Dyddiau olaf ffwrneisi dur traddodiadol Port Talbot mewn lluniau
- Cyhoeddwyd
1 o 4
Rhyw fath o deimlad o orfodaeth yw disgrifiad y ffotograffydd Mark Griffiths o'r rheswm yr aeth ati i wneud ffilm fer am gymuned Port Talbot.
Cafodd ei fagu yn y dref, ac mae teulu a ffrindiau iddo'n gweithio yn y gwaith dur, neu â rhyw fath o gysylltiad gyda’r gwaith.
Mae disgwyl i’r ffwrnais chwyth yng ngwaith Tata gael ei diffodd ddydd Llun.
Bydd tua 2,000 o weithwyr Port Talbot yn colli eu swyddi.
Pan fydd y ffwrnais yn cau, bydd cynhyrchu dur yn y modd traddodiadol yn dod i ben yng Nghymru.
Adrodd stori cymuned sydd â dyfodol ansicr mae'r ffilm fer o’r enw 'The beginning of the end', dolen allanol gan Mark Griffiths.
“Mae’r effaith yn mynd i fod yn syfrdanol," meddai.
"Fydd e ddim yn effeithio’n unig ar y gweithwyr dur, bydd e’n effeithio ar yr isadeiledd o gwmpas [Tata], y busnesau lleol, y cymunedau sydd yn mynd i gael eu chwalu a’u dinistrio oherwydd hyn.
“Dyma pam ro’n i’n meddwl ei bod hi’n bwysig i mi greu’r gwaith yma,” meddai.
Fel rhan o’r ffilm, fe siaradodd Mark Griffiths gydag amrywiaeth o gyfranwyr - cynrychiolydd undeb, perchennog busnes yn y dref, elusen iechyd meddwl, a'r Aelod Seneddol lleol, Stephen Kinnock.
“Mae gen i gysylltiad agos â llawer o bobl ym Mhort Talbot - sawl ewythr, fy nheulu’n ehangach, ffrindiau oedd yn gweithio ar ryw adeg mewn rhan o’r gwaith dur, un ai’n uniongyrchol neu’n rhan o’r isadeiledd - felly mae’n anodd iawn clywed y straeon yma."
Mae’n dweud bod Port Talbot, yn ymdebygu i’r cymoedd o ran agwedd y bobl.
“Ry’n ni’n un teulu anferth, ac mae pawb yn edrych ar ôl ei gilydd,” meddai.
Mae’r ffotograffydd yn gobeithio y bydd ei waith yn cadw hanes y dref yn fyw, ac yn annog rhai sydd mewn grym i ofalu am y gymuned hefyd.
- Cyhoeddwyd23 Medi
- Cyhoeddwyd14 Mai
- Cyhoeddwyd26 Mehefin
'Dogfennu pethe fydd fyth yn digwydd eto'
Cafodd y ffotograffydd Jon Pountney fynediad i'r safle i dynnu lluniau o ddyddiau olaf y ffwrnes chwyth.
“Fel rhywun o’r tu allan, chi’n mynd i mewn ac yn meddwl, ‘sai wir yn gwybod sut i ymateb i’r hyn rwy’n ei weld, achos mae e' mor anhygoel’, ac fel ffotograffydd, mae hynny’n eitha' anodd, achos chi hefyd yn ceisio canolbwyntio ar y lluniau,” meddai.
Mae ei brosiect diweddara, ‘The Allure of Ruins’, yn canolbwyntio ar greiriau a thirluniau ôl-ddiwydiannol Cymreig, neu “hen bethau” yn ei eiriau ei hun.
Mae hefyd wedi bod yn gyfle i ddweud stori gwaith dur Tata mewn ffordd gyfoes, a “dogfennu pethe fydd fyth yn digwydd eto”.
“Doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl, ac ry’ch chi yn ei hanfod yn mynd i gwrdd ag ystafell dywyll fawr iawn, ble mae na afon o fetel tawdd yn rhedeg drwy’r canol.
“Dydych chi byth wedi gweld unrhywbeth tebyg – mae’n rhywbeth anhygoel bron fel elfennau llosgfynydd, sy’n eitha' brawychus,” ychwanega.
Cyn gynted ag yr ydych chi ar y safle, mae'r teimlad o falchder yn “amlwg iawn, iawn” ymysg y gweithwyr, yn ôl yr artist gweledol.
“Mae pobl yn broffesiynol iawn ac yn parchu ei gilydd, a’r gwaith maen nhw’n ei wneud, sy’n hynod o beryglus,” meddai.
I Jon Pountney, mae 'na deimlad bod hanes yn ailadrodd ei hun, ar ôl bod yn rhan o gynhyrchiad ffuglennol ar waith dur yn cau.
Fe weithiodd fel ffotograffydd ar ddrama deledu Michael Sheen ‘The Way’ y llynedd, oedd yn adrodd stori o anrhefn a therfysg ynghlwm â chau gwaith dur ffuglennol.
Yn ôl seren a chyfarwyddwr y ffilm, Michael Sheen, roedd hi’n “rhyfeddol o agos at y gwir”.
Er hyn, mae Mr Pountney yn gweld dyfodol mwy gobeithiol i’r dref na’r un gafodd ei darlunio ar y sgrin fach.
“Mae hynny gan fwyaf ynghlwm â pha mor ymarferol mae’r Cymry. Hyd yn oed yn ystod amseroedd anodd, ychydig yn debyg i streic y glöwyr, y syniad yma y byddwn ni’n dal i fynd," meddai.
“Fe fyddwn ni’n parhau i edrych ar ôl ein gilydd, ac fe wnawn ni barhau i wthio ymlaen, ac fe fydd yfory wastad yn ddiwrnod gwell."