Gwraig dyn gafodd ei ladd gan eu mab yn galw am ymchwiliad

Mae Jane Harrison yn dweud bod ei theulu wedi dioddef "yn ofnadwy" ers i'w gŵr Kim gael ei ladd gan eu mab
- Cyhoeddwyd
Mae gwraig dyn a gafodd ei ladd gan eu mab, oedd wedi dianc o ysbyty iechyd meddwl, yn galw am ymchwiliad cyhoeddus i'r hyn ddigwyddodd.
Roedd Daniel Harrison, 37, wedi ymosod ar ei dad, Dr Kim Harrison, yng nghartref y teulu yng Nghlydach, Abertawe, ym mis Mawrth 2022.
Clywodd cwest i farwolaeth Dr Harrison bod methiannau difrifol gan awdurdodau wedi cyfrannu at farwolaeth y meddyg.
Mae Bwrdd Iechyd Bae Abertawe wedi "ymddiheuro yn ddiamod am ein methiannau yn yr achos yma".

Bu farw Dr Kim Harrison yn yr ysbyty ar ôl i'w fab ymosod arno yng nghartref y teulu
Cafodd Daniel Harrison, 37, ei gadw'n gaeth am gyfnod amhenodol o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl am ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.
Dywedodd mam Daniel, Dr Jane Harrison, fod y cwest wedi “datgelu methiannau niferus” yng ngofal ei mab.
"Mae ein teulu ni wedi diodde'n fawr yn sgil yr hyn ddigwyddodd dan oruchwyliaeth rheolwyr a gweithwyr proffesiynol," meddai.
"Rydyn ni'n galw am ymchwiliad annibynnol i wasanaethau iechyd meddwl ym Mae Abertawe.
"Yr unig ffordd mae modd delio â'r materion diwylliannol a'r methiannau proffesiynol a systemig yma yw cael rhywun allanol i gynnal ymchwiliad."
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2022
Dywedodd crwner cynorthwyol y de-orllewin, Kirsten Heaven, yn y cwest fis Ebrill fod swyddogion Bwrdd Iechyd Bae Abertawe a Chyngor Abertawe wedi mabwysiadu "meddylfryd cadarn" ac agwedd "amddiffynnol" pan roedd teulu Harrison wedi gofyn am gymorth gyda chyflwr iechyd meddwl eu mab, oedd yn dirywio.
Clywodd y cwest am "gyfleoedd a gafodd eu colli" i helpu Daniel Harrison ar ôl iddo roi'r gorau i gymryd meddyginiaeth gwrthseicotig tua 2019, a gwrthod trafod gyda gwasanaethau iechyd.
Yn ôl y crwner, roedd asesiad iechyd meddwl yng ngorsaf Heddlu Abertawe ym mis Ebrill 2021, a ddaeth i'r casgliad nad oedd modd ei gadw o dan y ddeddf iechyd meddwl, yn "ddiffygiol ofnadwy" oherwydd na chafodd gwybodaeth ychwanegol am feddyliau paranoid a chynyddol ymosodol Daniel Harrison am ei rieni eu harchwilio.

Mae'r Dr Jane Harrison - yma gyda'i meibion eraill - yn dweud nad yw ei theulu'n gallu deall sut y gallai hyn fod wedi digwydd
Dywedodd bod y seiciatrydd dan sylw, yr Athro Peter Donnelly yn "rhy barod i dderbyn bod Daniel yn rhoi atebion rhesymol yn hytrach na chamargraffiadau paranoid".
Dywedodd y crwner hefyd fod yr Athro Donnelly wedi ymddwyn mewn modd "hynod ddi-hid" wrth ganiatáu Daniel Harrison yn ôl i'r gymuned, ar ôl dweud wrth y cwest ei fod yn poeni am ei ddiogelwch ei hun wrth ystyried y risg o wneud ymweliad cartref.
Daeth y crwner i'r casgliad bod methiant Bwrdd Iechyd Bae Abertawe i "ymrwymo’n bendant" â Daniel Harrison yn y gymuned wedi caniatáu iddo syrthio’n ôl i mewn i ymddygiad seicotig wnaeth "o bosibl gyfrannu" at farwolaeth ei dad.
'Ymddiheuro yn ddiamod'
Dywedodd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe mewn datganiad: "Mae'r achos yma yn ddirdynnol ac yn gwbl drasig, ac ry'n ni'n cydnabod yr effaith ofnadwy ar deulu a ffrindiau Dr Harrison yn llawn.
"Ry'n ni'n ymddiheuro yn ddiamod am ein methiannau yn yr achos yma, ac yn benderfynol o ddysgu a gwneud popeth o fewn ein gallu i osgoi achos tebyg yn y dyfodol.
"Ry'n ni'n cydnabod bod gwybodaeth sy'n cael ei roi gan aelodau o'r teulu am gleifion yn hanfodol wrth gynllunio a darparu gofal, ac ry'n ni bellach wedi cryfhau ein prosesau i sicrhau bod yr wybodaeth bwysig yma yn cael ei gofnodi a'i rannu gyda thimau clinigol.
"Yn ogystal, mae mesurau diogelwch yn cael eu cryfhau yn Ward F Ysbyty Castell-nedd Port Talbot fydd yn golygu bod ardaloedd ychwanegol o amgylch allanfeydd y bydd modd eu cloi.
"Fe fyddan ni nawr yn ystyried canfyddiadau'r crwner yn llawn, ac yn cyflwyno unrhyw fesurau ychwanegol sydd eu hangen."