Teyrngedau i'r cyfreithiwr 'taer a di-ofn' Huw Evans

Huw Evans gyda'i frawd, y canwr a'r cyflwynydd Wynne EvansFfynhonnell y llun, Wynne Evans/Instagram
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Huw Evans yn gweithio fel bargyfreithiwr ar achos hirdymor yn Ynysoedd Turks a Caicos pan fu farw yn sydyn ddechrau Ionawr

  • Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i frawd y canwr a'r cyflwynydd Wynne Evans mewn sesiwn er cof am y cyn-fargyfreithiwr yn Llys y Goron Caerdydd.

Cafodd Huw Evans, 62, ei ddisgrifio fel cyfreithiwr "taer a di-ofn", oedd yn brofiadol wrth weithio ar achosion twyll cymhleth.

Roedd hyn yn cynnwys achos uchel ei broffil yn y Caribî, ble bu farw ar 8 Ionawr yn dilyn salwch.

Wrth arwain y teyrngedau gerbron llys llawn i'r ymylon ddydd Gwener, dywedodd y Barnwr Lucy Crowther fod ei ffrindiau a'i gydweithwyr "wedi synnu'n llwyr o glywed am ei farwolaeth".

'Byw bywyd i'r eithaf'

Wrth siarad am fywyd Mr Evans, dywedodd y Barnwr Crowther ei fod wedi cael magwraeth gerddorol gyda'i ddau frawd yn Sir Gaerfyrddin, a'i fod yn ddawnsiwr talentog.

Y tu allan i'w waith, roedd ei ddiddordebau'n cynnwys rygbi, sgïo a bwyd.

Cafodd ei alw i'r Bar yn 1985, ond fe aeth i'r Llynges am ddwy flynedd gyntaf cyn troi ei sylw yn ôl at y gyfraith.

Dywedodd y Barnwr Crowther, un o'i gyn-ddisgyblion, fod Mr Evans yn rhywun oedd yn "anodd, penderfynol a dyfal" yn y llys, ond oedd hefyd yn "trin pawb yn hafal a theg".

"Roedd yn ffrind ffyddlon a dibynadwy... [oedd yn] falch o weld llwyddiannau unigol pawb," meddai.

Fe ymunodd Mr Evans â 30 Park Place Chambers yn 2005, gyda'i gyn-gydweithiwr Caroline Rees KC yn ei ddisgrifio fel rhywun oedd yn "byw bywyd i'r eithaf".

"Yn ei fywyd proffesiynol mae'n cael ei gofio am fod yn daer a di-ofn," meddai, gan ychwanegu ei fod yn "llawer o hwyl" i fod yn ei gwmni.

"Fe oedd yr arweinydd fyddech chi eisiau," meddai. "Roedd yn ddiffuant, yn siarad ei feddwl, ac roedd yn dod o le da."

Dywedodd Sharon Bahia o No5 Barristers' Chambers, cyn-ddisgybl arall, fod ganddi "gyfeillgarwch hyfryd ac annisgwyl" gyda Mr Evans, oedd "yn gwylio fy nghefn i ar bob achlysur".

"Mae wedi gadael bwlch y byddaf yn dysgu i'w dderbyn, ond fyth yn ei lenwi," meddai.

"Rwy'n teimlo mor freintiedig ei fod wedi bod yn fy mywyd."

Ers 2014 roedd Mr Evans wedi bod yn gweithio fel bargyfreithiwr amddiffyn ar achos hir dymor yn Ynysoedd Turks a Caicos, yn ymwneud â chyhuddiadau twyll, llwgrwobrwyo a llygredd yn erbyn cyn-weinidogion llywodraeth.

Mae'n gadael ei wraig Donna, dau o blant a dwy o wyresau, ac fe ddywedodd y Barnwr Crowther fod y llys "yn anfon ei chydymdeimladau dwysaf i'w holl deulu a ffrindiau".

Roedd ei frawd Wynne wedi talu teyrnged iddo mewn neges flaenorol ar Instagram, gan ddweud: "Rwyf mor drist i ddweud bod fy mrawd hynaf hardd wedi'n gadael ni.

"Fy mrawd mawr oedd fy arwr a fy ysbrydoliaeth. Huw annwyl, fe fydda i'n dy golli di'n fawr ac rwyf mor hapus mod i wedi dy gael di gyda mi drwy fy mywyd."

Pynciau cysylltiedig