'Un o bob 20 gyrrwr dros derfyn alcohol neu gyffuriau'
- Cyhoeddwyd
Mae troseddau gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau ar ffyrdd de Cymru yn ystod cyfnod y Nadolig yn "bryderus iawn", yn ôl pennaeth heddlu.
Roedd tua un o bob 20 o yrwyr a gafodd brawf ar ochr y ffordd gan Heddlu De Cymru hyd yma fis Rhagfyr dros y terfyn.
Profodd 50 dros y terfyn yfed a gyrru, ac roedd 54 yn gyrru dan ddylanwad cyffuriau, gyda'r llu ond hanner ffordd trwy eu hymgyrch.
Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu'r De, Jeremy Vaughan, fod y llu yn "benderfynol o roi stop" ar y mater.
Dywedodd fod ganddyn nhw "ymgyrch i dargedu'r rhai sy'n meddwl eu bod nhw â'r hawl i yfed a gyrru".
"Rydyn ni wedi gwneud 2,000 o brofion anadl ar ochr y ffordd, ac wedi cael 100 o fethiannau," meddai.
"Dyna un o bob 20 o bobl sy'n meddwl ei bod hi'n iawn yfed a gyrru neu yrru dan ddylanwad cyffuriau."
'Peidiwch â chael eich tempio'
"Mae'n destun pryder mawr. Wrth gwrs, rydyn ni'n benderfynol o roi stop ar hynny," ychwanegodd.
"Mae'n gosb eithaf caled i bobl, fe allen nhw fynd i'r carchar, a cholli eu trwydded yn bendant.
"Fy neges i i'r bobl hynny yw, 'byddwn yn dod o hyd i chi, a byddwn yn dod â chi o flaen eich gwell'.
"Fy neges arall yw 'byddwch yn barod'. Os ydych chi'n mynd allan am ddiod gyda ffrindiau, teulu ac anwyliaid, peidiwch â chael eich temtio."
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd25 Medi 2024
Roedd y Prif Gwnstabl Vaughan yn siarad ddydd Mercher mewn siop dros dro gan Heddlu De Cymru yn Abertawe, sy'n ceisio annog sgwrs gyda'r cyhoedd am droseddau adeg y Nadolig.
Mae trais yn y cartref a lladradau yn cynyddu'r galw ar y llu dros gyfnod yr ŵyl hefyd, meddai.
Yn ddiweddar, clywodd BBC Cymru straeon gan fenywod yng Nghaerdydd ac Abertawe am sbeicio, ac aflonyddu ar nosweithiau allan.
"Y peth pwysicaf i mi ei fynegi yw cymaint o flaenoriaeth yw hyn," ychwanegodd Mr Vaughan.
"Mae pawb sydd allan yna dros y Nadolig wedi'u hyfforddi i wybod beth i edrych amdano, wedi'u hyfforddi i dderbyn adroddiadau. Mae'n flaenoriaeth wirioneddol i ni."
Yn y cyfamser, dywedodd Heddlu Dyfed-Powys y bydd yn peilota cynllun i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, gan ddefnyddio swyddogion mewn dillad anffurfiol i gadw llygad am ymddygiad amheus ar nosweithiau allan cyn y Nadolig.
"Byddwn ni'n chwilio am ddynion sy'n loetran, yn cyffwrdd, neu'n aflonyddu," dywedodd yr Uwch Arolygydd Dominic Jones.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi gweithredu camau tebyg gan ddefnyddio swyddogion mewn dillad plaen yn y blynyddoedd diwethaf.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan ei fod yn annog unrhyw un i gysylltu â'r llu ynghylch unrhyw drosedd yn ystod cyfnod yr ŵyl.