'Pobl wedi marw' yn sgil oedi gwella gofal iechyd meddwl
- Cyhoeddwyd
Mae honiadau bod bywydau wedi eu colli oherwydd nad yw gwelliannau i wasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru wedi eu gwneud yn ddigon cyflym.
Daw'r cyhuddiad gan y corff annibynnol Llais, sy'n ymgyrchu ar ran y cyhoedd am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o'r safon uchaf.
Dros y degawd diwethaf mae pedwar adroddiad gwahanol wedi cynnig 84 o argymhellion i wella'r gwasanaeth iechyd meddwl yn y gogledd.
Ond mae adolygiad newydd gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion wedi canfod mai llai na hanner yr argymhellion sy'n cael eu gweithredu ar hyn o bryd.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymddiheuro ac yn dweud eu bod yn benderfynol o wella'r sefyllfa.
'Mae'r degawd diwethaf yn boenus'
Wrth drafod y mater ar Dros Frecwast fore Iau dywedodd y cadeirydd Dyfed Edwards, nad yw'n bosib dweud yn union beth aeth o'i le ond "yr hyn sy'n bwysig yw beth rydyn ni am ei wneud o rŵan ymlaen".
"Mae'r degawd diwethaf yn boenus, a'n neges ni heddiw yw bod yr adroddiad yn rhoi cyfle i ni gydio yn y dyfodol, ac rydyn ni'n gwneud hynny gyda'r nod o gydweithio gyda theuluoedd a gyda phobl eraill sy'n defnyddio ein gwasanaethau heddiw er mwyn creu'r gwasanaethau iechyd a lles gorau posib ar gyfer pobl y gogledd."
Daeth gwybodaeth am broblemau o fewn gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru yn gyhoeddus am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 2013 pan gaewyd ward dementia Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd yn ddi-rybudd.
Dywedodd adroddiad i'r problemau yno fod rhai cleifion oedrannus yn cael eu trin “fel anifeiliaid mewn sŵ”.
Ond hyd yn oed cyn hynny roedd y bwrdd iechyd yn ymwybodol o broblemau yn uned iechyd meddwl Hergest yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Daeth ymchwiliad i'r casgliad fod diwylliant o fwlio yno a morâl staff yn isel, oedd yn golygu nad oedd pryderon am ddiogelwch cleifion yn cael y sylw priodol.
Ar y cyfan, cynhaliwyd pedwar ymchwiliad ar wahân rhwng 2013 a 2018, a gwnaed nifer fawr o argymhellion i'w gweithredu er lles y gwasanaeth ar draws y gogledd.
37 o 84 argymhelliad wedi dod i rym
Eleni mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (CBS) wedi cynnal adolygiad i weld a gafodd y newidiadau hynny eu rhoi ar waith.
O'r 84 o argymhellion, mae'r CBS yn dweud mai dim ond 37 (44%) oedd yn cael eu gweithredu'n llawn a'u hymgorffori fel rhan o waith arferol staff.
Roedd rhywfaint o dystiolaeth, yn ôl y CBS, bod 41 o newidiadau yn cael eu rhoi ar waith (49%) a dim tystiolaeth ar gyfer y chwe argymhelliad arall (7%).
Bu farw Joyce Dickaty pan oedd hi'n derbyn triniaeth ar ward Tawel Fan yn 2012.
Mewn ymateb i'r adolygiad dywedodd ei mab, Phil Dickaty: “Roedd yr argymhellion hyn i fod i gael eu gwneud amser maith yn ôl.
“Mae’r ffaith ein bod ni yma yn dal i drafod pethau sydd heb eu gwneud, ddeng mlynedd ers yr achos gwaethaf, yn fy mhoeni i'n ofnadwy."
Mae adroddiad Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yn dweud bod angen i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr edrych ar frys ar ddiogelwch cleifion, yn enwedig y risg o gleifion yn ceisio niweidio eu hunain.
Yn gynharach y mis hwn, daeth crwner i'r casgliad bod esgeulustod gan y bwrdd iechyd wedi cyfrannu at farwolaeth claf mewn ward iechyd meddwl yn 2020.
Y llynedd, cafodd y bwrdd iechyd ddirwy ar ôl i glaf arall farw ar ôl hunan-niweidio mewn ysbyty gwahanol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llais, Geoff Ryall-Harvey: "Rydym wedi bod yn dweud wrth y bwrdd iechyd am lawer o'r deng mlynedd diwethaf nad yw pethau wedi'u gwneud, ac nad oedd pethau yr honnir eu bod wedi'u gwneud, wedi digwydd.
"Yn y deng mlynedd hynny bu nifer o ddigwyddiadau pellach – mae’r effaith wedi bod yn barhaus, ac mae mwy o drasiedïau a mwy o fywydau wedi'u colli yn ystod y cyfnod hwnnw.
"Yr hyn sydd ei angen arnom yw panel goruchwylio annibynnol a fydd yn cadarnhau pan fydd pethau wedi'u gwneud a phryd y gellir eu cymeradwyo."
- Cyhoeddwyd10 Mai
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2019
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi comisiynu'r adolygiad gan y CBS yn sgil "sawl adolygiad beirniadol, adroddiad ac erlyniad".
"Mae'r bwrdd iechyd wedi derbyn canfyddiadau'r adolygiad ac rydym yn disgwyl iddyn nhw gael eu gweithredu, a hefyd parhau i wneud gwelliannau wrth weithredu polisïau diogel ar draws y gwasanaethau iechyd meddwl.
"Rydym yn falch bod awduron yr adroddiad wedi sylwi ar ymroddiad staff y bwrdd iechyd a'u hymrwymiad clir i ofal cleifion a gwella'r gwasanaeth."
Dywedodd Carol Shillabeer, prif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Fel bwrdd rydym yn croesawu'n fawr yr adolygiad hwn o gynnydd, mae'n ein hatgoffa bod pobl wedi cael eu siomi ac rydym yn ymddiheuro'n llwyr amdano.
"Er gwaethaf treigl amser ni fyddwn byth yn anghofio gofal a phrofiadau gwael cleifion, eu gofalwyr a'u teuluoedd a arweiniodd at yr adolygiadau hyn a dyma sy'n parhau i'n gyrru ymlaen i wella'r safonau gofal, yn ogystal â'r driniaeth a ddarparwn.
"Er bod llawer o gynnydd wedi'i wneud mae mwy eto i'w gyflawni ac mae'r bwrdd yn benderfynol o gymryd camau sy'n gwella gwasanaethau, a byddwn yn gwneud hynny ar y cyd â chleifion, eu gofalwyr a'u teuluoedd."