'Y ffyrdd ar eu prysuraf ers 2013' - ond pryd fydd hi waethaf dros Dolig?

traffig trwmFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae arbenigwyr yn rhybuddio y gallai'r cyfnod o gyrraedd gartref erbyn y Nadolig eleni fod y prysuraf ers degawd

  • Cyhoeddwyd

Mae pobl sy'n teithio dros y Nadolig yn cael eu hannog i gynllunio ymlaen llaw yn sgil cau porthladdoedd a tharfu ar y rheilffyrdd.

Mae dadansoddwyr traffig yn rhagweld y bydd y ffyrdd ar eu prysuraf ers 2013.

Maen nhw'n dweud mai dydd Gwener, Sadwrn a Noswyl Nadolig fyd y diwrnodau prysuraf ar y ffyrdd, gyda dydd Sul a dydd Llun ddim ymhell y tu ôl.

Bydd teithwyr fferi rhwng Cymru ac Iwerddon yn cael eu heffeithio gan y ffaith y bydd porthladd Caergybi ar gau tan o leiaf 15 Ionawr ar ôl difrod Storm Darragh.

Bydd prif ffordd rhwng Machynlleth a Dolgellau yn parhau ar gau hefyd tan y flwyddyn newydd, ar ôl tirlithriad.

Bydd dwy orsaf reilffordd brysuraf y DU - Paddington a Liverpool Street yn Llundain - yn cau rhwng y Nadolig a'r flwyddyn newydd hefyd, gan effeithio ar deithwyr i dde Cymru.

Bydd gwaith peirianneg yng ngorsaf Crewe yn effeithio ar deithwyr trên y gogledd hefyd.

Pryd fydd y ffyrdd brysuraf?

Mae cwmni data traffig Inrix yn rhagweld y bydd bron i 30 miliwn o deithiau y Nadolig hwn, gydag amcangyfrif o fwy na thair miliwn o deithiau bob dydd ar y dydd Gwener, Sadwrn a Noswyl Nadolig.

Mae Inrix a grŵp moduro'r RAC wedi cynghori gyrwyr mai'r amser gwaethaf i deithio fydd rhwng 13:00 a 19:00, gan awgrymu cychwyn naill ai'n gynnar neu gyda'r nos a gadael digon o amser.

Lle fydd problemau traffig?

Bydd yr M4 yn ne Cymru - rhwng Caerdydd drwodd i'r gwaith ffordd ar Bont Tywysog Cymru - ymhlith y ffyrdd prysuraf, yn ôl yr AA.

Mae arbenigwyr yn rhagweld hefyd y bydd traffyrdd o amgylch y prif ddinasoedd yn brysur dros y Nadolig hefyd gan gynnwys Llundain, Bryste, Lerpwl a Chaer.

Un hwb i yrwyr yw y bydd y rhan fwyaf o'r gwaith ffordd yn cael ei atal dros y Nadolig.

Ond dywedodd Traffig Cymru, gwasanaeth gwybodaeth Llywodraeth Cymru: "Efallai y bydd cyfyngiadau rheoli traffig cyfyngedig ar waith mewn rhai gwaith ffordd mawr am resymau diogelwch."

Mae asiantaethau priffyrdd Cymru a Lloegr yn dweud y bydd gwaith atgyweirio brys "yn disgyn y tu allan i'r cyfnod embargo hwn".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd prosiectau ffyrdd fel uwchraddio Blaenau'r Cymoedd gwerth £1.3bn yn ne Cymru yn dal â gwaith ffordd dros gyfnod yr ŵyl

Un o brif ffyrdd Gwynedd ar gau

Bydd prif ffordd yr A487 rhwng Machynlleth a Dolgellau yn parhau ar gau i deithwyr tan y flwyddyn newydd.

Roedd tirlithriad wedi bod ger Corris yn dilyn Storm Darragh.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod pryderon am "dir ansefydlog" uwchben y ffordd a'u bod yn ei chau er mwyn "sicrhau diogelwch teithwyr".

Dydy'r llywodraeth ddim wedi cadarnhau dyddiad ar gyfer ailagor y ffordd.

Ffynhonnell y llun, Martin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dydy'r llywodraeth ddim wedi cadarnhau dyddiad ar gyfer ailagor y ffordd ger Corris rhwng Machynlleth a Dolgellau

Beth am y llongau?

Yn draddodiadol, y Nadolig yw'r amser prysuraf i gwmnïau fferi, ond fe fydd porthladd Caergybi ar Ynys Môn, un o borthladdoedd prysuraf y DU, ar gau tan 15 Ionawr.

Mae'r porthladd ar Ynys Môn eisoes wedi bod ar gau ers 7 Rhagfyr ers iddo gael ei ddifrodi yn Storm Darragh.

Mae Stena Line ac Irish Ferries yn hwylio fferi ddyddiol bedair gwaith y dydd rhwng Caergybi a Dulyn - ac yn cario 5,500 o deithwyr a 1,200 o lorïau a threlars y dydd, ar gyfartaledd.

Mae'r ddau gwmni fferi yn cynnig cyfle i bobl deithio ar eu croesfannau eraill rhwng Iwerddon a Chymru.

Disgrifiad o’r llun,

Fel arfer mae 5,500 o deithwyr yn pasio trwy Gaergybi bob dydd ar gyfartaledd

A fydd y trenau yn rhedeg?

Bydd gwasanaethau ar y rhan fwyaf o lwybrau rheilffordd y DU yn gorffen yn gynt na'r arfer ar Noswyl Nadolig cyn i'r rhwydwaith gau ar Ddydd Nadolig a Dydd San Steffan.

Bydd trenau o dde Cymru, de-orllewin Lloegr a Maes Awyr Heathrow yn cael eu heffeithio yn sgil cau Gorsaf Paddington Llundain rhwng 27-29 Rhagfyr.

Bydd trenau Great Western yn dechrau a diweddu yng Ngorsaf Euston yn lle ond mae teithwyr yn cael eu rhybuddio y bydd yr orsaf yn andros o brysur oherwydd hyn.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Gorsaf Paddington ar gau rhwng y Nadolig a'r flwyddyn newydd

Bydd trenau rhwng gogledd Cymru a Manceinion a Llundain a de Cymru ar ôl y Nadolig yn cael eu heffeithio gan waith uwchraddio signalau yn Crewe rhwng 27 Rhagfyr a 2 Ionawr.

Cyngor Lowri Joyce o Drafnidiaeth Cymru yw i deithwyr wirio'u siwrne o flaen llaw.

"Y prif waith peirianneg yn ystod Rhagfyr ydy'r gwaith yn Crewe felly os mae'ch siwrne chi yn mynd drwy Crewe neu o gwmpas Crewe, gwiriwch o flaen llaw," meddai.

"Be 'da ni am 'neud ydy rhoi bysiau ymlaen ar rai o'r llwybrau a hefyd, bydd rhai o'r trenau yn osgoi Crewe hefyd, felly gwiriwch o flaen llaw.

"Mae gynno ni dipyn o waith yn mynd mlaen yng Nghasnewydd hefyd, jyst ar ôl Dolig, ac mae 'na waith yn Abertawe, Manceinion, Piccadilly a Chaer, lle bydd rhai gwasanaethau cynnar a hwyr yn cael eu rhedeg gan fysiau, nid trenau."

Disgrifiad o’r llun,

Cyngor Lowri Joyce o Drafnidiaeth Cymru yw i deithwyr wirio'u siwrne o flaen llaw

Bydd gwaith gwella gorsafoedd yn cau Gorsaf Stryd Lerpwl, Llundain a tharfu ar rai gwasanaethau yng ngorsaf St Pancreas hefyd, yn broblem i rai teithwyr.

Yn ôl yr RAC, bydd y ffyrdd yn brysurach o'r herwydd.

Ergyd arall i deithwyr trên yw bod rheolwyr trenau Avanti West Coast, gwasanaeth o Gaergybi i Lundain, wedi penderfynu cynnal streic ar Nos Galan ac ar 2 Ionawr.