Merch o'r Felinheli yn anelu am y Gemau Olympaidd
- Cyhoeddwyd
Nod un ferch ifanc o Wynedd dros y blynyddoedd nesaf yw sicrhau ei lle yn nhîm Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd.
Mae Glain Watkin Jones, 21 oed o'r Felinheli, newydd gynrychioli tîm Prydain am y tro cyntaf mewn cystadleuaeth marchogaeth a neidio ceffylau yn y Weriniaeth Tsiec.
Fe wnaethon nhw orffen yn ail yn y gystadleuaeth tîm ac fe ddaeth Glain yn bedwerydd yng nghystadleuaeth unigol y Grand Prix.
Mae Gemau Olympaidd Paris - sy'n cychwyn ddiwedd y mis - wedi dod yn rhy gynnar yng ngyrfa Glain, ond mae hi'n gobeithio gallu cystadlu am fedal pan fydd y gemau yn Los Angeles yn 2028.
“Fi a mam oedd yna pan wnaethon ni ffeindio allan fy mod i 'di cael lle ar y tîm," meddai Glain.
"'Naeth y ddwy ohonom ni just crio. Mae’n rhywbeth dwi ‘di gweithio mor galed amdano fo."
Roedd Glain wedi cystadlu yn Ewrop sawl tro o'r blaen, ond erioed fel rhan o dîm Prydain.
Profiad 'emosiynol'
“O’n i’n nerfus iawn i ddechrau achos o’n i am ddangos fy mod i’n gallu bod ar y lefel yna ac yn haeddu bod yna.
“Ond ar ôl gorffen y rownd gyntaf nes i just rili ffocysu ac ymlacio a dechrau mwynhau’r peth.
“Dwi’n teimlo nes i ddangos bo' fi’n ddigon da i fod yna ac wedi gweithio’n galed i fod yna.
“Odd o’n brofiad anhygoel a jyst hollol emosiynol.”
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd19 Mehefin
- Cyhoeddwyd13 Mehefin
Dechreuodd Glain farchogaeth pan oedd hi'n blentyn oherwydd diddordeb ei mam, Iona Watkin Jones, mewn ceffylau.
“Dwi 'di bod yn reidio ers dwi’n gallu cofio," meddai Glain.
"Dechreuodd o gyda poni bach ac mae o 'di datblygu o hynny.
“Mae hi wedi bod yn daith hir ers hynny i geisio cyrraedd lle 'da ni heddiw.
“‘Da ni’n reidio chwech neu saith gwaith yr wythnos ac mae gyda ni ddeg o geffylau yma sydd angen cael eu reidio pob dydd.
"Mae o wir yn waith caled.”
Mae’r teulu newydd orffen adeiladu cyfleusterau marchogaeth newydd ar eu tir er mwyn galluogi i Glain, a’i brawd bach Dafydd, i ymarfer yn gyson.
Ond maen nhw hefyd am roi cyfle i grwpiau o’r ardal gael dysgu marchogaeth.
Dywedodd Iona: “O'dd o’n emosiynol iawn pan ddaeth yr e-bost yn dweud bod Glain ar dîm GB.
“Roedden ni'n fod i gadw’r newyddion yn reit ddistaw am ryw bythefnos ac roedd hynny’n anodd iawn, er ma' rhaid i mi gyfaddef, nes i ddweud wrth dipyn o ffrindiau agos.
“O'dd o’n wych, ac mae’n wych i’r ardal yma, ac i Gymru hefyd, cael merch leol ar y tîm.”
Ychwanegodd: “Mae ‘na dipyn o grwpiau wedi dechrau dod yma i ddysgu marchogaeth ceffylau, ac mae Glain wedi dechrau gwneud tipyn o hyfforddi hefyd.
"Mae’n gyfle da i hybu’r genhedlaeth nesa o farchogion.”
Mae brawd Glain, Dafydd, 17, hefyd yn marchogaeth a'i nod yw dilyn olion troed ei chwaer.
“Mae’n anhygoel bod Glain wedi cyrraedd tîm GB. Nes i ddechrau reidio gan bo' hi’n gwneud yn barod," meddai.
"Dwi’n gobeithio gallu cyrraedd y tîm blwyddyn nesaf.”
Gyda'r Gemau Olympaidd ym Mharis ar y gorwel mae Glain yn edrych ymlaen at gefnogi tîm marchogaeth Prydain o bell.
Ond gobaith mawr Glain yw bod yn rhan o'r tîm yn y dyfodol.
“'Swn i wrth fy modd yn mynd i’r Gemau Olympaidd.
"Mae gen i lawer o bethau llai dwi am eu cyflawni cyn hynny hefyd, ond y Gemau Olympaidd yw’r prif nod.”