Dysgwr y Flwyddyn 2024: Cwrdd â Josh Morgan

Josh Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Josh yn dweud fod penderfynu dysgu'r iaith wedi newid ei fywyd

  • Cyhoeddwyd

Cyfnod yn byw dramor wnaeth ysgogi Josh Morgan i fynd ati i ddysgu'r Gymraeg.

Mae'r darlunydd a'r athro - sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd - yn dweud fod cyfnod yn Ne Affrica wedi dangos iddo y gallai ddysgu'r iaith.

"Symudais i i dde Affrica a dysgais i isiXhosa a dyna’r tro cyntaf i mi sylweddoli ei bod hi’n bosibl i ddysgu iaith arall a hefyd mae’n bwysig iawn a hanfodol i brofi'r diwylliant.

"O'n i’n meddwl bo' fi’n berson oedd yn wael yn dysgu ieithoedd yn yr ysgol.

"Dwi wedi gwneud Almaeneg a gallai ddim siarad Almaeneg o gwbl, ond dwi wedi darganfod, trwy isiXhosa, bo' fi’n gallu siarad iaith arall, ac mae’n bwysig iawn i gael y diwylliant sy’n cefnogi chi ac i gwrdd â phobl sy’n hapus bo' chi’n dysgu."

Cafodd ei fagu ar aelwyd ddi-Gymraeg a symud i Loegr pan oedd yn saith oed, gan ddychwelyd i Gymru i fynd i Brifysgol Caerdydd.

Mae bellach yn gweithio fel athro yn Ysgol Arbennig Greenfield, Merthyr Tudful, ac yn gwneud gwaith darlunio, gan gynnwys creu deunydd i helpu dysgwyr eraill.

"'Dwi wedi dechrau gyda llyfr o'r enw '31 Ways to hoffi coffi', jyst i fi a fy nheulu," meddai.

"Mae llawer o bobl wedi cefnogi fi gyda'r llyfr yma.

"Dwi wedi gorffen llyfr arall am Lanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch, a hefyd dwi’n darlunio ffordd trwy Hen Wlad Fy Nhadau hefyd er mwyn esbonio’r ystyr, jyst creu ffordd mewn i'r iaith i bobl sydd â diddordeb."

'Cysylltu Cymraeg efo pethau dwi'n caru'

Ymhlith y bobl sydd wedi bod o gymorth i Josh wrth iddo fynd ati i ddysgu'r Gymraeg, mae'r cyn-athro Phil Ellis o Gaerdydd.

Wnaeth y ddau gwrdd trwy Eglwys Glenwood yn y ddinas, ac maen nhw'n cwrdd i sgwrsio a chwarae cerddoriaeth gyda'i gilydd.

"Dwi’n credu bo fi wedi cael fy sgwrs gyntaf go iawn yn Gymraeg gyda Phil," meddai Josh.

"Mae’n gwneud lot yn codi hyder, ac mae wedi helpu i gysylltu Cymraeg gyda phethau dwi’n caru.

Disgrifiad o’r llun,

Mae sgwrsio gyda Phil Ellis wedi rhoi cyfle i Josh ymarfer ei Gymraeg

"Mae'r ddau ohonom ni yn rili caru cerddoriaeth a dwi hyd yn oed wedi dechrau trio 'sgrifennu cwpwl o ganeuon yn Gymraeg.

"Mae wastad pethau anghywir yn y caneuon a ma’ Phil yn helpu i gywiro fi!"

I Phil Ellis, mae'n brofiad arbennig i helpu Josh gyda'r Gymraeg

"Da ni yn cael sgwrs," meddai, "wedyn pan mae Josh yn dod yn sownd ‘da ni’n stopio siarad ac yn ysgrifennu rhywbeth.

"Mae Josh yn dda iawn am nodi geiriau newydd – os oes geiriau newydd yn dod – mae e’n rhoi’r gair ar ei ffôn."

'Dim rhan o fy mywyd heb y Gymraeg'

Mae Josh yn bendant fod penderfynu dysgu'r iaith wedi newid ei fywyd.

"Does dim rhan o fy mywyd heb y Gymraeg nawr, yn enwedig gyda fy nheulu.

"Doedd neb o fy nheulu’n siarad Cymraeg ond fi’n siarad, mae fy ngwraig yn dysgu, mae fy mhlant hefyd yn yr ysgol Gymraeg, ac mae fy nhad a fy nithoedd a fy mrawd yn dechrau dysgu.

"Mae’n surreal i weld ond mae’n fraint – dwi’n rili mwynhau cael cwpwl o sgyrsiau bach gyda nhw."

Mae Josh yn mwynhau'r broses o ddysgu'r iaith hefyd: "Dwi’n caru'r broses o ddarganfod pob gair – pob gair yn dod ag ystyr newydd a safbwynt newydd am y byd.

"Dyw e ddim jyst yn offeryn i siarad ‘da mwy o bobl ond mae’n perspective gwahanol ar y byd.

"Bydd e’n wych i fod yn hollol rugl ond actually mae'r broses yn rili ychwanegu lot at fy mywyd."

Fe fydd Josh yn ymddangos ar lwyfan y pafiliwn ar gyfer seremoni Dysgwr y Flwyddyn ym mhafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd, gyda'r tri arall sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol

"Dwi erioed wedi bod i’r Eisteddfod Genedlaethol o’r blaen so dwi ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl ond dwi’n gynhyrfus i fynd.

"Mae’n fraint go iawn i fod yn rhan o’r dathliad," meddai.