Cerdded Cymru eto i gwblhau 11,000 milltir ar ôl canser

Ursula MartinFfynhonnell y llun, One Woman Walks/Facebook
  • Cyhoeddwyd

Un ar ddeg mlynedd ers iddi godi pac a cherdded 3,700 milltir drwy Gymru tra roedd yn dod dros driniaeth am ganser, a phedair blynedd ers cwblhau taith 5,500 milltir drwy Ewrop, mae dynes o'r Drenewydd yn ôl ar y lôn.

Y tro yma mae Ursula Martin yn cerdded 400 milltir drwy Gymru yn ymweld â siopau llyfrau i hyrwyddo'r ddwy gyfrol a ysgrifennodd am ei theithiau, One Woman Walks Wales a One Woman Walks Europe.

Yna, bydd hi'n cau pen y mwdwl drwy gerdded 1,300 milltir arall o Land's End i John O'Groats.

"Y rheswm roeddwn i eisiau gwneud y daith lyfrau yma oedd achos ro'n i wedi cerdded tua 9,000 o filltiroedd i gyd ar y daith drwy Gymru a thaith Ewrop ac ro'n i'n meddwl beth alla' i ei wneud i gael fy hun dros y 10,000 milltir?" meddai wrth siarad â Cymru Fyw hanner ffordd drwy ei thaith.

"Erbyn i mi gyrraedd John O'Groats fis Hydref mi fydda' i wedi cerdded 11,000 o filltiroedd ac mae hynny'n teimlo fel tynnu llinell fach daclus dan bob dim."

Codi ymwybyddiaeth

Roedd Ursula yn 31 mlwydd oed ac yn mwynhau antur yn Ewrop pan gafodd ddiagnosis o ganser yr ofari.

Roedd ei thaith gyntaf drwy Gymru yn un a ddechreuodd wrth geisio prosesu ei diagnosis ac i godi arian ac ymwybyddiaeth o'r salwch.

Roedd y daith drwy Ewrop yn fwy uchelgeisiol, gydag elfen o ailafael yn ble roedd hi yn ei bywyd cyn y diagnosis. Bu ar y daith am bron i dair blynedd gan gerdded o Wcráin nôl i Gymru.

mapFfynhonnell y llun, Ursula Martin
Disgrifiad o’r llun,

Map yn dangos taith Ursula drwy Ewrop

Taith 'ryfeddol' ond poenus

Ar y daith honno fe brofodd haelioni dieithriaid, golygfeydd anhygoel, peryglon, eithafion tywydd, poenau ac unigrwydd, gan gynnwys chwe mis anodd iawn ar ei phen ei hun yn llwyr dros gyfnodau clo Covid.

"Roedd yr holl daith yn rhyfeddol," meddai.

PyreneauFfynhonnell y llun, Ursula Martin
Disgrifiad o’r llun,

Llwybr yn mynd drwy mynyddoedd y Pyreneau ger Andorra

Ond roedd yn falch pan ddaeth i ben.

"Fe aeth taith Ewrop â fi i lefel eithafol o straen ar fy nghorff, ac fe adawodd fi efo rhywfaint o broblemau cefn.

EiraFfynhonnell y llun, Ursula Martin
Disgrifiad o’r llun,

Ursula'n cerdded trwy'r eira yn Rwmania

"Wnes i wthio fy hun ymhell tu hwnt i'r hyn ro'n i'n gallu ei ddioddef. Roedd mor boenus erbyn y diwedd, dim ond ewyllys wnaeth fy ngwthio i at y diwedd – ro'n i'n falch iawn mod i wedi ei wneud ond fedrwn i ddim cario ymlaen.

"Felly wrth wynebu'r daith lyfrau yma rydw i wedi cwestiynu fy ngallu, yn gorfforol i'w chyflawni. Ond dwi jyst yn ei wneud yn arafach nag oeddwn i'r blaen," meddai.

Hyd yma mae wedi cael mwynhad mawr yn ailymweld â llefydd a gerddodd ar ei thaith drwy Gymru 11 mlynedd yn ôl.

walFfynhonnell y llun, One Woman Walks/Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Cysgodd Ursula ger y wal hon ar lwybr arfordir Ceredigion ar ei ffordd rhwng Aberaeron ac Arberth

"Mae rhywun yn llithro'n ôl i fod ar antur yn hytrach na bod yn eich bywyd bob dydd arferol a'r holl bethau yma yn eich dyddiadur. Dim ond un peth sydd yn fy nyddiadur rŵan, a cherdded ydi hwnnw!"

Lles meddyliol

Dechreuodd gerdded er mwyn "teimlo'n normal eto" ar ôl canser ac mae'n amlwg ei bod yn mwynhau gwthio ei hun yn gorfforol a meddyliol. Ond mae'n trafod pethau eraill a allai fod yn ei hysgogi yn ei llyfrau: ei phlentyndod anodd, byw bywyd ar ei phen ei hun a'r ymgais i gyrraedd rhyw dawelwch meddwl.

"Mae'r mwynhad sy'n dod o ymgolli mewn rhywbeth fel hyn yn debyg i feddylgarwch lle mai'r unig bethau sy'n bwysig i chi ydi beth sy'n digwydd yr eiliad hon," meddai.

gwairFfynhonnell y llun, Ursula Martin

"Mae meddwl am ddim ond y mwsogl gwlyb dan eich pen ôl, y goeden hardd o'ch blaen neu'r blodyn tlws ar lawr yn dod yn bwysicach na'r holl ofidiau sy'n troelli yn ein meddyliau mewn bywyd bob dydd ac rydych chi'n gallu eu gadael nhw i fynd ryw ychydig," esbonia.

"Mae rhywbeth yn digwydd yn feddyliol sy'n rhoi gwerthfawrogiad dyfnach i chi, mae bron fel bod mewn breuddwyd, neu stâd o fyfyrdod; dyna ydi effaith trochi eich hun mewn natur am gyfnodau hir o amser ac mae mor llesol i bobl.

"Ond allwch chi ddim sylweddoli gwerth gwneud hynny nes i chi gymryd y cam cyntaf yna."

Un cam ar y tro

campFfynhonnell y llun, Ursula Martin

Doedd ganddi ddim ofn ar ei phen ei hun, yn enwedig ar ei thaith i lefydd dieithr yn Ewrop ble mae'n disgrifio sawl sefyllfa heriol yn ei llyfr.

"Mae'r rhagweld bob amser yn waeth na'r realiti, a'r unig ffordd i ddod dros hynny ydi drwy ei wneud o, rhaid i chi gymryd y cam yna," meddai.

"A wnes i ddim mynd yn syth i mewn i sefyllfa o fod ar ochr mynydd efo eirth neu gŵn a dynion cas i gyd ar yr un pryd, mae'n digwydd bob yn dipyn, ac mi fedrwch chi ddelio efo nhw'n unigol.

"Mae fel y canser; does neb yn meddwl bod nhw'n gallu ymdopi efo canser ac ro'n i'n glaf diflas, llawn hunan-dosturi, do'n i ddim yn arwr.

"Ond, er mor ofnadwy oedd o, ddes i drwyddi gam wrth gam.

"Roedd pawb yn sôn sut ro'n i wedi 'wynebu canser' ond dydych chi ddim [yn ei 'wynebu'], rydych chi jyst yn dod drwyddi un dydd ar y tro. Ac mae'r un peth efo'r math yma o her."

Ursula MartinFfynhonnell y llun, Ursula Martin/Honno

Mae Ursula bellach wedi gorffen ei thriniaeth ganser ac wedi dewis tynnu llinell dan y cyfnod hwnnw yn ei bywyd hefyd.

Ar ôl y daith hon, does ganddi ddim bwriad gwneud un arall ar hyn o bryd.

Bellach yn 45 mlwydd oed ac wedi magu gwreiddiau yng nghanolbarth Cymru mae hi'n teimlo ychydig yn fwy sefydlog meddai.

Er iddi gael ei geni yn Abertawe, yn Swydd Derby y cafodd ei magu, a daeth 'nôl i Gymru, gwlad enedigol ei thaid, yn 19 oed a chanfod ei chartref yma.

"Efallai y gwna i gario ymlaen i wneud heriau endurance neu gerdded yn y dyfodol ond dwi ddim yn credu y byddan nhw mor fawr," meddai.

Deg milltir y dydd

dynes ar lwybrFfynhonnell y llun, One Woman Walks/Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Cerdded o Ddolgellau i Geinws

Mae'n garedicach gyda'i hun ar y daith hon, gan mai cyrraedd ei hapwyntiad nesaf yn y siopau llyfrau sy'n bwysig, nid cyfrif pob un filltir yn ddeddfol.

"Mae'r daith yma'n wahanol i unrhyw beth dwi wedi ei wneud o'r blaen achos dwi wedi gorfod amserlennu popeth o flaen llaw," meddai.

"Yn amlwg all siop lyfrau ddim aros i mi gyrraedd – mae'n rhaid imi fod yno ar amser."

I wneud yn siŵr o hynny, mae wedi rhoi targed o 10 milltir y dydd i'w hun; sy'n dipyn o her i'r rhan fwyaf o bobl, ond i Ursula mae hyn yn rhoi digon o amser iddi gyrraedd ei hapwyntiad nesaf mewn da bryd.

"Ar daith Ewrop ro'n i'n cerdded rhwng 12 a 15 milltir y dydd, weithiau allwn i wneud 18 os o'n i ar dir fflat, braf, hawdd. Felly dwi'n gwybod os oes gen i'r egni y galla' i wthio fy hun i 18 milltir os oes angen," meddai.

Ei stop nesaf fydd Caerfyrddin ar 10 Ebrill, yna bydd yn galw heibio i siopau yn Abertawe, Caerdydd, Llandeilo, y Fenni a'r olaf yng Nghas-gwent ar 3 Mai.

Y bwriad ydi gorffen y daith drwy Gymru ar 6 Mai, cael wythnos o hoe, ac yna cychwyn ar ail ran y daith o bum mis a chyrraedd pen pella'r Alban ddiwedd Hydref, wedi hen groesi'r nod o 10,000 milltir.

Pynciau cysylltiedig