150 mlynedd o'r 'gân serch orau erioed'

Joseph Parry
  • Cyhoeddwyd

Paham mae dicter?

Ar y dyddiad yma yn 1875, mae'n debyg fod y gân serch Myfanwy wedi ei chlywed yn gyhoeddus am y tro cyntaf mewn cyngerdd yn Aberystwyth.

Aeth Myfanwy ymlaen i fod yn un o ganeuon mwyaf annwyl Cymru – baled deimladwy sydd wedi teithio o gapeli'r 19eg ganrif i neuaddau cyngerdd rhyngwladol.

Ond beth yw hanes y gân a phwy yn union oedd Myfanwy?

MynyddogFfynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Richard Davies, enw barddol Mynyddog, ysgrifennodd y geiriau i'r gân

Cafodd ei chyfansoddi gan Joseph Parry ar eiriau Richard Davies (gaiff ei adnabod wrth ei enw barddol Mynyddog), ac ar ôl ei chyhoeddi daeth Myfanwy yn rhan o repertoire poblogaidd Cymru yn gyflym.

Ar y pryd, roedd cyfansoddwyr Cymru yn dechrau ysgrifennu caneuon seciwlar ochr yn ochr ag emynau crefyddol. Daeth Parry, cerddor gafodd ei eni ym Merthyr Tudful a oedd wedi gweithio mewn pyllau glo a gweithfeydd haearn cyn astudio cerddoriaeth, yn ffigwr blaenllaw yn yr adfywiad diwylliannol yma.

Roedd teulu Joseph Parry wedi mudo i UDA ar ôl eu dyddiau cynnar ym Merthyr, ond fe wnaeth o ddychwelyd i Gymru yn 1874 a dod yn bennaeth cyntaf ar adran gerdd Prifysgol Aberystwyth. Fo ydi cyfansoddwr yr emyn dôn Aberystwyth hefyd.

Arweiniodd y cyngerdd ar noson perfformiad cyntaf Myfanwy, a oedd hefyd yn ddiwrnod ei ben-blwydd yn 34 oed.

Pwy oedd Myfanwy?

Merch o deulu cefnog ac uchel ei thras oedd Myfanwy Fychan a oedd yn briod â Goronwy ap Tudur Fychan ac yn byw yng nghyfnod yr 1400au. Roedd o deulu enwog Tuduriaid Penmynydd, Môn, un o hynafiaid Harri Tudur.

Daeth Myfanwy'n un o Gymry mwyaf adnabyddus yr Oesoedd Canol yn sgil nifer o gerddi a sgwennwyd iddi, yn arbennig Moliant Myfanwy Fychan o Gastell Dinas Brân gan Hywel ab Einion Lygliw (cyn iddi briodi Goronwy!) a oedd wedi syrthio mewn cariad mawr â hi.

Yn ôl y chwedl roedd Myfanwy'n hardd eithriadol ac yn denu sylw dynion cyfoethog o bob man ond ni châi ddim i'w wneud â nhw oni bai eu bod nhw'n gallu canu a 'sgwennu cerddi i foli ei harddwch. Un diwrnod magodd Hywel ab Einion ddigon o blwc i fynd efo'i delyn i ganu iddi.

Disgrifiad,

Côr Meibion Pendyrus yn perfformio Myfanwy

Wrth ei swyno sylwodd Hywel nad oedd hi'n edrych ar neb arall ond fo a chymerodd ei bod hithau wedi syrthio mewn cariad ag o. Ond buan y gwelodd ddyn cefnog a golygus arall yn cael ei sylw llawn. Wedi torri ei galon aeth Hywel i grwydro'r goedwig leol tra'n cyfansoddi ei gerdd serch iddi.

Pedwar can mlynedd yn ddiweddarach argraffwyd geiriau'r gerdd mewn cyfrol o'r enw Myvyrian Archaiology of Wales yn 1801 a daeth y gerdd a Myfanwy ei hun i amlygrwydd eto ymysg cenhedlaeth arall o Gymry.

Fe ysbrydolodd y stori garu drist y bardd John Ceiriog Hughes i lunio cerdd i Myfanwy Fychan yn 1858, cerdd a ddaeth yn un o gerddi mwyaf poblogaidd y Cymry. Ond geiriau bardd arall sef Richard Davies (sef Mynyddog) a oedd yn ffrind i Ceiriog, wnaeth Joseph Parry ddefnyddio yn ei gân enwog.

Mae beddrod Goronwy a Myfanwy i'w weld yn eglwys Sant Gredifael, Penmynydd, Ynys Môn.

BeddrodFfynhonnell y llun, Creative Commons
Disgrifiad o’r llun,

Beddrod Goronwy a Myfanwy, Eglwys Penmynydd

Perfformiadau cofiadwy

Ryan Davies (1975):

Ganrif wedi ei chlywed yn gyhoeddus am y tro cyntaf, fe berfformiodd Ryan Davies y gân ar yr albym enwog Ryan at the Rank.

Wrth gyflwyno'r gân fe alwodd Ryan Davies hi 'y gân serch orau erioed, mewn unrhyw iaith'.

Nid yw’r post yma ar YouTube yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar YouTube
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
I osgoi fideo youtube gan Tis Done

Caniatáu cynnwys YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
Diwedd fideo youtube gan Tis Done

Sheku Kanneh-Mason (2022):

Fe berfformiodd Sheku Kanneh-Mason y gân ar ei albym Song, a'i chyflwyno'n deyrnged i'w Nain Gymreig.

Meddai Sheku ar y pryd: "Fe wnes i dreulio llawer o fy mhlentyndod yng Nghymru ac roedd llawer iawn o'r amser hynny gyda Nain, felly mae hon iddi hi.

"Mae'n gân dwi wedi ei gwybod ers amser hir, fel chwarter Cymro. Roeddwn i wastad yn teimlo ei bod yn gân hardd iawn felly wnes i wneud trefniant i'r sielo a wnes i wir fwynhau ei chwarae."

Nid yw’r post yma ar YouTube yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar YouTube
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
I osgoi fideo youtube 2 gan ShekuKannehMasonVEVO

Caniatáu cynnwys YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
Diwedd fideo youtube 2 gan ShekuKannehMasonVEVO

Malcolm Buck (2014):

O gofio gwreiddiau Joseph Parry yn gweithio mewn pwll glo, mae'r fideo feiral yma o Glwb y Gweithwyr, Tonyrefail yn dangos mor annwyl yw Myfanwy i bobl Cymru o hyd.

Mae fideo yn dal yr eiliad pan y dechreuodd Malcolm Buck ei chanu'r dros beint, a'r dafarn yn syrthio'n dawel i wrando. Mae'r fideo wedi ei wylio dros 250,000 o weithiau ar YouTube.

Nid yw’r post yma ar YouTube yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar YouTube
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
I osgoi fideo youtube 3 gan Whitefox244

Caniatáu cynnwys YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
Diwedd fideo youtube 3 gan Whitefox244

Pynciau cysylltiedig