Cymeradwyo ffwrnais drydan i waith dur Port Talbot

Llun artist o'r ffwrnais newydd ym Mhort Talbot
- Cyhoeddwyd
Mae cais Tata Steel i adeiladu ffwrnais drydan gwerth £1.25bn yng ngwaith dur Port Talbot wedi cael sêl bendith cynllunwyr.
Cymeradwyodd pwyllgor cynllunio Castell-nedd Port Talbot gynlluniau'r cwmni i ddechrau'r gwaith adeiladu yn yr haf, ac mae disgwyl i'r ffwrnais fod yn weithredol erbyn diwedd 2027.
Bydd y ffwrnais yn toddi dur sgrap yn bennaf ac yn cymryd lle y ddwy ffwrnais chwyth a gaeodd ym Mhort Talbot y llynedd.
Yn y cais cynllunio dywedodd Tata Steel eu bod wedi colli £4bn ym Mhort Talbot ers 2007 ac y byddai'r ffwrnais newydd yn creu busnes "cynaliadwy yn ariannol ac yn amgylcheddol".

Mae buddsoddi £1.25bn mewn ffwrnais drydan yn lleihau allyriadau ac yn sicrhau dyfodol cynhyrchu dur, medd Tata Steel
Mae Tata Steel eisoes wedi penodi'r contractwr Syr Robert McAlpine i wneud y gwaith a fydd yn cynnwys dymchwel strwythurau presennol a llenwi'n rhannol y llyn sydd ar y safle.
Bydd yr adeiladau newydd sy'n cael eu codi yn cynnwys adeilad mawr y ffwrnais, gwaith trin mwg a llwch, a chyfleuster trin dŵr.
Bydd angen gweithfeydd prosesu sgrap hefyd.
Bydd y ffwrnais yn gweithio trwy doddi dur sgrap yn bennaf a bydd ffurfiau purach eraill o ddur hefyd yn cael eu hychwanegu er mwyn ffurfio ansawdd arbenigol o'r metel.
Bydd gan y ffwrnais drydan newydd allyriadau isel iawn os daw'r cyflenwad ynni o ffynonellau adnewyddadwy.
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd28 Medi 2024
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
Dywedodd Tata Steel fod y gwneuthurwr peiriannau JCB wedi ymrwymo i brynu dur "gwyrdd" o'r ffwrnais newydd.
Bydd y datblygiad yn lleihau allyriadau carbon hyd at 90% o gymharu ag effaith y ffwrnais chwyth ar yr amgylchedd ym Mhort Talbot.
Roedd Tata Steel wedi dweud yn gyson ei fod yn colli £1m y dydd wrth gadw ei ffwrneisi chwyth i fynd.

Llun cyfrifiadurol o'r ffwrnais drydan
Wrth gau'r gwaith trwm ym Mhort Talbot fe gollodd tua 2,500 o bobl eu swyddi yn ne Cymru, gyda 300 arall o swyddi i fynd yn y dyfodol.
Mae llawer o'r rhai gafodd eu diswyddo wedi gadael y cwmni ers i'r olaf o'r ffwrneisi chwyth gau ym mis Medi 2024.
Mae melinau dur ym Mhort Talbot yn dal i weithio, ac yn trin slabiau o ddur sydd wedi eu mewnforio. Yn y pen draw byddant yn cael eu cyflenwi â dur sy'n dod o'r ffwrnais drydan newydd.