Gwersi di-ri i’r Democratiaid wrth i sioe fawr Trump ddechrau
- Cyhoeddwyd
Mae cyflwynydd BBC Cymru, Bethan Rhys Roberts wedi bod yn teithio ar hyd yr Unol Daleithiau yn ystod ras arlywyddol y wlad.
Dyma ei hargraffiadau o'r ymgyrch sydd wedi gweld Donald Trump yn cael ei ethol unwaith eto i'r Tŷ Gwyn.
Pwy bynnag fyddai’n ennill, roedd canlyniad yr etholiad yma yn mynd i fod yn un hanesyddol - y ddynes gyntaf erioed yn y Tŷ Gwyn, yr arlywydd hynaf mewn hanes i gael ei ethol, y troseddwr cyntaf, yr ail erioed i ddychwelyd ar ôl colli etholiad, yr unig arlywydd i gael ei uchel gyhuddo ddwywaith.
Ydi, mae’r rhestr yn faith. Roedd yr ymgyrch hefyd yn ddigynsail.
Bu bron i un o’r ymgeiswyr gael ei lofruddio - dwywaith.
Fe ildiodd ymgeisydd arall hanner ffordd drwy’r ras ac roedd ‘na achosion llys di-ri hefyd.
Fel drama, roedd gan hon bopeth.
Unol Daleithiau rhanedig
Wrth gyrraedd Washington DC y tro yma, roedd ‘na deimlad o ddychwelyd i etholiad 2016.
Unol Daleithiau rhanedig, Hydref 2024 wedi ei hollti rhwng swigen sefydliadau’r brifddinas a gweiddi mudiad MAGA.
Wrth i Oprah Winfrey a Lady Gaga gloi ymgyrch slic a drud Kamala Harris yn Philadelphia, ro’n i’n sgwrsio gyda gyrrwr tacsi o Honduras.
“Trump has my vote” meddai, gan ddweud bod y wlad yn llawn dop ac mai Trump fyddai’n datrys problem y mudwyr anghyfreithlon.
Wrth adael y brifddinas wedyn, un o gadarnleoedd mwyaf glas y Democratiaid, mae’r tirlun gwleidyddol i’w weld yn glir.
Yn rhai o faestrefi’r gogledd, mae adeiladau crand y canol yn troi’n siopa gweigion, y gwestai moethus yn garejys teiars blêr gyda phobl yn smocio ac yn syllu.
Drwy dir glas Baltimore wedyn ac i dalaith allweddol Pennsylvania, sef calon y frwydr fawr yma. Wrth i’r cyfoeth gilio, mae’r glas yn troi’n goch.
Yn ninas York, sydd tua maint Wrecsam ac oedd am gyfnod yn brifddinas America yn ôl yn y 18fed ganrif, mae yna gefnogaeth gre' i’r Gweriniaethwyr.
Dinas dawel, ddi-lol lle mae costau byw yn gwasgu.
Yma, dydi addewid Kamala Harris i “droi’r dudalen” ac i godi llais y dosbarth gweithiol ddim yn cydio.
Fe enillodd Trump yma gyda mwy na 60% o’r bleidlais.
Sloganau syml yn cydio
Wrth sgwrsio â rhai o gefnogwyr Trump, mae ymgyrch Brexit yn neidio i’r cof - honiadau nad ydi’r elît gwleidyddol yn gwrando, bod y bobl sy’n gweithio’n galed yn cael eu hanghofio.
I’r etholwyr yma sydd wedi eu dadrithio’n llwyr gyda’r broses wleidyddol, mae Donald Trump yn deall eu cwynion ac yn cynnig gobaith.
Mae ei sloganau syml yn cydio, a’i feiau yn diflannu gyda’r cyfiawnhad nad oes “neb yn berffaith”.
I’w ddilynwyr mwayf angerddol, fe wnaeth Duw achub ei fywyd yn Pennsylvania er mwyn iddo yntau achub America.
'Rôl merched yn allweddol'
Gydag erthyliad ar y papur pleidleisio mewn deg talaith, Kamala Harris yn ymgyrchu’n galed ar hawliau merched a Donald Trump yn euog o dwyll wrth dalu'r cyn-seren bornograffi Stormy Daniels, roedd rôl merched yn allweddol yn yr etholiad yma.
Yn ôl yn Washington ac mae Kirk, glanhawr o Maryland, yn cefnogi Kamala Harris.
Mae’n gwneud hynny, meddai, dros ei ferch 25 oed sydd ddim yn bwriadu pleidleisio.
O ran yr economi, mae’n egluro wrtha’i y byddai wedi cefnogi Trump.
Ond mae o am weld dynes yn y Tŷ Gwyn er mwyn dangos i’w ferch bod unrhywbeth yn bosib.
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd
Mae ei ffrindiau i gyd yn cefnogi Trump - yn gwrando dim ar Kamala, meddai, gan na fyddan nhw’n gallu ystyried merch wrth y llyw.
Y darogan oedd mai menywod fyddai’n penderfynu’r canlyniad, ac yn nyddiau ola’r ymgyrch roedd ‘na deimlad mai’r bleidlais fenywaidd fyddai’n agor drws y Tŷ Gwyn i Kamala Harris.
Dyma sgwrsio gydag un o’r miloedd o wirfoddolwyr aeth ar fysus y Democratiaid i ymgyrchu yn nhrefi llai llewyrchus Pennsylvania.
Rroedden nhw wedi curo ar gannoedd o ddrysau mewn diwrnod - ond canran fach iawn wnaeth ateb, meddai, a dim ond llond llaw o ferched oedd yn bwriadu pleidleisio.
Noswyl y bleidlais, dyma sgwrsio gyda David Lundy sy’n wreiddiol o Flaenau Ffestiniog ac sydd bellach yn rheolwr chwarel llwyddiannus yn Vermont.
Roedd o wedi bwrw ei bleidlais i Trump yn gynnar. “Mae’r etholiad yma i gyd wedi bod am bleidlais y merched”, meddai.
"Yfory , gei 'di weld, fe fydd y dynion yn dod allan ac mi fydd Trump yn saff."
Roedd o’n iawn. Cynyddu wnaeth y gefnogaeth i Trump ymhlith dynion o bob oed - ymhlith dynion du a hispanaidd hefyd o’i gymharu ag etholiad 2020.
Ac wedi’r holl drafod a darogan gostwng gwnaeth nifer y menywod wnaeth bleidleisio i’r Democratiaid gyda Hillary Clinton a Joe Biden yn denu canran uwch.
Beth nesaf?
Oes mae ‘na wersi di-ri i’r Democratiaid eu pendroni wedi’r siom fawr.
A ddylai Joe Biden fod wedi ildio’n gynt? A fyddai Josh Shapiro wedi bod yn ddirprwy gwell ‘na Tim Walz? A oedd y negeseuon ar yr economi a mewnfudo yn ddigon clir?
Mae ’na drafodaeth llawer mwy sylfaenol hefyd.
A ydi’r blaid, fel y mae Bernie Sanders wedi ei awgrymu, wedi colli pob cysylltiad â’r dosbarth gweithiol - yn clywed ond ddim yn gwrando ar gwynion y bobl ar lawr gwlad.
Mae sioe fawr Donald Trump ar fin dechrau eto yn y Tŷ Gwyn.
Wrth i’r Democratiaid ofni y gallai droi’n unben dros nos, mae miliynau ar draws America yn edrych ymlaen yn fawr at Trump 2.
Yn eu plith mae David Lundy: “Mi fydd hi’n andros o sioe a ‘dim ots nacdi”, meddai.
"Pedair blynedd fydd hi’n para ac mi gewn ni gyd gyfle i newid y sianel eto wedyn."