Grŵp Iddewig yn condemnio galwad Plaid Cymru i foicotio Israel
- Cyhoeddwyd
Mae galwad gan Blaid Cymru i foicotio Israel wedi cael ei feirniadu'n hallt gan grŵp Iddewig Cymreig.
Dywedodd Cyngor Cynrychioli Iddewon De Cymru eu bod "wedi dychryn", gan nodi hefyd fod y penderfyniad wedi'i wneud ar ddiwrnod mwyaf sanctaidd yn y calendr Iddewig.
Fe wnaeth Laurence Kahn, cadeirydd y cyngor, gyhuddo Plaid Cymru o roi cyfiawnhad i ymosodiadau 7 Hydref y llynedd gan Hamas - y grŵp Palesteinaidd arfog sydd wedi eu lleoli yn Gaza.
Dywedodd Plaid Cymru eu bod wedi bod yn "gadarn ac yn ddiamwys wrth gondemnio’r ymosodiadau erchyll a gyflawnwyd gan Hamas".
'Gwladwriaeth apartheid'
Cafodd y cynnig yng nghynhadledd Plaid Cymru yng Nghaerdydd dros y penwythnos ei gefnogi gan bedwar Aelod Seneddol y blaid, a'i basio gan aelodau.
Roedd y cynnig yn disgrifio Israel fel "gwladwriaeth apartheid", a'u cyhuddo o "buro ethnig a throseddau rhyfel".
Bu'r prif lysgennad Palesteinaidd yn y Deynas Unedig, Husam Zomlot, yn siarad yn y gynhadledd hefyd, gan alw ar Gymru i roi pwysau ar Lywodraeth y DU.
Cafodd tua 1,200 o bobl - y mwyafrif yn drigolion Israel - eu lladd yn yr ymosodiadau gan Hamas ar 7 Hydref 2023.
Fe wnaeth Hamas - sy'n cael ei ystyried yn grŵp terfysgol gan sawl gwladwriaeth orllewinol, gan gynnwys y DU - gymryd 251 o bobl yn wystlon, a does dim sicrwydd hyd yma beth sydd wedi digwydd i 97 o'r rheiny.
Mae tua 42,000 o bobl wedi eu lladd fel rhan o ymosodiad Israel yn Gaza, yn ôl y weinidogaeth iechyd sy'n cael ei redeg gan Hamas.
Cafodd Yom Kippur ei gynnal rhwng nos Wener a dydd Sadwrn, 12 Hydref.
Cafodd y bleidlais ar y cynnig ei gynnal ar ail ddiwrnod y gynhadledd, sef dydd Sadwrn.
Cyngor Iddewon 'wedi dychryn'
Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Cynrychioli Iddewon De Cymru: "Mae penderfyniad Plaid Cymru i alw am foicot o Israel ar Yom Kippur, sef y diwrnod sancteiddiaf ar y calendr Iddewig, wedi ein dychryn."
Wrth ddisgrifio ymosodiadau Hamas ar Israel ar 7 Hydref fel "yr erchyllterau gwaethaf a gyflawnwyd yn erbyn Iddewon ers yr Holocost", fe wnaeth y cyngor gyhuddo Plaid Cymru o roi "gyfiawnhau’r gweithredoedd erchyll".
"Er gwaethaf cyhuddiadau Plaid Cymru o hil-laddiad, Hamas - nid Israel - a dargedodd sifiliaid yn fwriadol ar ac ar ôl 7 Hydref.
"Mae'r cywerthedd ffug hwn nid yn unig yn anghyfiawn ond yn beryglus gamarweiniol."
Cyhuddodd y cyngor y blaid o "gytuno â safbwyntiau eithafol sydd nid yn unig yn dieithrio'r gymuned Iddewig ond sydd hefyd yn tanseilio mynd ar drywydd heddwch gwirioneddol".
- Cyhoeddwyd9 Hydref
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2023
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: “Mae Plaid Cymru wedi bod yn gadarn ac yn ddiamwys wrth gondemnio’r ymosodiadau erchyll a gyflawnwyd gan Hamas ar 7 Hydref.
“Rydym hefyd wedi bod yn glir bod ymateb gwladwriaeth Israel wedi bod yn anghymesur a heb gyfiawnhad, gan arwain at farwolaethau degau o filoedd o sifiliaid diniwed yn Gaza.
"Rydym wedi dadlau’n gyson bod yn rhaid cynnal cyfraith ryngwladol heb ofn na ffafr.
Ychwanegodd y llefarydd: "Bydd Plaid Cymru, fel y mae wedi gwneud erioed, yn parhau i ddadlau dros gadoediad ar unwaith, rhyddhau pob gwystl yn ddi-oed, atal gwerthu arfau, diwedd ar elyniaeth gan bob plaid, a dwysáu ymdrechion diplomyddol i geisio heddwch sefydlog a pharhaol i holl bobl Israel a Phalestina a’r rhanbarth ehangach.”