwydd i ni yn fwy diweddar. Yn y dechre dwi'm yn meddwl bo' ni'n cael trafferth o gwbl.
"Rai wythnosau yn ôl o'n i wedi mynd â dau ddwsin i dop ffordd a wedyn erbyn diwadd p'nawn o'n i'n gweld bod yna ddwsin wedi mynd ac aethon ni i edrych a doedd yna ddim pres.
"Ydy rhywun wedi mynd â'r wyau heb dalu neu bod yna berson onest wedi prynu'r wyau a bod yna rywun wedi stopio a mynd â'r pres? Sgenai ddim ffordd o brofi."
Mae ei phenderfyniad i gael gwared â'r stondin wedi tristáu ei phlant:
"Mae'r plant jest yn siomedig, pres nhw ydi hwnne i wario fel maen nhw isio pan 'dan ni ar wylie neu i gael hufen iâ.
"Mae'n siomedig bo' rhywun yn gallu 'neud hynna."
Cychwyn bocs gonestrwydd Llandderfel yn ystod Covid
Mae Colin Jones yn byw yn Llandderfel ac mae'n cadw 10,000 o ieir er mwyn cynhyrchu wyau i'w fusnes Wyau Cae Pant.
Er ei fod yn gwerthu ei wyau i siopau a busnesau ar draws gogledd Cymru, dechreuodd werthu wyau yn lleol yn Llandderfel gyda bocs gonestrwydd yn ystod y pandemig.
Eglurodd: "Pan ddaru Covid gyrraedd bum mlynedd yn ôl ddaru pobl ddechrau dŵad acw isio wyau a wnes i feddwl dwi ddim isio hyn i gychwyn felly be' ddaru ni oedd creu bocs bach a'i roi o yn y pentra o flaen tŷ rhieni'r wraig.
"Wrth siarad efo pobl fe ddes i ddalld eu bod nhw'n hoff o yrru eu plant i lawr i 'nôl wyau. Maen nhw'n rhoi y pres i'w plant a maen nhw mynd lawr i 'nôl hanner dwsin neu ddwsin ac mae nhw wrth eu boddau yn 'neud hynna.
"Yn ystod Covid hefyd oedd o'n handi i bobl rhag gorfod mynd i'r Bala a mi roedd pobl hŷn y pentre'n teimlo'n saffach."

Colin Jones gyda'i stondin wyau
Ond mae Colin hefyd yn colli ffydd mewn pobl wrth sylwi ar y nifer sy'n dwyn:
"Yn ddiweddar mi sylwon ni fod y pres yn y bocs gonestrwydd i lawr ychydig felly 'dan ni wedi bod yn cyfri faint o focsys 'dan ni 'di roi mewn a faint o focsys sydd wedi bod yn mynd allan a 'dan i'n gweld ryw ddau ddwsin bob penwythnos ddim yn cael eu talu amdanyn nhw.
"'Chydig wythnosau yn ôl mi aeth yna dri dwsin a hanner heb bres yn y bocs."
Mae Colin yn pryderu y bydd yn rhaid iddo roi'r gorau i'r bocs gonestrwydd os yw hyn yn parhau.
Meddai: "Mae o'n bechod rili, nifer fach o bobl sy'n andwyo pethe i bawb arall. Dwi ddim eisiau gorfod difetha pethe i'r plant sy'n mwynhau dod yma i 'nôl wyau. Mae o'n rhywbeth cymunedol.
"Yr unig ffordd arall os 'neith hyn gario ymlaen ydi gosod camera. Dwi isio gallu parhau efo'r bocs i'r bobl leol. Ti'n trio dy ore felly mae o'n reit drist bod hyn yn digwydd... dros y flwyddyn mae o'n dod i bres reit fawr."
'Peiriant gwerthu oedd yr unig ateb' yn Llanrug
Cafodd Huw Mackinnon o fferm Plat Tirion, Llanrug wared ar ei focs gonestrwydd a buddsoddi mewn peiriant gwerthu wyau ar ôl 'laru ar ladron.
Meddai: "Roedd yn rhaid i ni gael y vending machine yn diwadd neu stopio.
"Pan 'nathon ni ddechra ffwrdd efo'r honesty box adeg Covid dim ond pobl leol oedd yn ei ddefnyddio fo. Iawn, mi oeddan ni'n colli rhyw buntan yma ac acw ond fel aeth o fwy poblogaidd oedd pobl yn torri mewn iddo fo yn dwyn y pres i gyd a dwyn yr wyau i gyd."
Yn ôl Huw sy'n cadw ieir ers 2018, roedd y bocs gonestrwydd "yn ffordd braf o adael i bobl wybod be' oeddan nhw'n 'neud ac yn esgus da i bobl fynd am dro a cherdded i brynu wyau".

Peiriant gwerthu wyau Plas Tirion
Bellach mae'r peiriant gwerthu wedi bod ger llidiard fferm Plas Tirion ers dwy flynedd ac yn ôl Huw "mae'n gweithio'n well, heb os".
Ychwanegodd: "Mae o'n warthus fod y bocsys gonsetrwydd yma'n diflannu. Oedd o'n rywbeth mor syml ac yn gweithio i bawb ond mae o'n biti fod ambell un yn sbwylio fo i'r niferoedd."
Yn ôl ym mis Ebrill 2024 fe ddywedodd Heddlu Dyfed-Powys ar eu tudalen Facebook eu bod wedi dod ar draws nifer o achosion lladrata o focsys gonestrwydd yng Ngheredigion.
Roeddent yn rhybuddio pobl sy'n gwerthu wyau tu allan i'w cartref i fod yn wyliadwrus ac i adrodd unrhyw ymddygiad amheus wrth yr heddlu.
Fe ofynnodd Cymru Fyw i Heddlu Gogledd Cymru am ymateb i'r honiadau o ddwyn wyau yng ngogledd Cymru.
Doedd Heddlu'r Gogledd ddim am ymateb gan nad oedd ganddynt ddata ar gyfer y math yma o ddwyn. Ychwanegodd yr heddlu y byddai achosion o'r math yma, fel arfer, yn cael eu delio â nhw gan dimau plismona cymdogaeth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl