Troi'r dudalen ar gyfnod Page fel rheolwr Cymru

Robert Page yn dathluFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Robert Page yn dathlu wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Wcrain yn 2022

  • Cyhoeddwyd

Mae pennod arall yn hanes tîm pêl-droed dynion Cymru wedi ei chwblhau wrth i Robert Page adael ei rôl fel rheolwr.

Roedd yr ysgrifen ar y mur i Page wedi gêm gyfartal ddi-sgor yn erbyn Gibraltar - sydd yn safle 203 yn rhestr detholion Fifa – a cholled o 4-0 yn Slofacia yn gynharach yn y mis.

Er mai gemau cyfeillgar oedd rhain a gyda nifer o chwaraewyr amlwg yn absennol, y teimlad oedd bod cyfnod Page yn dirwyn i ben.

Byddai llawer wedi dadlau y dylai wedi mynd yn sgil methiant Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2024.

Ar ôl colli ar giciau o’r smotyn i Wlad Pwyl yn y gemau ail gyfle roedd Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Steve Williams wedi datgan cefnogaeth i’r rheolwr.

Ond yn y pendraw - ac yn arwyddocaol - fe gollodd Page gefnogaeth rhai o aelodau'r Wal Goch.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Bale (chwith) a Robert Page yn ystod sesiwn ymarfer

Roedd ymateb y cefnogwyr oedd wedi teithio i'r gemau ddiwedd tymor yn chwyrn.

Cyfaddefodd Page ei fod yn teimlo'n "isel" ar ôl gweld ymateb y dorf yn dilyn y golled yn Slofacia.

Roedd hefyd yn cydnabod bod ei ddyfodol fel rheolwr yn y fantol.

Bu’n rhaid aros dros wythnos wedi’r gêm yn Slofacia cyn y daeth cadarnhad swyddogol y byddai Page yn gadael ei swydd y bu ynddi ers Tachwedd 2020.

Roedd wedi cydio yn yr awenau dros dro ar ôl i Ryan Giggs gael ei gyhuddo o ymddwyn mewn modd oedd yn rheoli drwy orfodaeth ac o ymosod ar ei gyn-gariad.

Yn ddiweddarach cafodd achos llys yn erbyn Giggs ei ddileu wedi i Wasanaeth Erlyn y Goron dynnu'r cyhuddiadau'n ôl.

Ond erbyn hynny roedd Page wedi ei benodi yn rheolwr parhaol.

Cyrraedd Cwpan y Byd

Page oedd wrth y llyw ar gyfer rowndiau terfynol Euro 2020, gynhaliwyd flwyddyn yn hwyrach oherwydd y pandemig.

Er i Gymru lwyddo i gyrraedd rownd yr 16 olaf, roedd colled o 4-0 yn erbyn Denmarc a pherfformiad hynod siomedig yn codi cwestiynau am allu tactegol y rheolwr.

Serch hynny fe lywiodd Page Cymru i rowndiau terfynol Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958 – gyda Gareth Bale yn serennu ac yn sgorio’r gôl fuddugol yn y gêm ailgyfle yn erbyn Wcrain.

Wedi hir ymaros ac edrych ymlaen at Gwpan y Byd, siomedig a difflach oedd perfformiadau a chanlyniadau Cymru yn Qatar gyda chwestiynau yn codi am allu'r rheolwr unwaith eto.

Roedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru - yn annoeth yn ôl rhai - wedi rhoi cytundeb pedair blynedd newydd i Page cyn y gystadleuaeth.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Rob Page yn arwyddo llofnodion ar faes Eisteddfod yr Urdd 2023 yn Llanymddyfri

Gyda Bale a Joe Allen yn gadael y llwyfan rhyngwladol, roedd Page yn mynnu bod Cymru yn wynebu cyfnod o drawsnewid wrth fynd mewn i gemau rhagbrofol Euro 2024.

Ar ôl ennill pedwar pwynt o’r ddwy gêm agoriadol – gan gynnwys gêm gyfartal hwyr annisgwyl yn erbyn Croatia – derbyniodd gobeithion Cymru glec wrth golli o 4-2 gartref yn erbyn Armenia.

Roedd colled yn Nhwrci yn ergyd arall ond fe ddaeth buddugoliaeth – a pherfformiad arbennig – yn erbyn Croatia i atgyfodi’r gobeithion.

Daeth y fuddugoliaeth honno yn sgil amheuon am ddyfodol Page oedd wedi codi yn dilyn adroddiad papur newydd oedd yn honni fod CBDC am benodi'r Gwyddel Roy Keane yn ei le.

Fe gythruddwyd Page a’r chwaraewyr gan y sibrydion hynny, gyda'r capten Ben Davies yn datgan siom am y "sŵn" oedd wedi codi am ddyfodol y rheolwr.

Ond wedi gemau cyfartal yn erbyn Armenia a Thwrci ar ddiwedd y grŵp rhagbrofol byddai’n rhaid i Gymru geisio cyrraedd Euro 2024 yn Yr Almaen trwy'r gemau ailgyfle.

Trechwyd y Ffindir o 4-1 yn y rownd gyn-derfynol ond fe chwalwyd y freuddwyd o gyrraedd yr Euros am y trydydd tro yn olynol wrth golli ar giciau o’r smotyn i Wlad Pwyl yng Nghaerdydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Cymru fethu allan ar le yn Euro 2024 ar ôl colli i Wlad Pwyl yn y gemau ailgyfle

Serch hynny fe wnaeth Page dderbyn cefnogaeth amlwg gan rai o fewn y CBDC - ond fe newidiodd hynny wedi'r gemau cyfeillgar yn erbyn Gibraltar a Slofacia.

Er y diweddglo siomedig i'w gyfnod wrth y llyw, mae Page wedi hawlio ei le yn y llyfrau hanes drwy arwain Cymru i Gwpan y Byd.

Yn ŵr bonheddig, mae wedi bod yn llysgennad da oddi ar y cae - ond yn y pendraw y canlyniadau a'r perfformiadau ar y cae sy'n cyfri.

Tra bod sylw'r byd pêl-droed ar yr Euros, mae'r byd pêl-droed yng Nghymru yn troi sylw at bwy fydd rheolwr nesaf ein tîm cenedlaethol.