O Borthmadog i Baris: Gemau Olympaidd cyntaf Medi Harris

Medi Harris
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r tro cyntaf i Medi i gystadlu yn y Gemau Olympaidd, a hithau ond yn 21 oed

  • Cyhoeddwyd

Mae'r nofwraig 21 oed o Borthmadog yn gwireddu "breuddwyd" wedi iddi gael ei dewis i fod yn rhan o garfan Prydain i gystadlu yn y Gemau Olympaidd ym Mharis fis Awst.

Bydd Medi Harris yn cystadlu yn y gystadleuaeth 100m cefn a'r ras gyfnewid 200m.

Dywedodd ei bod yn "nerfus ond yn llawn cyffro" ar gyfer y gemau.

Er y cyffro, nid yw'r cyfnod diweddar wedi bod yn hawdd iddi. Fe gafodd wybod ei bod wedi cael lle yn y tîm ar ddiwrnod angladd ei mam.

'Swreal' i gystadlu yn y gemau

Wrth edrych ymlaen at y gemau, dywedodd: "Mae'n cweit swreal, obviously dwi'n rili hapus ac yn falch o allu cynrychioli Cymru a GB."

Ond fe ddechreuodd y cyfan ym mhwll nofio Porthmadog.

"Dwi'n cofio o i'n rili hoffi mynd efo dad i nofio, a nath rhieni fi rhoi fi mewn gwersi ac ers hynna 'nes i joinio clwb Porthmadog ac wedyn 'nes i joinio Swim Gwynedd ac ers hynna dwi jyst heb stopio," meddai.

Dywedodd bod y blynyddoedd o nofio yn ei hieuenctid wedi bod yn "hanfodol" i'w llwyddiant.

"Dyna beth nath buildio fi i joio beth dwi'n neud wan," meddai.

A hithau bellach yn nofio i dîm Loughborough, dywedodd ei fod yn lle "rili da" ar gyfer nofio.

"Dwi jyst yn gallu ffocysu'n iawn ar nofio fi a jyst joio bod yma a neud be dwi angen 'neud."

Ffynhonnell y llun, Tim Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd Medi Harris y fedal aur ym mhencampwriaeth Ewrop

Fe enillodd Medi fedal efydd yn y gystadleuaeth 100m cefn yng Ngemau'r Gymanwlad ddwy flynedd yn ôl wrth gynrychioli Cymru.

Dywedodd: "Na'i fath anghofio hynna, mae'n un o'r competitions gorau dwi erioed wedi 'neud, ac i gynrychioli Cymru, dwi byth am anghofio fo."

Er ei bod wedi profi cryn lwyddiant yn y blynyddoedd diwethaf, yn ennill y fedal aur ym mhencampwriaeth Ewrop, dywedodd ei bod yn "dal i ddysgu trwy bob dim dwi'n neud... ond mae'r profiadau i gyd yn adio fyny".

Cael gwybod ar ddiwrnod angladd ei mam

Er iddi freuddwydio o gael cystadlu yn y Gemau Olympaidd ers ei bod yn ifanc, dywedodd bod y cyfnod diweddar wedi bod yn " rili anodd" wedi iddi golli ei mam, gan ddweud "ro' ni'n gwybod o ni angen neud job o neud y tîm".

Cafodd wybod ei bod wedi cael lle ar y tîm ar ddiwrnod angladd ei mam.

"Dwi'n gwybod byswn i erioed wedi maddau i fy hun os 'swn i heb neud y tîm a dwi'n gwybod oedd hi [ei mam] isho gweld fi gymaint, so jyst i allu neud o i hi a theulu fi a fi.

"Dros y blynyddoedd pan o ni'n tyfu fyny 'nath hi roi gymaint o help ac oedd hi yna i fi trwy'r adeg efo Dad, 'swn ni'm di methu meddwl ddim neud y tîm," meddai.

Dywedodd bod ei mam yn "ysbrydoliaeth iddi yn fwy na'm byd" gan ychwanegu: "Dwi'n gwybod ei bod hi o hyd efo fi achos hi nath ddeud hynna i fi, mae'n ysbrydoli fi yn fwy na'm byd."

Pynciau cysylltiedig