Buddsoddiad 'yn hanfodol' i Gymry ifanc cefn gwlad
- Cyhoeddwyd
Mae buddsoddiad yn y sector amaeth yn “hanfodol i ddyfodol y Gymraeg” wrth gymdeithasu, yn ôl rhai o ffermwyr ifanc Cymru.
Mewn cyfweliad â BBC Cymru yn ddiweddar, wrth i’w gyfnod fel Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru ddod i ben, fe gododd Glyn Roberts amheuon am ddyfodol cymunedau cefn gwlad.
Os na fydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi’n ehangach, rhybuddiodd y bydd cefn gwlad, iaith a diwylliant yn “dioddef”.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi creu Comisiwn Cymunedau Cymraeg gyda’r bwriad o wneud argymhellion penodol i gryfhau cymunedau Cymraeg.
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2023
A hithau’n wythnos y Sioe Fawr, beth yw ymateb rhai o bobl ifanc yr ardaloedd gwledig i’r hyn oedd gan Glyn Roberts i’w ddweud?
Mae criw o aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Capel Iwan yn cwrdd yn y neuadd bentref yn wythnosol.
Dywedodd Gwennan Evans o glwb Capel Iwan wrth Newyddion S4C ei bod yn "teimlo’n freintiedig iawn" fod ganddi gyfle i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ond, ychwanegodd: "Fi’n credu bod cefnogaeth i’r sector amaethyddol yn hanfodol iawn i ddyfodol y Gymraeg… heb unrhyw fath o fuddsoddiad ynddo fe, dyw e ddim am barhau."
Manon Thomas yw cadeirydd y clwb yng Nghapel Iwan.
"[Mae] angen mwy o gefnogaeth i amaethyddiaeth oherwydd mewn ardaloedd gwledig, hwn yw’r unig ffordd o gymdeithasu i bobl ifanc, a heb rhyw sylfaen gydag asgwrn cefn wedi ei ariannu yn ddigonol bydd dim dyfodol i gael," meddai.
- Cyhoeddwyd30 Mai 2023
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2022
Mae’r her o gadw Cymry Cymraeg yng nghefn gwlad Cymru yn un gynyddol.
Fe ddangosodd canfyddiadau'r cyfrifiad diweddar y bu gostyngiad o 4% yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn ardal Sir Gaerfyrddin dros y degawd diwethaf, sef y cwymp mwyaf o holl siroedd Cymru.
'Denu pobl 'nôl'
Ond mae rhai o aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Capel Iwan yn dweud bod y mudiad yn rheswm da i bobl ddychwelyd i’w hardal.
‘‘Ma fe’n rhywbeth unigryw iawn 'sda ni fel mudiad Ffermwyr Ifanc bod pobl o 11-28 oed yn gallu dod i gymdeithasu, ni’n denu pobl nôl sydd wedi bod yn y prifddinasoedd ‘ma yn y brifysgol," dywedodd Sara Jones.
"Ma' nhw’n dod nôl i gefn gwlad, nôl i’r Clwb Ffermwyr Ifanc, nôl i’r neuadd yng Nghapel Iwan ar nos Lun."
Un elfen sy’n cynnig llygedyn o obaith yw bod cynnydd yn y cyfleoedd i astudio amaethyddiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn ein colegau erbyn hyn, yn ôl Iwan Thomas, Darlithydd yng Ngholeg Sir Gâr.
"Ma' tua 60% o fyfyrwyr yn medru siarad a chyfathrebu yn hollol naturiol drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Ma' strwythur y cyrsiau yn caniatáu i fyfyrwyr i weithio, ma' nifer helaeth ohonyn nhw yn gweithio o fewn y diwydiant.
"Felly mae’n galluogi pobl ifanc i sefyll yn eu cymunedau lleol, i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg a hefyd i gyfrannu yn bositif i’w cymunedau lleol."
Ac mae’r cyn-fyfyriwr Aled Jones yn ategu’r sylwadau hynny ac yntau’n un o’r myfyrwyr sydd newydd raddio mewn amaethyddiaeth o Goleg Sir Gâr, a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.
Dywedodd: "Ma’ llai o Gymraeg am biti’r lle nawr so o ni’n meddwl os allwn ni wneud y cwrs yn Gymraeg wedyn falle allen ni gynnig opsiwn Cymraeg i gadw fe fynd."
'Trafod gyda ffermwyr ifanc yn y Sioe'
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi creu Comisiwn Cymunedau Cymraeg gyda’r bwriad o wneud argymhellion penodol i gryfhau cymunedau Cymraeg.
Ychwanegodd y llefarydd y bydd trafodaethau rhwng Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, Cadeirydd y Comisiwn ac aelodau mudiad y Ffermwyr Ifanc yn parhau ar faes y sioe yr wythnos hon.