Toriadau i gostau ynni 'am roi hwb i filoedd o swyddi newydd'

Llun wedi ei ddylunio ar gyfrifiadur o sut y bydd y ffwrnais arc drydan newydd yn edrych o fewn safle presennol Tata Steel ym Mhort Talbot.Ffynhonnell y llun, Tata Steel
Disgrifiad o’r llun,

Dyluniad gan artist o sut y bydd y ffwrnais drydan newydd yn edrych ar safle Tata Steel ym Mhort Talbot

  • Cyhoeddwyd

Bydd y ffwrnais arc drydan newydd ym Mhort Talbot yn elwa o gynlluniau i dorri 25% ar gostau trydan i'r diwydiant, meddai Llywodraeth y DU.

Dywedodd Ysgrifennydd Busnes Lloegr, Jonathan Reynolds y byddai'r strategaeth ddiwydiannol newydd yn cynnwys "cefnogaeth sylweddol" o ran prisiau ynni erbyn y bydd ffwrnais Tata yn weithredol, o bosib, yn 2028.

Awgrymodd y bydd degau o filoedd o swyddi newydd, biliynau o bunnau o fuddsoddiad a thwf economaidd cynyddol "yn cael eu cefnogi dros y degawd nesaf" yn sgil cynlluniau'r llywodraeth.

Yng Nghymru, bydd y sectorau lled-ddargludyddion, gweithgynhyrchu uwch ac amddiffyn hefyd yn cael eu targedu.

Llun o Brif Weinidog Cymru, Eluned Morgan a Phrif Weinidog y DU, Syr Kier Starmer yn sefyll o flaen adennydd awyren yn ystod ymweliad â chwmni awyrofod Airbus. Mae llwyth o aelodau staff wedi eu hamgylchynnu.Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan a Phrif Weinidog y DU, Syr Kier Starmer yn ystod ymweliad â chwmni awyrofod Airbus ym Mrychdyn

Ychwanegodd Mr Reynolds: "Os ydych chi'n meddwl am arbenigedd Cymru mewn cwmnïau awyrofod a moduro fel Airbus a Toyota, gallwch chi ddisgwyl y byddan nhw'n elwa'n uniongyrchol o hyn.

"Bydd yn gwneud diwydiant presennol Cymru yn llawer mwy cystadleuol gan ddenu buddsoddiadau newydd."

Bydd y diwydiannau mwyaf dwys o ran ynni, fel dur, cemegau a gwydr, yn cael eu cefnogi gan gynllun o'r enw'r British Industry Supercharger.

Golyga hyn y bydd y gostyngiadau maen nhw'n eu cael ar brisiau ynni yn cynyddu o 60% i 90% o 2026 ymlaen.

Bydd y gostyngiadau hynny mewn biliau trydan yn helpu'r diwydiannau i aros yn gystadleuol, amddiffyn swyddi a buddsoddi yn y dyfodol, meddai Llywodraeth y DU.

Mae'r strategaeth ddiwydiannol yn gynllun 10 mlynedd i'w "gwneud yn gyflymach, yn haws ac yn rhatach" i wneud busnes yn y DU.

Fel rhan ohoni:

  • Disgwylir i gwmnïau fel Airbus ym Mrychdyn, Sir y Fflint, hawlio cyfran o £4bn ar gyfer y sector gweithgynhyrchu uwch dros y pum mlynedd nesaf.

  • Bydd Llywodraeth y DU yn sefydlu canolfan ar gyfer hyfforddiant doethuriaeth mewn lled-ddargludyddion a fydd yn cael ei harwain gan Brifysgol Abertawe.

  • Gan fod pum cyflenwr gorau'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn gysylltiedig â Chymru, mae disgwyl i'r sector hwnnw elwa hefyd.

  • Bydd corff Prifddinas Ranbarth Caerdydd yn cael hyrwyddwr wedi'i benodi yn y Banc Busnes Prydeinig i "gysylltu buddsoddwyr â busnesau".

  • Bydd tua £30m yn cael ei roi i Gronfa Partneriaethau Arloesi Lleol yng Nghymru i weithio gyda Llywodraeth Cymru ac Innovate UK.

'Mae gan Gymru botensial enfawr'

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ddydd Sadwrn eu bod yn buddsoddi £275m mewn hyfforddiant technegol a phrentisiaethau yn Lloegr fel rhan o'r strategaeth ddiwydiannol.

Felly, bydd Cymru yn cael cyllid fel rhan o hynny oherwydd bod y cyfrifoldeb dros sgiliau wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Mr Reynolds mai mater i'r Prif Weinidog Eluned Morgan a'i chabinet fyddai penderfynu a ydynt am "adlewyrchu" y cyllid hwnnw.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, y byddai'r strategaeth ddiwydiannol yn "creu cyfoeth" ledled y wlad.

"Mae gan Gymru botensial enfawr a bydd ein strategaeth yn gwneud y mwyaf o gryfderau ein busnesau a'n gweithlu i sbarduno twf a chreu swyddi," meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.