Dyn a gynlluniodd y prawf anadl wedi ei ddal yn yfed a gyrru
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a gyfrannodd tuag at y gwaith o gynllunio'r prawf anadl i yrwyr yn y 1970au wedi ei ddal yn yfed a gyrru ei hun.
Plediodd Richard Lacey, 70, yn euog i un cyhuddiad o yrru dan ddylanwad alcohol yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A479 ger Talgarth, Powys ar 23 Tachwedd.
Clywodd y llys fod Lacey wedi bod yn yfed cwrw a gwin gyda'i ginio cyn y digwyddiad.
Cafodd ei wahardd rhag gyrru am 13 mis, dirwy o £600 a gorchymyn i dalu £325 mewn costau ychwanegol.
- Cyhoeddwyd12 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Clywodd Llys Ynadon Llandrindod fod Lacey wedi gyrru ei gar ar ben cylchfan gan achosi difrod i olwyn y cerbyd.
Dywedodd yr erlyniad yn ystod yr achos fod Lacey, o sir Henffordd, yn "sigledig" ar ei draed pan gyrhaeddodd swyddogion safle'r gwrthdrawiad.
"Dywedodd y diffynnydd ei fod o wedi yfed cwpl o beintiau a photel o win. Fe fethodd y prawf anadl a chafodd ei arestio," meddai Shane Maddocks ar ran yr erlyniad.
Roedd 41 microgram o alcohol yn anadl Lacey - mwy na'r terfyn cyfreithiol o 35 microgram.
Wrth gynrychioli ei hun yn ystod yr achos, dywedodd Lacey: "Does gen i ddim i'w ddweud. Nes i gamfarnu faint yr oeddwn i wedi ei yfed.
"Ges i gwpl o wydrau o win gyda fy nghinio ac ambell i beint o gwrw. Dwi 'di ymddeol, ond ro'n i'n cynllunio profion anadl ac yn arfer gweithio gyda'r heddlu," meddai.