Dai Jones, Llanilar - portread gan ffrind i godi arian i'r Sioe Fawr

Y portread o Dai Jones gan Wynne Melville JonesFfynhonnell y llun, Wynne Melville Jones
Disgrifiad o’r llun,

Y portread o Dai Jones gan Wynne Melville Jones

  • Cyhoeddwyd

Os oes ‘na un Cymro sy’n cael ei gysylltu gyda’r Sioe Fawr, mae'n debyg mai'r diweddar Dai Jones Llanilar fyddai hwnnw.

Fel cyflwynydd rhaglen S4C o'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd am ddegawdau - heb sôn am gyfarch a tharo sgwrs efo pawb oedd yn mynd heibio - roedd yn gymeriad amlwg yn ystod wythnos 'y show'.

Ac felly mae’n siŵr y byddai’r amaethwr a’r cyflwynydd teledu wrth ei fodd o wybod ei fod unwaith eto yn helpu digwyddiad oedd yn agos iawn at ei galon.

A hynny gan fod artist o Geredigion wedi peintio portread ohono er mwyn codi arian.

Mae Wynne Melville Jones, oedd yn un o ffrindiau Dai, yn gobeithio bydd arwerthiant yn rhoi hwb ariannol i'r sioe amaethyddol, sy'n cael ei chynnal eleni rhwng 22-25 Gorffennaf.

Ffynhonnell y llun, Wynne Melville Jones
Disgrifiad o’r llun,

Wynne Melville Jones neu Wyn Mel (ar y dde) yn cyflwyno ei bortread o Dai Jones, Llanilar i Rowland Davies, Dol-Cletwr, aelod o bwyllgor Sioe'r Cardis 2024

Ceredigion ydy’r sir sy’n noddi’r Sioe Fawr eleni, ac felly mae disgwyl iddi godi arian i’w roi i’r sioe yn ganolog.

Mewn cyfnod pan fo’r esgid yn gwasgu oherwydd y sefyllfa ariannol, mae codi arian at achosion da yn gallu bod yn anodd. Felly mae’r artist wedi cyflwyno’r llun i bwyllgor Sioe’r Cardis 2024, gyda’r syniad o werthu’r llun mewn ocsiwn.

Dywedodd Wynne, sy’n gweithio o stiwdio yn ei gartref yn Llanfihangel Genau'r Glyn yng Ngheredigion, iddo baentio'r darlun hwn fel teyrnged bersonol i Dai wedi ei farwolaeth yn 2022, yn 78 oed.

Meddai: "Dai Jones oedd y llysgennad gorau erioed i gefn gwlad Cymru, i amaethyddiaeth ac i'r Sioe Fawr.

"Roedd yn meddwl y byd o'r Sioe ac yn cyfeirio ati yn gyson fel 'y Sioe Ore yn y Byd'.

"Un flwyddyn, sbel yn ôl, cefais y dasg o arwain Dai o un cornel o faes Llanelwedd i'r cornel pellaf un ar gyfer cyfweliad ar y cyfryngau. Tasg heriol, bron yn amhosibl a thaith a gymerodd ddwyawr. Roedd pawb yn nabod Dai ac yntau yn benderfynol o gyfarch pawb.”

Arlunio wedi ymddeoliad

Fe ddechreuodd Wynne, fu’n gweithio yn y byd cysylltiadau cyhoeddus am 40 mlynedd, beintio wedi iddo ymddeol.

Mae rhai o'i luniau yn America; yn eu plith mae un yng nghasgliad celf yr Arlywydd Jimmy Carter ac un arall yng nghartref Elvis yn Graceland.

Meddai: “Ychydig yn ôl fe gyflwynais ddarlun o Eglwys y Mwnt er mwyn ei werthu i gronfa i godi arian i adfer yr adeilad wedi iddo gael ei ddifrodi gan fandaliaeth.

"Fe werthwyd hwnnw am £900. Cawn weld beth fydd hanes hwn. Y bwriad yw gobeithio rhoi hwb munud olaf i'r gronfa leol.

“Fel rwy’n deall y bwriad yw ei werthu mewn achlysur - cinio dathlu hwyrach - ym mis Rhagfyr. Mae nawdd Sioe'r Cardis yn cynnwys y Ffair Aeaf.”

Disgrifiad o’r llun,

Dai Jones, Llanilar

Bydd cyfle i weld y llun yn y Sioe Fawr wythnos nesaf gyda’r portread yn cael ei arddangos ym mhafiliwn Cambrian ac adeilad S4C.

Un o uchafbwyntiau bywyd Dai Jones, fu hefyd yn cyflwyno Cefn Gwlad, Sion a Siân a rhaglen Radio Cymru Ar eich Cais am ddegawdau, oedd cael ei ethol yn Llywydd Sioe Frenhinol Cymru yn 2010 ym mlwyddyn nawdd Ceredigion.

Fe ddaeth nifer o anrhydeddau iddo hefyd gan gynnwys Gwobr Goffa Syr Bryner Jones am wasanaeth i'r Sioe Frenhinol a’r MBE.

Dai yn 'berson unigryw'

Meddai Wynne am Dai: “Roedd Dai yn berson unigryw yn bersonoliaeth gynnes, hoffus a lliwgar ac roeddwn fel llawer iawn o bobl eraill yn ei ystyried yn ffrind ffyddlon a theyrngar.

"Roeddwn hefyd yn ystyried fy hun yn freintiedig iawn o gael ymuno ag e a llond llaw o gymeriadau tebyg bob blwyddyn dros y degawdau i ddathlu'r Nadolig dros ginio yn Aberystwyth yn ystod y dyddiau yn arwain fyny at y 'diwrnod mawr'.

"Roedd yn brofiad hynod a'r diwrnod yn ddieithriad yn datblygu yn naturiol i fod yn Noson Lawen heb derfyn iddi a Dai wrth ei fodd yng nghanol y rhialtwch. Byddai'r hwyl a'r chwerthin yn fyw iawn yn y cof fisoedd wedyn.”

Pynciau cysylltiedig